Polisi Cymorth Ariannol Tai Sir Benfro

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r ffordd y bydd Cyngor Sir Penfro yn darparu addasiadau cartref i berchnogion tai, tenantiaid y sector preifat a thenantiaid yn ein stoc tai cyngor ein hunain.

Ei phrif amcan yw cynorthwyo preswylwyr anabl i aros yn eu cartref eu hunain a pharhau i fod mor annibynnol a hyderus â phosibl mewn amgylchedd diogel a sicr trwy ddarparu addasiadau cyn belled ag y bo angen ac yn briodol, rhesymol ac ymarferol er mwyn lleihau nifer y derbyniadau i gyfleusterau gofal ac i gynorthwyo gydag oedi wrth drosglwyddo o’r ysbyty lle bo modd.

Bydd y polisi hwn hefyd yn cwmpasu’r cymorth ariannol arall sydd ar gael trwy grantiau neu fenthyciadau gyda’r nod o dargedu gwelliannau cartref a dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd at ddibenion preswyl.

 

Cefndir

Ym mis Gorffennaf 2002, gwnaeth y llywodraeth newidiadau sylweddol i ddeddfwriaeth grantiau tai, gan gyflwyno Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002. Mae’r gorchymyn hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol lunio eu polisïau cymorth ariannol hyblyg eu hunain i dargedu eu cyllid i fynd i’r afael ag anghenion lleol penodol a blaenoriaethau strategol. Ar 10 Mawrth 2021, cyhoeddodd datganiad ysgrifenedig gan Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Julie James, fesurau i gael gwared ar y prawf modd o grantiau cyfleusterau bach a chanolig i bobl anabl. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cynnal astudiaeth ar effaith bosibl dileu’r prawf modd ar grantiau cyfleusterau i bobl anabl yng Nghymru ac wedi canfod bod y prawf modd presennol ar grantiau cyfleusterau i bobl anabl wedi gweithredu fel ataliad i rai pobl anabl dderbyn addasiadau yng Nghymru. Penderfynodd Cyngor Sir Penfro ddileu’r prawf modd o addasiadau bach a chanolig ac mae hyn wedi cyfrannu at y cynnydd yn y galw am addasiadau yn lleol.

Ers yr adolygiad diwethaf o’r polisi hwn yn 2022, mae’r prawf modd wedi ei ddileu ar gyfer addasiadau bach a chanolig, sydd wedi arwain at gynnydd yn y galw am yr addasiadau hyn, ac nid yw’r cyllid a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ynghyd â chyfraniad y cyngor tuag at addasiadau o’i raglen gyfalaf wedi gallu bodloni’r galw. Felly, cynigir newidiadau yn y polisi hwn i ailgyflwyno elfen o’r prawf modd a chapio’r cymorth addasiadau yn ôl disgresiwn sy’n cael ei gynnig.

Ar ben hynny, mae costau wedi cynyddu yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Mae cost gyfartalog y gwahanol fathau o gymorth y mae’r cyngor yn eu darparu, gan gynnwys grantiau cyfleusterau i bobl anabl, wedi cynyddu o ganlyniad, gyda chostau llawer o gynlluniau bellach yn cyrraedd neu’n rhagori ar y cymorth ariannol mwyaf sydd ar gael. O ganlyniad, mae’r cyngor wedi ceisio gwneud y mwyaf o’r cymorth sydd ar gael i sicrhau bod yr holl waith a nodwyd fel gwaith angenrheidiol a phriodol i ddiwallu anghenion y person anabl yn cael ei gwblhau’n foddhaol trwy ddatblygu cymorth ariannol ychwanegol yn ôl disgresiwn lle mae ganddo’r pwerau i wneud hynny.

 

Fframwaith Deddfwriaethol

Mae’r grant cyfleusterau i bobl anabl yn grant sy’n cael ei asesu ar incwm ac mae’n parhau i fod yr unig grant gorfodol cenedlaethol sy’n ymwneud yn benodol â darparu addasiadau i bobl anabl. Darperir pob math arall o gymorth ariannol sydd ar gael yn ôl disgresiwn pob cyngor ac mae’n gyfyngedig i argaeledd cyllid i gefnogi ei amcanion polisi.

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth am gymhwysedd ar gyfer cymorth ariannol, amodau sy’n ymwneud â cheisiadau, cymeradwyo a thalu arian, ac amodau a gofynion perthnasol eraill.

