Plant a Phobl Ifanc
Plant 6-11 oed
Mae croeso i blant o bob oedran ymuno â Llyfrgelloedd Sir Benfro. Mae gan bob llyfrgell ddewis eang o lyfrau stori a gwybodaeth y gallwch chi ddewis o'u plith.
Dyma rai o'r pethau y gallwch chi eu gwneud:
- Darllen y llyfrau diweddaraf sydd wedi gwerthu’n wych
- Gwrando ar eich hoff straeon ar CD
- Defnyddio ein dewis eang o lyfrau gwybodaeth i gael cymorth gyda gwaith cartref, neu eu darllen am hwyl!
- Cael mynediad am ddim i Ziptales, llyfrgelloedd ComicsPlus, e-lyfrau am ddim ac e-lyfrau llafar
Gallwch ddod o hyd i fanylion am bob un o eitemau ein llyfrgell yn ein catalog ar lein, a chofiwch: mae neilltuo llyfr yn rhad ac am ddim i blant!
Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r peth rydych chi'n chwilio amdano pan fyddwch chi'n ymweld â'r llyfrgell peidiwch â bod ag ofn holi aelod o staff!
Rydym ni'n chwilio bob amser am ffyrdd o wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig. Os oes gennych chi unrhyw syniadau, cysylltwch â'r Swyddog Datblygu Llyfrgelloedd laura.evans@pembrokeshire.gov.uk
Cyfrifiaduron
Os ydych chi'n naw mlwydd oed neu'n hŷn gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw un o'n cyfrifiaduron defnydd cyhoeddus, ond rhaid i chi ofyn i'ch rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr lofnodi ffurflen gyntaf a'i dychwelyd i unrhyw un o'n canghennau. Gasglu un yn unrhyw un o'n llyfrgelloedd.
Llyfrgelloedd yn y Cartref 24/7
Wyddech chi fod modd i bob aelod o lyfrgelloedd sir Benfro gael e-gomics, e-lyfrau, e-lyfrau llafar a straeon a gweithgareddau hwyliog o ziptales gartref oddi wrth ein e-lyfrgell 24/7
Digwyddiadau
Bydd pob un o'n llyfrgelloedd yn cynnal digwyddiadau i blant drwy gydol y flwyddyn. I wybod beth sy'n digwydd yn ein llyfrgelloedd edrychwch ar y dudalen ddigwyddiadau (neu) ddigwyddiadau a restrir ar waelod y dudalen hon