Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol

Codi Am Wasanaethau

Gwybodaeth a Chyngor 
Asesiadau Ariannol 
Rhai na fydd yn gorfod talu 
Gwasanaethau Na Fydd Tâl Amdanynt 
Ffïoedd a Phrisiau 
Taliadau Safonol am Wasanaethau Statudol 
Gwasanaethau Taladwy 
Dewis Llety a Chyfraniad Cost Ychwanegol 
Taliadau Gohiriedig a Chodi Llog ar Daliadau Gohiriedig 
Codi ar Ofalwyr 
Apelio yn erbyn Taliadau Asesedig 
Adennill Dyledion ac Amddifadu o Asedau 

 

Gwybodaeth a Chyngor

Mae gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth yn bodoli ar gyfer rhoi gwybodaeth ar gael yr incwm mwyaf, yr asesiad ariannol a’r polisi codi tâl. Bydd hwn yn cael ei ddarparu ar ffurf sy’n cyd-fynd ag anghenion cyfathrebu rhywun. Mae gwasanaethau eirioli ar gael hefyd i’r rhai sydd angen hynny.

Asesiadau Ariannol

Mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i wneud asesiadau ariannol dan rai amgylchiadau. Bydd asesiadau ariannol yn cael eu cynnig i bawb sy’n derbyn gwasanaeth taladwy nad yw’n cael ei godi ar gyfradd safonol, i benderfynu faint allant fforddio’i dalu. Bydd taliadau asesedig yn cael eu penderfynu’n unol â’r rheoliadau Asesiadau Ariannol ac fel y cymeradwywyd gan y Cyngor, gan gyfrif y dreth gyngor ac ymrwymiad morgais neu rent.

Bydd rhywun sydd heb gymhwyster yn gorfod talu am ofal a chymorth, pan fo’n berthnasol, fel y penderfynir drwy broses yr asesiad ariannol. Bydd pobl a aseswyd yn brin o gymhwyster yn cael gwybodaeth, cyngor a chymorth, priodol i’w hanghenion asesedig. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori ag aelodau o’r teulu pan fo hynny’n berthnasol a/neu benodi eiriolwr neu wneud cais i’r Llys Gwarchod, os oes gofyn.

Ni fydd rhywun yn cael asesiad fel un o bâr heblaw pan fo’n rhoi mwy o fantais ariannol i’r un sy’n cael yr asesiad. Fe all partneriaid rhai sy’n derbyn gwasanaethau asesedig wrthod rhoi eu gwybodaeth ariannol eu hunain.

Os oes angen rhywun addas ar unigolion i wneud penderfyniadau ariannol ar eu rhan, oherwydd eu bod yn brin o gymhwyster, ond nad oes neb o’r fath, efallai y bydd angen cais i’r Llys Gwarchod.

Bydd defnyddwyr gwasanaethau’n cael ffurflen i’w llenwi a fydd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer yr asesiad ariannol. Bydd y ffurflen hon, ynghyd â’r dystiolaeth ddogfennol ategol berthnasol, yn cael ei defnyddio i gyfrifo’r taliad asesedig. Bydd pawb sy’n dewis peidio â llenwi’r ffurflen neu ddarparu’r dogfennau ategol angenrheidiol o fewn yr amserlenni a roddwyd yn gorfod talu’r gost lawn yn unol â’r rheoliadau. Gwelwch Atodiad 3 Asesiadau ariannol.

Rhai na fydd yn gorfod talu

Mae SSWBA a/neu reoliadau’n gofyn peidio â chodi ar y bobl ganlynol:

  • Plant, am ofal a chymorth a gânt fel defnyddwyr gwasanaethau neu ofalwyr.
  • Rhieni neu warcheidwaid plant neu blant sy’n ofalwr yn derbyn gofal a chymorth. Mae SSWBA yn caniatáu codi tâl ond nid yw rheoliadau cyfredol yn caniatáu hynny.
  • Rhywun sydd ag Afiechyd Creutzfeldt-Jacob.
  • Ni fydd gofalwyr yn gorfod talu am wasanaethau a ddarparwyd i neu a drefnwyd ar gyfer bwy bynnag sydd dan eu gofal.

Mae’r rhestr uchod yn berthnasol hefyd i geisio cael cyfraniadau neu ad-daliad tuag at daliadau uniongyrchol.

