Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro

Cefnogi teuluoedd yn Sir Benfro

Lansiwyd 'Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro' yn 2022. Mae’n rhoi’r cyfle i’n timau cymorth i deuluoedd, ynghyd â grwpiau’r sector gwirfoddol a’r sector cymunedol lleol, gydweithio a helpu teuluoedd yn Sir Benfro i ffynnu.

Dyma rhai o’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael:

  • Tîm o Amgylch y Teulu
  • Gweithredu dros Blant
  • Sbardun
  • Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd y GIG
  • Gwasanaeth Cymorth Cynhwysiant
  • Cysylltydd Cymunedol Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
  • Gweithwyr Ieuenctid

Ein nod yw rhoi’r cymorth cywir i deuluoedd ar yr adeg gywir, gan ddarparu ymateb cyflym i’r rhai sydd angen cymorth i gael mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol a rhoi’r hyder i deuluoedd wneud newidiadau cadarnhaol yn annibynnol.

Sut mae'n gweithio?

Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro ein ffonio ni ar 01437 770023 ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm

 

Calendar Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro

 

Os ydych yn weithiwr proffesiynol

Os hoffech gyfeirio unigolyn neu deulu lleol i gael cymorth gan ein Timau Cymorth ac Ymyrraeth Gynnar, llenwch y ffurflen gyfeirio isod.

Ffurflen Atgyfeirio ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

Bydd ffurflenni a dderbyniwyd yn cael eu gweithredu yn ein dau gyfarfod dyrannu wythnosol

Am ragor o wybodaeth gallwch gysylltu â ni drwy:

anfon e-bost at: PFSN@pembrokeshire.gov.uk

ffonio: 01437 770023

ID: 8847, adolygwyd 09/08/2023