Plant a Phobl Ifanc

Plant dan 5 oed

Waeth pa mor ifanc yw eich plentyn chi, mae digon ar gael yn eich llyfrgell leol. Pan fydd unrhyw blentyn dan 5 oed yn ymuno â'r llyfrgell, byddan nhw'n derbyn pecyn croeso rhad ac am ddim.

Mae rhannu llyfrau, rhigymau a straeon o oedran ifanc yn llawer o sbort ac mae'n helpu plant i ddysgu nifer o sgiliau newydd. Ceir dewis da o lyfrau stori a gwybodaeth ar gyfer plant oedran cyn-ysgol gan gynnwys:

  • Llyfrau bwrdd
  • Llyfrau stori a llun
  • Straeon a Rhigymau ar CD
  • DVDau

Gall plant gael eu cerdyn eu hunain a gallan nhw fenthyca hyd at 12 llyfr am dair wythnos.

Mae staff y llyfrgell yn barod i helpu a chynghori am lyfrau a gwybodaeth bob amser felly peidiwch ag oedi cyn gofyn.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am bob un o eitemau'r llyfrgell yn ein catalog ar lein.

A chofiwch: mae neilltuo llyfrau i blant yn rhad ac am ddim!

Amser Stori ac Amser Rhigwm Babi

Bydd llawer o'n llyfrgelloedd yn cynnal Amser Stori ac Amser Rhigwm gyda'r Babi rheolaidd. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau i ddysgu mwy.

Dechrau Da

Rydym ni'n cefnogi rhaglen Dechrau Da a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhaglen yn annog pob rhiant a gofalwr i fwynhau llyfrau gyda phlant o oedran mor gynnar â phosib, am y bydd plentyn sy'n rhannu llyfr bob dydd yn datblygu'i sgiliau iaith a llythrennedd yn ogystal â chael budd cymdeithasol ac emosiynol yn ogystal.

Bydd pob babi'n derbyn Pecyn Baban Dechrau Da dwyieithog Am ddim adeg eu gwiriad iechyd naw mis.

Pecyn Blynyddoedd Cynnar Dechrau Da

Bydd pob plentyn yn sir Benfro hefyd yn derbyn Pecyn Blynyddoedd Cynnar adeg eu gwiriad iechyd 18-30 mis.

Cropian am Lyfr

Rydym ni'n cynnal y cynllun Cropian am Lyfr i annog babis a phlant bach iawn i fwynhau'r llyfrgell. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd llyfrau a darllen ac mae'n hawdd ei wneud - holwch yn eich llyfrgell leol i ddysgu rhagor.

Grwpiau chwarae, clybiau ti a fi a gofalwyr plant

Mae gan ofalwyr plant, grwpiau chwarae a chlybiau ti a fi hawl i gael cerdyn llyfrgell arbennig - holwch yn unrhyw un o'n llyfrgelloedd i gael rhagor o fanylion. Rydym ni'n hapus i groesawu grwpiau sydd am ymweld â'n llyfrgelloedd bob amser.

Digwyddiadau i Blant o dan 5 oed

ID: 229, adolygwyd 22/09/2022