Plant gydag Anableddau
Darganfod pa gymorth sydd arnoch ei angen
Caiff holl atgyfeiriadau at y Tîm Plant gydag Anableddau eu gwneud trwy gysylltu â'r Tîm Asesu Gofal Plant. Dylai'r gweithwyr proffesiynol sy'n gwneud cyfeiriadau ddefnyddio'r Ffurflen Rhwng Asiantaethau. Ar ôl derbyn atgyfeiriad, bydd gweithiwr yn cael ei neilltuo i gynnal asesiad cychwynnol o'r unigolyn ifanc a'i deulu.
Rydym yn cynnal Asesiadau Gwaith Cymdeithasol yn dilyn atgyfeiriadau a dderbynnir trwy'r Tîm Asesu Gofal Plant (y drws blaen i ofal cymdeithasol plant). Dylai casgliad yr asesiad ddarparu dealltwriaeth glir o'r angen a fydd yn galluogi cynllunio gofal a llywio darpariaeth y gwasanaeth. Nod y tîm yw hyrwyddo gofal plant o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau eu hunain trwy gyfeirio at wasanaethau cymorth anstatudol, neu ddarparu gwasanaethau os asesir eu bod yn briodol.
Caiff plant a phobl ifanc anabl eu hasesu yng nghyd-destun effaith unrhyw amhariad ar ansawdd eu bywydau nhw a'u teuluoedd. Diben asesiad yw casglu gwybodaeth i ddadansoddi anghenion plentyn a phenderfynu a oes angen cymorth. Gwnawn hyn trwy siarad â rhieni / gofalwyr a'r plentyn. Gyda chaniatâd, byddwn yn cadw cyswllt agos â gweithwyr proffesiynol eraill fel athrawon, ymwelwyr iechyd, meddygon a gweithwyr asiantaethau gwirfoddol sy'n ymwneud â'r plentyn neu'r teulu.