Plant gydag Anableddau
Sut allwn ni helpu
Mae tair haen o wasanaeth ar gael
Gwasanaethau Cyffredinol
Mae'r rhain yn wasanaethau sydd ar gael i holl blant a phobl ifanc fel addysg, gwasanaethau meddyg teulu, ymwelwyr iechyd, gweithgareddau cymunedol, canolfannau ieuenctid, canolfannau chwaraeon a hamdden, clybiau ar ôl yr ysgol a gweithgareddau chwarae. Y gwasanaethau hyn fydd y cyswllt cyntaf i deuluoedd. Rydym yn hyrwyddo cynhwysiad ac yn cynnal gwasanaethau cyffredinol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc anabl.
Gwasanaethau Penodol
Gwasanaethau cymorth cynnar yw'r gwasanaethau hyn pan fo angen cymorth ychwanegol a chymorth mwy nag un asiantaeth yn aml ar blant a theuluoedd (h.y. TAPPAS/TAF).
Gwasanaethau Arbenigol
Gwasanaethau yw'r rhain sydd ar gael i blant a theuluoedd yr aseswyd eu bod yn cyrraedd meini prawf gan y Tîm Asesu Gofal Plant, mewn ymgynghoriad â Thîm Plant gydag Anableddau'r cyngor neu ganllawiau gofal parhaus y GIG.
Mae'r gwasanaethau hyn hefyd yn cynnwys:
- Rhoi cyngor, gwybodaeth, cefnogaeth a chymorth ymarferol
- Gweithiwr cymdeithasol penodedig neu weithiwr allweddol, a chysylltu â gwasanaethau eraill, e.e. Iechyd / Addysg
- Darparu seibiannau byr – gofal preswyl a maeth
- Taliadau uniongyrchol
- Gweithwyr gweithgareddau
- Cymorth i fanteisio ar weithgareddau cymdeithasol a chymunedol
Ni fydd angen yr un lefel o wasanaethau ar bob plentyn a theulu; mae angen mwy ar rai nag eraill oherwydd effaith anabledd eu plentyn, ac efallai y bydd angen mwy o gymorth ar rai teuluoedd oherwydd eu hamgylchiadau teuluol unigol. Gwyddom fod anghenion yn newid dros amser, a chaiff hyn ei ystyried trwy broses adolygu reolaidd, adolygu cynlluniau cymorth, ac ailasesiadau fel y bo'n briodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Asesu Gofal Plant ar 01437 764551
Tîm Plant ag Anableddau ar 01437 776176
Dylai defnyddwyr presennol y gwasanaeth gysylltu â gweithiwr cymdeithasol penodedig y plentyn.