Polisi Codi Tal am Wasanaethau Cymdeithasol

Preswylfa Arferol

Mae Adran 194 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu ar gyfer penderfynu preswylfa arferol rhywun.

Pan fo gan oedolyn anghenion gofal a chymorth nad oes modd eu diwallu heblaw trwy fyw mewn llety o fath penodedig a bod yr oedolyn yn byw mewn llety o fath penodedig yng Nghymru, rhaid trin yr oedolyn fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y cylch lle’r roedd yr oedolyn yn byw fel arfer yn union cyn i’r oedolyn ddechrau byw yn y math penodedig o lety. Os oedd yr oedolyn neb breswylfa sefydlog yn union cyn dechrau byw mewn math penodedig o lety, rhaid trin yr oedolyn fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y cylch lle’r oedd yr oedolyn ar y pryd.

ID: 9888, adolygwyd 26/04/2023