Bydd awdurdodau lleol eraill sy’n defnyddio cyfleusterau a gwasanaethau CSP i ddiwallu anghenion plant yn gorfod talu’r gyfradd briodol. Bydd rhieni plant sy’n mynd am ddewisiadau gwasanaeth uwchlaw’r hyn sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion asesedig y plant hynny’n gorfod talu’n unol â’r rheoliadau Cyfraniad Cost Ychwanegol.


Gwasanaethau Na Fydd Tâl Amdanynt

  • Cludiant i gyrraedd cyfleoedd dydd lle nodwyd bod angen y cludiant ac nad yw’r unigolyn yn derbyn elfen symudedd fel rhan o unrhyw fudd-daliadau perthnasol.
  • Ailalluogi a chyfarpar a ddarperir fel rhan o ailalluogi am hyd at uchafswm o 6 wythnos.
  • Gofal Canolraddol, lle mae angen asesedig, y gellid ei ddarparu’n ddi-dâl, am hyd at 6 wythnos.
  • Rhywun sy’n cael gwely asesu fel rhan o asesiad integredig i benderfynu anghenion. Bydd taliadau’n dechrau unwaith y daw’r gwasanaeth gwely asesu i ben a’r gwasanaeth asesedig priodol yn dechrau
  • Rhaglenni cyflogaeth.
  • Gwasanaethau / cymorth ôl-ofal a ddarperir dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor; asesu anghenion; cynllunio gofal; cynlluniau gofal; a gwneud adolygiad o benderfyniad taliad neu eiriolaeth broffesiynol annibynnol.
  • Caiff gwasanaethau sy’n cael eu darparu neu drefnu i ddiwallu anghenion asesedig plentyn eu gwahardd mewn rheoliadau ar gyfer 2016/17. [Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) (Cymru) 2015]

Mae’r rhestr uchod yn berthnasol hefyd i geisio cael cyfraniadau neu ad-daliad tuag at daliadau uniongyrchol.


Ffïoedd a Phrisiau

Deddfwriaeth a pholisïau ariannol lleol sy’n llywodraethu ffïoedd a phrisiau’n rhannol. Bydd y rhain yn cael eu pennu fel bod yr awdurdod lleol yn gallu adennill y gost lawn. Cânt eu hadolygu bob blwyddyn fel rhan o broses y gyllideb. Ni fydd taliadau am wasanaethau’n fwy na chost darparu neu drefnu’r gofal a chymorth neu’r hyn sydd i’w gael drwy daliadau uniongyrchol.

Bydd taliadau’n berthnasol:

  • o ddyddiad dechrau’r gwasanaeth; neu
  • os yw’r gwasanaeth wedi newid, o ddyddiad newid y gwasanaeth.

Bydd y pris i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn cael ei benderfynu yn ôl y gyfradd a gytunwyd, ac yn daladwy yn ôl y swm a benderfynwyd fel rhan o’r asesiad ariannol. Bydd y taliad yn berthnasol o ddyddiad dechrau’r gwasanaeth ond ni fydd yn cael ei gasglu cyn i’r unigolyn gael cyfle i gwblhau asesiad ariannol a chael datganiad o’r taliadau. Mae rhestr o daliadau a chyfraddau am wasanaethau i’w gweld yn: Ffïoedd a phrisiau gwasanaethau cymdeithasol.

Ar gyfer gwasanaethau allanol, mae Llywodraeth Cymru’n pennu uchafswm wythnosol y mae modd ei godi ar rywun. Fodd bynnag, caniateir taliadau ar gyfradd safonol am rai gwasanaethau fel pryd ar glud, larymau cymunedol, a phrydau sy’n cael eu darparu mewn sefydliadau preswyl, canolfannau dydd a chanolfannau gweithgaredd cymdeithasol, boed yr Awdurdod Lleol yn eu darparu neu’n eu comisiynu. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth.


Taliadau Safonol am Wasanaethau Statudol

Bydd taliadau safonol yn cael eu pennu am ofal a chymorth statudol lefel isel, rhad, fel larymau cymunedol, pryd ar glud ac atebion technoleg gynorthwyol. Bydd y taliadau safonol hyn yn berthnasol hefyd pan fydd pobl yn dewis talu’n uniongyrchol am y gwasanaethau hyn.

Ni fydd taliadau safonol yn fwy na chostau trefnu neu ddarparu’r gofal a chymorth cysylltiedig. O ran taliadau safonol, bydd asesiadau ariannol yn cael eu cynnig a’u gwneud yn unig pe gallai’r taliadau safonol gael effaith andwyol ar incwm rhywun, naill ai ar wahân neu ynghyd â thaliadau eraill am ofal a chymorth.


