Perfformiad ac Ystadegau
Hunanasesiad Blynyddol 2022-23
Dyma ail hunanasesiad blynyddol Cyngor Sir Penfro fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Mae'r Ddeddf yn cyflwyno gofynion perfformiad newydd ar gyfer awdurdodau lleol ac wrth wraidd hyn mae dyletswydd i adrodd yn flynyddol ar berfformiad trwy broses hunanasesu. Mynna'r Ddeddf fod pob cyngor yng Nghymru’n cadw dan sylw, drwy hunanasesiad, i ba raddau y mae'n bodloni'r 'gofynion perfformiad', sef i ba raddau y:
- Mae’n arfer ei swyddogaethau'n effeithiol.
- Mae’n defnyddio ei adnoddau yn ddiwastraff, yn effeithlon ac yn effeithiol.
- Mae ei lywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau'r uchod.
Rhaid llunio adroddiad hunanasesu mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol a'i gyhoeddi cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n adrodd amdani. Fel y cyfryw, dyma adroddiad hunanasesu'r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.
Mae'r adroddiad yn nodi casgliadau'r Cyngor ynghylch i ba raddau y mae wedi bodloni'r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno, ac unrhyw gamau y mae'n bwriadu eu cymryd, neu sydd eisoes wedi'u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae'n bodloni'r gofynion perfformiad.
Mae nifer o egwyddorion cyffredinol eang sydd wedi llywio dull y Cyngor o ymgymryd â'r hunanasesiad hwn:
- Mae arweinyddiaeth a pherchnogaeth gorfforaethol yn allweddol i ddatblygu diwylliant o welliant.
- Mae angen ymgorffori proses hunanasesu ym mhrosesau cynllunio, perfformiad a llywodraethu corfforaethol y Cyngor - nid digwyddiad untro na phroses annibynnol mohoni.
- Derbynnir y bydd y broses hunanasesu yn esblygu ac yn cael ei mireinio'n barhaus. Rydym wedi adolygu'r fethodoleg a ddefnyddiwyd gennym y llynedd ac wedi ystyried sut y cynhyrchodd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru eu hadroddiadau hunanasesu. O ganlyniad rydym wedi gwneud rhai mân newidiadau i'n fframwaith hunanasesu eleni i fynd i'r afael â rhai bylchau blaenorol ac wedi manteisio ar gyfleoedd i atgyfnerthu rhai o'r is-themâu yn y fframwaith.
- Nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud â chyflwyno systemau a phrosesau newydd - yn hytrach, mae’n defnyddio'r hyn sydd eisoes ar waith mewn ffordd fwy cydlynol, integredig ac effeithiol.
Hunanasesiad corfforaethol yw hwn, nid asesiad o berfformiad gwasanaeth unigol.