Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol
Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Cod Ymarfer: Cod Ymarfer Rhannau 4 a 5 (Codi Ffioedd ac Asesiad Ariannol) a rheoliadau cysylltiedig, yn nodi’r gofynion ar gyfer polisi codi ffioedd. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Dylai sicrhau na chodir mwy o ffioedd ar bobl nag y mae’n rhesymol ymarferol iddynt eu talu, ac ni chaniateir codi ffioedd sy’n fwy na’r gost i’r awdurdod o ddarparu neu drefnu’r gofal a chymorth. Mae hyn yn golygu, os bydd y bwrdd iechyd yn ariannu pecyn gofal ar y cyd, mai dim ond y gyfran o gost y pecyn gofal i Gyngor Sir Penfro a gaiff ei hystyried wrth bennu’r ffi am ofal. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ofal nyrsio a ariennir pan mai dim ond cost lleoliad nyrsio i Gyngor Sir Penfro a ddefnyddir wrth bennu ffi am ofal.
- Dylai fod yn gyson.
- Dylai fod yn glir ac yn dryloyw fel bod pobl yn gwybod beth fydd swm y ffi a godir arnynt.
- Dylai sicrhau y codir ffioedd mewn ffordd gyfartal a bod unrhyw anghysondebau y ffioedd a godir am wahanol fathau o ofal a chymorth wedi’u lleihau gymaint ag y bo modd.
- Dylai fod yn gynaliadwy i awdurdodau lleol yn y tymor hir.
Bydd Cyngor Sir Penfro yn codi ffi am ofal a chymorth a ddarperir i ddiwallu anghenion y penderfynir arnynt fel rhan o asesiad. Bydd taliadau hefyd am rai gwasanaethau ymyrraeth gynnar / gwasanaethau atal ac, mewn rhai achosion, bydd costau gweinyddol. Gelwir pobl sy’n cael gofal a chymorth yn ddefnyddwyr gwasanaethau, a gelwir y rhai sy’n darparu gofal di-dâl i rywun arall – fel arfer perthynas neu ffrind – yn ofalwyr. Mae’r rhestr a ganlyn yn cynnwys y prif fathau o ofal a chymorth a ddarperir:
- Ataliol – fel arfer mae’r gwasanaethau hyn ar gael heb asesiad ac fe’u darperir yn bennaf gan sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol.
- Dibreswyl – mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys gofal yn y cartref, taliadau uniongyrchol, cyfleoedd dydd, gwasanaethau byw â chymorth, gofal seibiant, seibiannau byr, cysylltu bywydau, gwelyau gofal canolraddol a gwelyau gofal yn y gymuned, a gwasanaethau ailalluogi.
- Preswyl – oni bai y crybwyllir fel arall yn benodol mae’r lleoliadau hyn yn cyfeirio at ofal preswyl neu ofal nyrsio drwy leoliad mewn cartref gofal. Mae’r rhain yn lleoliadau mewn cartrefi gofal cofrestredig naill ai dros dro (hyd at 12 mis) neu’n barhaol (mwy na 12 mis).
Bydd Cyngor Sir Penfro yn cyfrifo faint y bydd angen i unigolyn ei dalu (ei gyfraniad) tuag at gost ei ofal gan ddefnyddio gwybodaeth ariannol a ddarperir gan yr unigolyn hwnnw neu ei gynrychiolydd ariannol. Mae yna reoliadau penodol sy’n ymwneud â sut yr ydym yn trin gwahanol fathau o incwm, asedau, cynilion a threuliau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran Asesiadau Ariannol.