Gwasanaethau Taladwy

Costau Ychwanegol am wasanaethau Allanol - Fe all fod costau ychwanegol cysylltiedig â gweithgareddau sy’n digwydd yn ystod darparu rhai o’r gwasanaethau isod. Gallai’r rhain gynnwys costau fel taliadau mynediad, prydau allan ac ati. Bydd y costau hyn yn cael eu talu gan ddefnyddiwr y gwasanaeth neu rywun arall, fel cynorthwy-ydd personol defnyddiwr y gwasanaeth, ar adeg eu prynu ac ni fyddant yn cael eu cynnwys mewn datganiadau. Ni fydd taliadau uniongyrchol yn cael eu rhoi i dalu am y mathau hyn o gostau oherwydd nad ydynt yn gysylltiedig ag anghenion asesedig defnyddiwr y gwasanaeth.

Cyfraniadau Costau Ychwanegol (Trydydd-parti) - Mewn rhai achosion, fe all defnyddiwr gwasanaethau fynd am ddewis drutach uwchlaw’r hyn sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion asesedig. Mewn achosion o’r fath, fe all fod modd i ddefnyddiwr y gwasanaeth neu rywun arall dalu’r gwahaniaeth rhwng faint wnaiff CSP ei dalu a chost y gwasanaeth. Bydd angen i ddefnyddiwr y gwasanaeth / rhywun arall fod yn barod i dalu’r gost ychwanegol gyhyd a bo’r gwasanaeth yn ofynnol. Bydd raid llenwi Datganiad o Fodd fel bod modd gwneud asesiad o fforddiadwyedd a chynaliadwyedd hirdymor y taliad hwn.

Caiff Taliadau Uniongyrchol eu darparu i dalu am amrywiaeth o anghenion. Fodd bynnag, caiff y rhan fwyaf eu defnyddio i gyflogi cynorthwywyr personol neu i gaffael cyfleoedd dydd. Bydd rhai taliadau uniongyrchol yn cael eu penderfynu yn ôl amgylchiadau unigol. Gwelwch yr atodiad cyfraddau a ffïoedd i gael manylion.

Lleoli Oedolion - Mae gwasanaethau Lleoli Oedolion yn cynnwys: lleoliadau llety hirdymor sy’n cael eu codi fesul wythnos fydd yn cael eu gwrthbwyso gan fudd-dal tai; gofal a chymorth sy’n cael ei godi fesul noson ac sy’n amodol ar yr uchafswm wythnosol; a chyfleoedd dydd sy’n cael eu codi fesul awr ac sydd hefyd yn amodol ar yr uchafswm wythnosol.

Ailalluogi - Ni fydd tâl yn cael ei godi am ailalluogi hyd at uchafswm o 6 wythnos. Ar ôl y cyfnod cyntaf hwn, bydd tâl yn cael ei godi am ailalluogi ar yr un gyfradd â chymorth cartref a chymunedol, bob yn awr ar sail wythnosol, yn amodol ar yr uchafswm wythnosol.

Caiff Cymorth Cartref a Chymunedol ei ddarparu gartref, gan gynnwys sefydliadau byw gyda chymorth. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, y canlynol: gofal personol; cymorth cyffredinol; oriau ar y cyd ar gyfer cymorth cyffredinol i’r rhai mewn tenantiaethau byw gyda chymorth; a gofal yn lle sy’n cael ei ddarparu i bobl sydd, fel arfer, yn derbyn gofal gan ofalwr digyflog, yn eu cartrefi eu hunain. Caiff hyn ei godi fesul awr ar sail wythnosol a bydd yn amodol ar yr uchafswm allanol wythnosol.

Gofal Preswyl Byrdymor [seibiant yw’r enw cyffredin] yw arhosiad mewn sefydliad preswyl cofrestredig heb fod am fwy nag 8 wythnos yn olynol. Bydd cyfradd fesul noson yn cael ei defnyddio ar sail cyfraddau wythnosol cartrefi gofal unigol. Bydd rhywun yn talu fesul noson am y cyfnod, heb ystyried a yw hynny’n pontio penwythnos, a bydd yn amodol ar yr uchafswm allanol wythnosol. Caiff cyfradd gofal nos unrhyw fudd-daliadau y mae’r unigolyn yn eu derbyn ei defnyddio yn yr asesiad ariannol i benderfynu faint i godi am arosiadau preswyl byrdymor.

