Plant gydag Anableddau

Pwy sydd â hawl i gymorth?

Mae Deddf Plant 1989 yn diffinio plant gydag anableddau fel ‘plant anghenus' oherwydd eu hanabledd. Caiff rhai o'r plant hyn eu hasesu hefyd fel rhai gydag anghenion sylweddol neu ddybryd all ofyn cefnogaeth arbenigol y Tîm Plant gydag Anableddau, yn ogystal â gwasanaethau cyffredinol a phenodol. Plant sydd â hawl i'r gefnogaeth hon yw'r rhai gydag anableddau neu afiechydon difrifol a pharhaol sy'n byw yn Sir Benfro, gan gynnwys:

  • Plant a phobl ifanc dan 18 oed sydd ag anabledd dysgu neu gorfforol parhaol a/neu sylweddol. Anabledd sylweddol yw un difrifol neu ddwfn fel bod ar y plant angen cryn gefnogaeth gan rywun arall neu gyfarpar i weithredu'n sylfaenol (e.e. gofal personol, bwyta) ac mae'n debygol y bydd angen y gefnogaeth hon pan ddaw'r plant neu bobl ifanc yn oedolion. Gall hyn gynnwys amhariad corfforol neu feddyliol, nam ar y synhwyrau, a diagnosis o anhwylder yn y sbecrwm awtistig.
  • Plant a phobl ifanc dan 18 oed sydd ag afiechyd sy'n derfynol neu'n bygwth bywyd.

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 1815, adolygwyd 20/10/2023