Plant a Phobl Ifanc

Pobl Ifanc 12-16 oed

Mae croeso i bobl ifanc o bob oedran ymuno â'r llyfrgell. Mae gan bob llyfrgell ddewis eang o lyfrau stori a gwybodaeth y gallwch chi ddewis o'u plith.

Dyma rai o'r pethau y gallwch chi eu gwneud:

  • Darllen y llyfrau diweddaraf sydd wedi gwerthu’n wych
  • Gwrando ar eich hoff straeon ar CD
  • Defnyddio ein dewis eang o lyfrau gwybodaeth i gael cymorth gyda gwaith cartref, neu eu darllen am hwyl!
  • Cael mynediad am ddim i Ziptales, llyfrgelloedd ComicsPlus, e-lyfrau am ddim ac e-lyfrau llafar.

Yn ogystal gallwch:

  • Fenthyca llyfrau a DVDau
  • Grwydro'r rhyngrwyd am ddim
  • Darllen Cylchgronau
  • Cwrdd â ffrindiau
  • Dod o hyd i fanylion am bob un o eitemau ein llyfrgell yn ein catalog ar lein.

A chofiwch: mae neilltuo llyfr yn rhad ac am ddim i blant!

Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r peth rydych chi'n chwilio amdano pan fyddwch chi'n ymweld â'r llyfrgell peidiwch â bod ag ofn holi aelod o staff!

Rydym ni'n chwilio bob amser am ffyrdd o wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig. Os oes gennych chi unrhyw syniadau, cysylltwch â'r Swyddog Datblygu Llyfrgelloedd laura.evans@pembrokeshire.gov.uk

Sut ydw i'n ymuno?

Gallwch Ymuno â'r Llyfrgell am ddim. Gofynnwch am ffurflen yn eich llyfrgell leol, neu Ymunwch ar-lein.

Unwaith y byddwch chi'n aelod gallwch:

  • ddefnyddio unrhyw un o'n Llyfrgelloedd Lleol ar draws Sir Benfro!
  • benthyca hyd at 12 llyfr ar y tro

Cofiwch: Os ydych chi'n 16 neu iau, bydd angen i'ch rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr lofnodi'r ffurflen ar eich rhan. Bydd angen i chi ddod â rhywbeth sy'n dangos eich cyfeiriad gyda chi hefyd.

Cyfrifiaduron

Os ydych chi'n naw mlwydd oed neu'n hŷn gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw un o'n cyfrifiaduron defnydd cyhoeddus, ond rhaid i chi ofyn i'ch rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr lofnodi ffurflen gyntaf a'i dychwelyd i unrhyw un o'n canghennau. gallwch naill ai lawrlwytho'r ffurflen neu gasglu un yn unrhyw un o'n llyfrgelloedd.

Llyfrgelloedd yn y Cartref 24/7 

Wyddech chi fod modd i bob aelod o lyfrgelloedd sir Benfro gael e-gomics, e-lyfrau, e-lyfrau llafar a straeon a gweithgareddau hwyliog o ziptales gartref oddi wrth ein e-lyfrgell 24/7.

 

ID: 231, adolygwyd 22/09/2022