Prydau Ysgol am Ddim
Bydd rhieni/gwarcheidwaid disgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn derbyn taliad Prydau Ysgol am Ddim bob pythefnos y mae’r disgyblion yn dysgu o bell, nes iddynt ddychwelyd i'r ysgol. Bydd taliadau ar gyfer y cyfnod rhwng 4 Ionawr a dydd Gwener 15 Ionawr mewn cyfrifon banc rhieni ar ddydd Llun 11 Ionawr.
Bydd y taliad nesaf ar gyfer y cyfnod rhwng 18 Ionawr a 29 Ionawr mewn cyfrifon banc rhieni ar ddydd Llun 18 Ionawr a phob pythefnos wedi hynny.
Gwerth y taliadau bob pythefnos fydd £39.00 y plentyn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Anfonwch e-bost at cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau neu ffoniwch 01437 775912, 01437 775922 neu 01437 775250.
Disgyblion amser llawn newydd
Dylai rhieni disgyblion a ddylai fod wedi dechrau yn yr ysgol yn llawn amser o 4 Ionawr ac sydd â brodyr a chwiorydd hŷn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gysylltu â'r tîm cymhwysedd prydau ysgol am ddim, trwy anfon e-bost at freeschmeals@pembrokeshire.gov.uk, i gofrestru eu plentyn fel plentyn sy'n gymwys i gael brydau ysgol am ddim.
Hysbysiad Preifatrwydd – Prydau Ysgol am Ddim
Arlwyo Heb Arian mewn Ysgolion Uwchradd
Mae ein Gwasanaeth Arlwyo wedi ystyried y ffordd fwyaf diogel a phriodol o roi prydau o fwyd i ddisgyblion gan ddefnyddio Arlwyo Heb Arian. Bydd y mesurau canlynol yn berthnasol yn yr ysgolion uwchradd hynny fydd yn cynnig prydau ysgol pan fydd yr ysgolion yn ailagor:
Er mwyn gofyn am rif cyfrif prydau, neu am wybodaeth bellach, e-bostiwch cashless.catering@pembrokeshire.gov.uk