Fel arfer, bydd addasiadau ar gyfer tenantiaid y cyngor yn cael eu darparu yn unol â’r un fframwaith â grantiau cyfleusterau i bobl anabl.

Bydd y polisi yn berthnasol am y cyfnod:  1 Ebrill 2025 i 29 Mawrth 2030 (gyda’r opsiwn i’w adolygu bob dwy flynedd i sicrhau ei fod yn dal i adlewyrchu’r angen a aseswyd yn lleol neu os oes unrhyw newid deddfwriaethol mawr ac, mewn achosion o ddarparu gwaith yn ôl disgresiwn, argaeledd cyllid i gefnogi’r cynlluniau unigol hynny).

Mae disgresiwn i ymestyn neu ddiwygio’r meini prawf cymhwysedd, lefel y cymorth sydd ar gael, a chwmpas y gwaith lle ystyrir bod y sefyllfa’n eithriadol yn nwylo’r awdurdod dirprwyedig sydd gan Bennaeth Diogelu’r Cyhoedd a Thai.

Mae dyletswyddau statudol yr awdurdodau lleol mewn cysylltiad â darparu addasiadau wedi’u nodi yn y ddeddfwriaeth a pholisïau canlynol:

  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladau ac Adfywio 1996
  • Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002
  • Adolygiad o Addasiadau Byw’n Annibynnol:Llywodraeth Cymru (2015)  
  • Safonau Gwasanaeth Addasiadau Tai Llywodraeth Cymru 2019
  • Addasiadau Tai: Swyddfa Archwilio Cymru (2018)  
  • Tai a Phobl Anabl: Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2018)  
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014  
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Addasiadau Tai: Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (2018)
  • Safon Ansawdd Tai Cymru 2023

 

Diben y polisi hwn

Diben y polisi hwn yw darparu gwybodaeth i drigolion Sir Benfro am y cymorth ariannol a’r cyngor a allai fod ar gael gan y cyngor i gynorthwyo i gynnal eu hiechyd a’u lles. Mae’r polisi hwn wedi’i ddatblygu i wneud y canlynol:

  • Helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartref eu hunain am gyfnod hwy
  • Rhoi dewisiadau i bobl ynglŷn â’u hiechyd a’u lles
  • Helpu pobl i gael mynediad at y gymuned ehangach
  • Atal neu leihau’r risg o syrthio
  • Lleihau’r angen am becynnau gofal a gofal preswyl
  • Osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty
  • Gwella safonau tai
  • Dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd

 

Gofynion cyfredol ac yn y dyfodol

Mae’r boblogaeth sy’n heneiddio wedi parhau i gynyddu yng Nghymru a Lloegr ers 2011. Cafwyd cynnydd o 9.2 miliwn ymhlith pobl 65 oed a hŷn yn 2011 i dros 11 miliwn yn 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Rhwng y cyfnod 2019/20 a 2023/24, mae Sir Benfro wedi gweld cynnydd o ryw 67% yng nghyfradd y ceisiadau addasu tai a dderbyniwyd. Roedd cyfradd y ceisiadau a dderbyniwyd wedi bod yn cynyddu’n gyson yn flynyddol, ond yn dilyn cyflwyno’r cymorth yn ôl disgresiwn i bobl anabl heb brawf modd ar gyfer grantiau bach a chanolig o lai na £10,000, gwelsom gynnydd sydyn yn y nifer a oedd am fanteisio ar y cymorth. Dangosir hyn isod. Mae rhagamcanion cyfredol ar gyfer 2024/25 yn dangos y bydd nifer y ceisiadau a dderbynnir yn debygol o fod tua 366, sef 22 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. Os edrychwn ar werth cyfartalog y grantiau a gwblhawyd yn 2024/25 (£6,967.27), gallai hyn gyfateb i gynnydd mewn gwariant o £153,279.94 ychwanegol. Gyda chost gyfartalog grantiau wedi’u cwblhau yn llai na £10,000 yn hanesyddol, roedd yn anochel y byddai’r rhan fwyaf o’r ceisiadau a dderbyniwyd yn gymwys i gael cymorth o 100%.

 

Grantiau cyfleusterau i bobl anabl, grantiau gwaith bach i bobl anabl, ceisiadau cymorth yn ol disgresiwn i bolb anabl 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2024

 

grantiau cyfleusterau i bob anabl, grantiau gwaith bach i bobl anabl, ceisiadau cymorth yn ol disgresiwn i bobl anabl 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2024

ID: 14220, adolygwyd 03/10/2025