Perfformiad ac Ystadegau
Fframwaith Rheoli Perfformiad
Mae’r ddogfen hon yn egluro’r modd y byddwn yn ymdrin â rheoli perfformiad. Mae’n disgrifio’r systemau, y strwythurau a’r trefniadau ategol yr ydym wedi eu sefydlu er mwyn canfod ac ymateb i faterion perfformiad a chynnal gwelliant parhaus.
Mae ein Fframwaith Rheoli Perfformiad yn berthnasol i bob gwasanaeth y mae’r Cyngor yn ei reoli’n uniongyrchol. Fodd bynnag, mae modd hefyd ei gymhwyso i’r gwasanaethau hynny yr ydym yn eu cyflenwi ar y cyd â sefydliadau eraill: sefydliadau sy’n bartneriaid statudol, cyrff cyflenwi rhanbarthol a’n hysgolion.
ID: 2858, adolygwyd 12/01/2023