Arhosiad Preswyl Dros Dro – Os bydd rhywun yn mynd i leoliad preswyl cofrestredig ar gontract dros dro (lle mae’n disgwyl aros mwy nag 8 wythnos yn olynol) a’r arhosiad yn dod i ben o fewn 8 wythnos, yna bydd hyn yn cael ei godi fel allanol hyd at yr uchafswm wythnosol cenedlaethol. Os yw uwchlaw 8 wythnos, bydd y taliad yn ôl rheoliadau taliadau preswyl. Bydd defnyddiwr y gwasanaeth yn atebol am y taliad o’r diwrnod y dechreuodd y lleoliad.

Gwasanaethau Seibiant yng Nghartrefi Gofal CSP [Havenhurst, Milford House a Hillside]

  1. Bydd rhywun nad yw’n byw fel arfer yn Sir Benfro’n gorfod talu’r gost lawn.
  2. Bydd trigolion Sir Benfro sydd wedi cael taliad uniongyrchol (DP) ar gyfer gwasanaethau seibiant yn gorfod talu’r gost lawn. Mae hyn yn golygu y bydd angen iddynt dalu unrhyw ddiffyg rhwng y gost lawn a swm eu DP.
  3. Bydd angen atgyfeirio trigolion Sir Benfro nad ydynt yn hysbys neu na chawsant eu hasesu ar gyfer gwasanaethau seibiant gan y gwasanaethau cymdeithasol drwy’r tîm cyswllt cyntaf i benderfynu hawl i seibiant. Os yw’r asesiad hwn yn dangos bod angen seibiant, bydd taliadau allanol yn berthnasol hyd at yr uchafswm wythnosol cenedlaethol.
  4. Bydd trigolion Sir Benfro nad ydynt yn dymuno cael eu hasesu gan y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau seibiant ac sydd eisiau prynu’r gwasanaeth hwn yn breifat yn talu’r gost lawn.

Fe all Cyfleoedd Dydd gynnwys amrywiaeth o wasanaethau.

  • Bydd taliadau am gyfleoedd dydd yn un o ganolfannau dydd / gweithgaredd cymdeithasol y Cyngor yn cael eu codi ar gyfradd ddyddiol, yn amodol ar yr uchafswm allanol wythnosol.
  • Bydd taliadau am gyfleoedd dydd mewn sefydliadau eraill yn cael eu codi ar sail amgylchiadau unigol ac yn amodol ar yr uchafswm allanol wythnosol.
  • Bydd taliadau am ddarparu cyfleoedd hyfforddi i ddiwallu anghenion asesedig yn cael eu codi yn ôl y rhaglen ac yn amodol ar yr uchafswm allanol wythnosol.

Seibiannau yw dal i ddarparu gofal a chymorth mewn sefydliadau heblaw cartrefi gofal cofrestredig, gan gynnwys gwestai, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt. Mae modd darparu’r gwasanaethau hyn i’r rhai sy’n derbyn gofal a chymorth yn y gymuned ac sydd angen seibiant byr. Ni fydd y rhain yn hwy nag un wythnos a chânt eu darparu i ddiwallu anghenion asesedig ddefnyddwyr gwasanaethau a/neu ofalwyr digyflog. Bydd taliadau am y rhain yn cael eu codi ar sail amgylchiadau unigol yn unol â rheoliadau taliadau allanol. I gael manylion llawn, cyfeiriwch at y Polisi Seibiannau.

Caiff taliadau am brydau sy’n cael eu darparu mewn sefydliadau preswyl, mewn Canolfannau Dydd a Chanolfannau Gweithgaredd Cymdeithasol CSP eu codi ar gyfradd safonol, fesul pryd. Ni fydd hyn yn amodol ar yr uchafswm allanol wythnosol.

Gofal Preswyl Parhaol - Bydd pobl a aseswyd fel bod angen lleoliad mewn cartref gofal yn cael asesiad ariannol i benderfynu a ddylent dalu am y lleoliad. Bydd pobl gyda chyfalaf ar neu islaw’r terfyn cyfalaf yn cyfrannu at y costau fel y penderfynwyd yn yr asesiad ariannol. Fodd bynnag, byddant yn cael eu gadael gydag o leiaf yr incwm wythnosol gofynnol ar sail y rheoliadau. Bydd taliadau am ofal preswyl parhaol yn cael eu codi ar y gyfradd wythnosol a gytunwyd gyda’r cartref gofal. Dan rai amgylchiadau, bydd defnyddiwr y gwasanaeth neu rywun arall yn gorfod talu costau ychwanegol os bydd yn mynd am ddewis uwchlaw’r hyn sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion asesedig, yn ogystal â’r taliad asesedig.

