Plant gydag Anableddau
Plant gydag Anableddau
Mae'r Tîm Plant gydag Anableddau'n gweithio gyda phlant (rhwng 0 a 18 oed) sydd ag anableddau cymhleth neu sylweddol sy'n cael effaith sylweddol neu ddifrifol ar ansawdd bywyd y plentyn / unigolyn ifanc a'i deulu, pan na all gwasanaethau cyffredinol / wedi'u targedu yn unig ddiwallu'r anghenion hyn.
Nodau'r tîm yw:
- Cynorthwyo plant a phobl ifanc anabl a'u rhieni neu ofalwyr i gynnal bywyd teuluol yn eu cymuned gartref.
- Rhoi cefnogaeth i helpu plant a phobl ifanc anabl gyrraedd eu llawn allu.
- Diogelu plant a phobl ifanc anabl.
- Sicrhau fod barn, teimladau a dyheadau plant a phobl ifanc yn ganolog fel bod ganddynt y dewis mwyaf wrth gynllunio eu dyfodol eu hunain.
- Cynorthwyo plant a phobl ifanc anabl i ddatblygu gymaint o annibyniaeth briodol i oed ag y bo modd.
- Cefnogir cynllunio cynnar, pennu nodau a phontio er mwyn cynyddu annibyniaeth a symud i lawn oed drwy gydweithio â’r tîm pontio.
- Rydym yn ceisio cefnogi plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd i nodi eu cryfderau, i ddod yn fwy cydnerth, i leihau effaith anabledd, ac i hybu annibyniaeth.
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall
Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu (FfCG) (yn agor mewn tab newydd)
ID: 1814, adolygwyd 20/10/2023