Plant a Phobl Ifanc
Llyfrgell Anabledd a Synhwyraidd Aberdaugleddau
Sefydlwyd Llyfrgell Anabledd a Synhwyraidd Aberdaugleddau, mewn partneriaeth â Thîm Plismona Cymdogaeth Aberdaugleddau (MHNPT) a Llyfrgelloedd Sir Benfro. Defnyddiodd MHNPT arian grant i brynu teganau ac offer arbenigol er lles plant lleol gydag anghenion ychwanegol. Mae modd benthyca eitemau o Lyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Aberdaugleddau. Nid yw’r teganau’n cael eu harddangos yn gyhoeddus oherwydd diffyg lle yn y llyfrgell
Mae’r Llyfrgell ar agor i unrhyw deulu neu weithiwr proffesiynol sy’n byw neu’n seiliedig yn Aberdaugleddau, ac sy’n gofalu am blant neu oedolion gydag anghenion cymorth arbennig neu ychwanegol. Mae croeso i drigolion o ardaloedd eraill yn Sir Benfro ymuno ond iddynt allu ymweld â Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Aberdaugleddau i gasglu a dychwelyd yr eitem.
- Rhaid i lofnodwyr fod yn 18 neu hŷn ac yn aelod o Lyfrgelloedd Sir Benfro.
- I ymuno â’r llyfrgell rhaid i chi ddangos pwy ydych gyda rhywbeth sy’n dangos eich enw a chyfeiriad, ynghyd â thystiolaeth o anabledd.
- Fe all rhieni neu ofalwyr fenthyca hyd at 2 eitem am 3 wythnos.
- Fe all ysgolion, sefydliadau gofal a gweithwyr proffesiynol fenthyca hyd at 5 eitem am 3 wythnos.
- Caiff eitemau eu benthyca’n ddi-dâl, ond bydd angen talu blaendal ad-daladwy am rai eitemau.
- Mae rhestr o delerau ac amodau ychwanegol yn y catalog.
Cyn ymweld, ffoniwch (01437 771888) neu e-bostio’r milfordhavenlibrary@pembrokeshire.gov.uk i drefnu casglu’r eitem.