Gwelwch Atodiad 3 Asesiad Ariannol (Asesiad Taliadau)

Gwelwch: Preswylfa Arferol, Hunangyllido a Dewis Llety.

Gofal Nyrsio Preswyl Parhaol Bydd cyfran ofal nyrsio lleoliad preswyl yn cael ei thalu gan y Bwrdd Iechyd lleol ar y gyfradd gyfredol a gytunwyd. Yn dibynnu ar lefel yr anghenion sy'n gysylltiedig ag iechyd a nyrsio, gall rhai pobl fod yn gymwys i gael cyllid Gofal Iechyd Parhaus (GIP) neu becyn gofal a ariennir ar y cyd.  Efallai y bydd angen i bobl gyfrannu o hyd tuag at gost yr Awdurdod Lleol o becyn gofal wedi'i ariannu ar y cyd. Ond, mae'r GIP yn cael ei ariannu 100% gan y Bwrdd Iechyd lleol ac mae'n cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim.

Gwelyau Gofal Canolraddol - Yn union fel ailalluogi, byddai modd darparu’r gofal hwn, pan fo angen asesedig, am hyd at 6 wythnos yn ddi-dâl. Fe all rhywun fod â hawl i estyniad a fydd yn seiliedig ar adolygiad o anghenion asesedig fesul achos. Ar ôl y cyfnod dechreuol a gytunwyd, bydd taliadau allanol yn berthnasol hyd at yr uchafswm wythnosol cenedlaethol. Os bydd asesiad wedyn yn dangos bod angen gwely preswyl, bydd rheolau codi taliadau preswyl yn berthnasol.

Gwelyau Cymorth Dros Dro - Bydd pobl sy’n feddygol addas i fynd adref, ond nad oes gofal cartref i’w gael iddynt ar unwaith, yn cael cynnig gwely mewn cartref gofal priodol. Bydd y taliad perthnasol am yr 8 wythnos gyntaf yn seiliedig ar nifer yr oriau gofal cartref a aseswyd y byddai arnynt eu hangen. Ar ôl yr 8 wythnos gyntaf bydd yr achos yn cael ei adolygu ac fe ellir codi yn unol â’r rheolau codi taliadau preswyl.

Anghenion sy’n Newid yn Effeithio ar Daliadau - Os yw anghenion rhywun yn newid cyn cyrraedd diwedd cyfnod o wasanaeth a gynlluniwyd, a gwasanaeth gwahanol yn dechrau, bydd taliadau am y gwasanaeth newydd yn berthnasol o ddyddiad dechrau’r gwasanaeth newydd. Enghraifft o hyn yw pan fo rhywun ar gyfnod o seibiant ond, o fewn y cyfnod a gytunwyd, bod y lleoliad yn cael ei newid i un parhaol oherwydd bod anghenion yr unigolyn wedi newid. Bydd y taliad sy’n cael ei godi ar yr unigolyn am y seibiant a dderbyniwyd dan y rheolau allanol a than y rheolau preswyl o ddyddiad dechrau’r lleoliad parhaol.


Dewis Llety a Chyfraniad Cost Ychwanegol

Asesiad o anghenion rhywun fydd yn penderfynu pa lety fydd fwyaf addas. Fe all dewis llety effeithio ar y taliad i’w godi. Rhaid i rywun gael dau ddewis neu fwy o sefydliad preswyl a aseswyd ar gyfradd safonol yr awdurdod lleol ac sy’n diwallu anghenion yr unigolyn. Os bydd yr unigolyn yna’n mynd am ddewis drutach, bydd y gost ychwanegol, dan rai amgylchiadau, yn gorfod cael ei thalu gan yr unigolyn neu rywun arall. Bydd y gost ychwanegol yn cael ei thalu ar ben y taliad asesedig. Fe all yr awdurdod lleol geisio adennill unrhyw ddyled gysylltiedig â’r cyfraniad cost ychwanegol gan bwy bynnag sy’n gyfrifol am ei thalu. Bydd angen i bwy bynnag sy’n gwneud cais i dalu cyfraniad cost ychwanegol ddarparu datganiad o fodd, er mwyn gallu penderfynu y bydd yn gallu talu’r gost ychwanegol dros gyfnod hir.


