Dyma'r hyn yr ydym yn ei wneud:
Rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau ar gyfer trigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Rydym ni:
- Yn gwasanaethu poblogaeth o dros 124,000 o bobl
- Yn casglu sbwriel ac ailgylchu o dros 62,000 o aelwydydd
- Yn cynnal 2,500km o ffyrdd, 650 o bontydd a 15,000 o oleuadau stryd
- Yn darparu dros 97 o feysydd parcio sy'n cynnwys dros 8,000 o leoedd parcio
- Yn gyfrifol am 67 o ysgolion, gan ddarparu addysg i dros 18,300 o ddisgyblion
- Yn darparu cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol; gwasanaethau gwarchod plant, diogelu a gwasanaethau ieuenctid
- Yn berchen ar, ac yn rheoli dros 5,600 o gartrefi
- Yn darparu gwybodaeth a chyngor i oedolion i'w helpu nhw i fyw'n annibynnol yn y gymuned, yn ogystal â chymorth uniongyrchol i dros 5,000 o oedolion sy'n agored i niwed
- Yn datblygu Cynllun Datblygu Lleol a'i adolygu bob pedair blynedd, ac yn prosesu oddeutu 1,200 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn
- Yn darparu ystod eang o wasanaethau diogelu'r cyhoedd, gan gynnwys iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a thrwyddedu
- Yn helpu i gynnal traethau arobryn Sir Benfro, sy'n gallu hawlio 12 Baner Las, 14 Gwobr Arfordir Gwyrdd a 28 Gwobr Glan Môr
- Yn rheoli cyfleusterau hamdden y sir, ynghyd â'r llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifdai