Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro (PFSN)
Cefnogi teuluoedd yn Sir Benfro
Lansiwyd Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro (PFSN) yn 2022. Mae’n rhoi’r cyfle i’n timau cymorth i deuluoedd, ynghyd â grwpiau’r sector gwirfoddol a’r sector cymunedol lleol, gydweithio a helpu teuluoedd yn Sir Benfro i ffynnu.
Dyma rhai o’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael:
- Tîm Cymorth i Deuluoedd (Tîm o Amgylch y Teulu a Dechrau’n Deg yn flaenorol)
- Gweithredu dros blant
- Sbardun
- Gwasanaethau ymwelwyr iechyd y GIG
- Gwasanaeth cymorth cynhwysiant
- Cysylltydd Cymunedol Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
- Gweithwyr ieuenctid
- Cymorth sy’n gysylltiedig â thai
Ein nod yw rhoi’r cymorth cywir i deuluoedd ar yr adeg gywir, gan ddarparu ymateb cyflym i’r rhai sydd angen cymorth i gael mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol a rhoi’r hyder i deuluoedd wneud newidiadau cadarnhaol yn annibynnol.
Sut mae'n gweithio?
Os ydych yn rhiant
I gael mynediad i Rwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro (PFSN) gallwch naill ai:
- Ffonio ni ar (01437) 770023, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00am a 5.00pm, neu
- Cwblhau’r ffurflen hunan-gyfeiriad ar-lein
Os ydych yn weithiwr proffesiynol
Os hoffech gyfeirio unigolyn neu deulu lleol i gael cymorth gan ein Timau Cymorth ac Ymyrraeth Gynnar, llenwch y Ffurflen Atgyfeirio ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol
- Bydd ffurflenni a fydd yn dod i law yn cael eu gweithredu yn ein cyfarfodydd dyrannu wythnosol.
Am ragor o wybodaeth:
Anfonwch neges e-bost: PFSN@pembrokeshire.gov.uk
Ffoniwch: 01437 770023