Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol

Hunangyllido

Preswyl

Bydd y rhai a gafodd asesiad ariannol sy’n penderfynu bod ganddynt ddigon o arian i dalu am eu gofal eu hunain yn gyfrifol am holl daliadau cysylltiedig â’u hanghenion preswyl, os yw’n ymarferol o fewn rheswm i’r unigolyn a aseswyd dalu. Bydd hyn yn parhau nes bydd eu hadnoddau ariannol yn mynd islaw’r swm penodedig yn y rheoliadau. Fe all pobl sy’n hunangyllido’u gofal ofyn i’w hawdurdod lleol drefnu eu gofal a chymorth drostynt os ydynt yn dewis, dan Adran 35 o SSWBA. Os bydd yr awdurdod lleol yn trefnu eu rhoi mewn cartref gofal, yr awdurdod lleol fydd yn dal y contract a bydd angen i’r unigolyn ad-dalu’r awdurdod lleol am gost lawn y lleoliad.

Allanol

Bydd disgwyl i bobl sydd ag arian uwchlaw’r terfyn cyfalaf dalu hyd at yr uchafswm wythnosol yn unol â chanlyniad eu hasesiad ariannol. Fodd bynnag, os byddant yn mynd am ddewis drutach neu ofal ychwanegol ar ben yr hyn sy’n diwallu eu hanghenion asesedig a phan fo dau neu fwy o ddewisiadau cyfradd safonol sy’n diwallu eu hanghenion ar gael, byddant yn talu’r gost ychwanegol yn ogystal â thalu’r hyn a godir gan yr awdurdod lleol.

ID: 9889, adolygwyd 26/04/2023