Perfformiad ac Ystadegau
Hunanasesiad Blynyddol 2025-26
Dyma bumed hunanasesiad blynyddol Cyngor Sir Penfro, fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Cyflwynodd y Ddeddf ofynion perfformiad ar gyfer awdurdodau lleol ac, yn ganolog i hyn, mae dyletswydd i adrodd yn flynyddol ar berfformiad drwy broses hunanasesu. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru barhau i adolygu, drwy hunanasesu, i ba raddau y mae’n bodloni’r ‘gofynion perfformiad’, sef i ba raddau:
- Mae’n arfer ei swyddogaethau’n effeithiol
- Mae’n defnyddio ei adnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol
- Mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau’r uchod
Rhaid llunio adroddiad hunanasesu ar gyfer pob blwyddyn ariannol a’i gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’n adrodd arni. Fel y cyfryw, dyma adroddiad hunanasesu’r cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26.
Mae’r adroddiad yn nodi casgliadau’r cyngor ar y graddau y mae wedi bodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno, ac unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd, neu eisoes wedi’u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.
Er mwyn darparu strwythur a ffocws clir, mae ein hadroddiad hunanasesu wedi’i alinio ag amcanion llesiant statudol y cyngor, ac wedi’i gynllunio o’u hamgylch, fel y’u nodir yn Strategaeth Gorfforaethol 2025–2030, a gymeradwywyd gan y cyngor ym mis Mawrth 2025. Mae’r rhain fel a ganlyn:
- WBO1 Ein Dyfodol – galluogi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc, gan eu cyfarparu â sgiliau ar gyfer y dyfodol
- WBO2 Ein Lle Ni – lleoedd llewyrchus, gydag amgylcheddau glân, diogel a chynaliadwy, lle gall pobl fyw’n dda a ffynnu
- WBO3 Ein Cymuned – gofalu am bobl, a galluogi cymunedau gweithredol, dyfeisgar a chysylltiedig
- WBO4 Ein Cyngor – cyngor sy’n gynaliadwy’n ariannol, wedi’i lywodraethu’n dda, a chanddo weithlu sy’n gallu cefnogi’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu
Yn ogystal, mae’r adran olaf yn ymdrin â blaenoriaethau corfforaethol neu sefydliadol allweddol nad ydynt wedi’u cynnwys o dan yr amcanion llesiant a restrir uchod.
Mae hunanasesu yn ddadansoddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan arwain at ddealltwriaeth o’r hyn y mae ystod o wybodaeth feintiol ac ansoddol sydd ar gael i’r cyngor yn ei ddatgelu ynghylch sut mae’n arfer ei swyddogaethau, yn defnyddio ei adnoddau ac yn llywodraethu ei hun. Rydym wedi gofyn tri chwestiwn allweddol i ni ein hunain er mwyn asesu perfformiad o dan bob is-thema. Mae’r rhain fel a ganlyn:
- Pa mor dda ydyn ni? (Asesu perfformiad cyfredol gan ddefnyddio gwybodaeth ansoddol a meintiol.)
- Sut ydyn ni’n gwybod? (Darparu tystiolaeth briodol i ddangos yr uchod.)
- Beth allwn ni ei wneud yn well a sut? (Nodi camau gwella sy’n edrych i’r dyfodol.)
Mae’r hunanasesiad yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau mewnol ac allanol, gan sicrhau sail dystiolaeth eang i lywio’r camau y bydd y cyngor yn eu cymryd i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad yn y dyfodol. Isod mae amrywiaeth o enghreifftiau o’r mathau o wybodaeth rydym wedi’u defnyddio fel sail dystiolaeth:
- Adrannau hunanasesu cynlluniau gwasanaeth
- Adroddiadau rheoleiddio allanol
- Adolygiadau gwasanaeth allanol
- Asesiad Perfformiad Panel
- Cerdyn sgorio perfformiad corfforaethol
- Ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori â dinasyddion
- Datganiad Llywodraethiant Blynyddol
- Adroddiad alldro cyllideb
- Adroddiadau statudol eraill, e.e. Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol