Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol

Asesu a diwallu anghenion

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r gofynion ar gyfer asesu a diwallu anghenion gofal cymdeithasol rhywun. Byddwn yn asesu rhywun:

  • sydd wedi gwneud y penderfyniad i fyw yn Sir Benfro fel ei brif ardal breswylio (sef bod yn breswylydd fel arfer ynddi); neu
  • nad oes ganddo gartref sefydlog a’i fod yn Sir Benfro pan fo angen cymorth arno.

Bydd yr asesiad yn dangos pa anghenion y mae’n rhaid i’r tîm Gwasanaethau Cymdeithasol eu diwallu a pha anghenion a fydd yn cael eu diwallu wrth i’r unigolyn fanteisio ar wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn y gymuned.

ID: 9887, adolygwyd 08/01/2025