Taliadau Gohiriedig a Chodi Llog ar Daliadau Gohiriedig

Efallai y bydd angen i bobl werthu eu cartref i dalu costau gofalu amdanynt mewn cartref gofal. Bydd cytundeb taliadau gohiriedig yn cael ei gynnig i bobl sydd eisiau oedi cyn gwerthu’u cartref tan ryw adeg sy’n fwy addas, os ydynt yn cyrraedd meini prawf y rheoliadau Taliadau Gohiriedig. Mae’r polisi Taliadau Gohiriedig llawn i’w gael ar gais. Mae’r rheoliadau’n caniatáu hawl i godi ffïoedd gweinyddol a llog hyd at 0.5% uwchlaw Cyfradd Gilt y Farchnad fel yr hysbysir yn adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar y Rhagolwg Economaidd a Chyllidol. Bydd yr atodiad Ffïoedd a Phrisiau’n cynnwys manylion gweinyddol a llog a allai fod yn berthnasol i daliadau gohiriedig.


Codi ar Ofalwyr

Un unol â’r polisi codi tâl hwn, mae modd codi ar ofalwyr aeddfed [heblaw rhiant neu warcheidwad plentyn neu blentyn sy’n ofalwr yn derbyn gofal a chymorth] sydd ag anghenion asesedig ynddynt eu hunain ac sy’n derbyn gwasanaethau neu daliad uniongyrchol.


Apelio yn erbyn Taliadau Asesedig

Fe all defnyddwyr gwasanaethau sy’n meddwl y gwnaed camgymeriad wrth gyfrifo’u taliad asesedig, neu sy’n meddwl fod ganddynt wariant cysylltiedig ag anghenion ychwanegol nad ystyriwyd yn yr asesiad ariannol, ofyn am adolygiad o’u taliad asesedig. Mae manylion llawn yn Atodiad 4 Apelio yn erbyn Taliadau Asesedig.

Adennill Dyledion ac Amddifadu o Asedau

Bydd adennill dyledion yn cael ei ystyried pan fo’n amlwg eu bod yn deillio o ddiffyg talu bwriadol. Bydd holl ddewisiadau rhesymol eraill yn cael eu hystyried cyn defnyddio pwerau adennill dyledion dan adran 70 y Ddeddf (Adennill taliadau, llog, ac ati), gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: ymgysylltu / ymgynghori, cyd-drafod, cyfryngu ac achos llys os caiff cael hyn ei ystyried yn briodol. Ni fydd gweithwyr achosion a rheolwyr y gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio adennill dyledion er mwyn sicrhau nad oes gwrthdaro buddiannau a bod y gwasanaethau cymdeithasol yn dal i ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion asesedig. Fodd bynnag, bydd staff y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â chyfnod cyntaf y broses adennill dyledion i ymgysylltu â defnyddiwr y gwasanaeth er mwyn penderfynu beth yw amgylchiadau’r diffyg talu a phosibilrwydd eu datrys yn gynnar. Bydd ymgynghori hefyd â staff y gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y broses lle bo angen. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod fel bod amgylchiadau penodol fel iechyd a ffyniant ac unrhyw anghenion cyfathrebu’n cael ystyriaeth briodol.

Mae Amddifadu o Asedau’n berthnasol i rywun sy’n fwriadol wedi amddifadu eu hunain o asedau i osgoi neu leihau taliadau. Mae asedau’n golygu cyfalaf a/neu incwm. Dim ond asedau a fyddai fel arfer yn cael eu hystyried fel rhan o asesiad ariannol fydd yn cael eu harchwilio ar gyfer amddifadu. Os yw amddifadu o asedau’n cael ei amau, caiff mwy o ymholiadau eu gwneud i benderfynu a oedd yn fwriadol a’r rheswm dros wneud hynny. Isadran gyfreithiol CSP fydd yn arwain yr ymholiadau hyn.

Pan fo’n amlwg y bu amddifadu a phenderfyniad yn cael ei wneud i gasglu’r ddyled sy’n deillio o hyn, caiff holl ddewisiadau rhesymol eraill ar gyfer casglu’r ddyled eu hystyried cyn dechrau proses amddifadu o asedau. Mae’r polisi llawn ar Adennill Dyledion ac Amddifadu o Asedau i’w gael ar gais.

ID: 9890, adolygwyd 26/04/2023