Polisi Cymorth Ariannol Tai Sir Benfro

Benthyciadau gwella cartrefi

Diben/canlyniadau allweddol  

Mae’r benthyciadau gwella cartrefi hyn ar gael i alluogi adnewyddu a gwella un eiddo neu fwy nag un eiddo. Mae hyn er mwyn gwella neu gynnal y safonau o fewn yr eiddo sy’n sicrhau ei fod yn parhau i gael ei ddefnyddio fel llety preswyl.

Nid yw’r benthyciad hwn ar gael i gefnogi gwaith ar ail gartrefi ac eiddo i’w defnyddio ar gyfer llety gwyliau neu Airbnb.

 

Meini prawf cymhwysedd (ymgeisydd)

Gall perchnogion llety is-safonol o fewn y sir wneud cais am y benthyciad. Nid yw anheddau gwag yn berthnasol oni bai fod y perchennog yn bwriadu byw yn yr eiddo fel ei brif annedd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Perchen-feddianwyr
  • Landlordiaid
  • Datblygwyr
  • Elusennau / trydydd sector

Rhaid rhoi blaenoriaeth i berchnogion tai a landlordiaid.

Rhaid rhoi blaenoriaeth i landlordiaid sy’n cynnig tai fforddiadwy / tai cymdeithasol / hawliau enwebu dros rai sy’n gofyn am rent y farchnad.

Rhaid i’r ymgeisydd allu fforddio ad-daliadau misol y benthyciad a bydd yn destun asesiad ariannol.

Ni ddylai ymgeiswyr fod â’r canlynol:

  • Hanes credyd anffafriol a all gynnwys:
  • Dyfarniadau gan lys sirol
  • Trefniadau gwirfoddol unigol
  • Gorchymyn rhyddhau o ddyled
  • Bod yn fethdalwr (o fewn y chwe blynedd diwethaf)
  • Ansolfedd/datodiad cwmni

Bod mewn dyled i’r awdurdod lleol ar adeg gwneud cais.

 

Meini prawf cymhwysedd (gwaith)

Rhaid i unrhyw fenthyciad i ariannu gwaith gyfrannu at wneud yr eiddo yn gynnes, yn ddiogel neu’n sicr. Nid oes gofyniad bod yn rhaid i’r eiddo fodloni’r holl feini prawf hyn. Gellid targedu’r benthyciad at un elfen allweddol.

Gellid defnyddio’r cynllun benthyciadau i gefnogi’r elfennau canlynol:

  • Tai is-safonol (peryglon Categori 1 / Categori 2 / Safon Ansawdd Tai Cymru)
  • Atgyweirio, diogelwch tân neu ddiogelwch
  • Cartrefi gwag (adnewyddu/trosi)
  • Effeithlonrwydd ynni (ychwanegiad at y rhwymedigaeth cwmni ynni)
  • Cynlluniau atgyweirio grŵp / cynlluniau amlen
  • Sector rhentu preifat (cynlluniau mynediad)
  • Cymhorthion ac addasiadau ar gyfer pobl hŷn neu anabl neu ychwanegiad at grant cyfleusterau i bobl anabl

Nid rhestr gynhwysfawr yw hon ac, os yw’r gwaith yn cyfrannu at wneud yr eiddo’n gynnes, yn ddiogel neu’n sicr, yna bydd yn dod o fewn telerau’r cynllun.

Ni ddylai fod unrhyw beryglon Categori 1 (fel y’u diffinnir gan y System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai) ar ôl cwblhau’r gwaith os yw’r benthyciad yn fenthyciad landlord, h.y. os yw’r eiddo’n eiddo rhent.

Bydd swyddogion o’r awdurdod lleol yn ymweld â phob eiddo i benderfynu a yw’r gwaith yn gymwys ac i drafod y broses ymgeisio am fenthyciad gyda’r ymgeisydd.

Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am sicrhau eu contractwyr eu hunain ar gyfer y gwaith. Ni fydd yr awdurdod lleol yn atebol am ansawdd y gwaith nac am gamau dilynol os bydd diffygion ar ôl cwblhau’r gwaith. 

 

Uchafswm cyfnodau benthyciadau

  • Perchen-feddianwyr – cyfnod benthyciad uchaf hyd at ddeng mlynedd.
  • Landlordiaid / datblygwyr / elusennau – cyfnod benthyciad uchaf hyd at bum mlynedd.

Mae cyfnodau ad-dalu yn lleihau’n flynyddol gan fod y cyllid wedi’i fenthyg i’r awdurdod lleol gan Lywodraeth Cymru a bod y cyllid i’w ad-dalu yn 2030.

Cytunir ar gyfnod y benthyciad wrth wneud cais; bydd y cyfnod yn dibynnu ar werth y benthyciad a gallu ariannol yr ymgeisydd i’w ad-dalu

 

Telerau ad-dalu

Bydd ad-daliad y benthyciad yn cael ei wneud drwy daliadau archeb sefydlog misol ac yn dechrau’r mis llawn cyntaf ar ôl i’r gwaith gael ei ystyried yn gyflawn ac i daliad terfynol y benthyciad gael ei wneud.

I berchen-feddianwyr, y swm ad-dalu lleiaf yw £50 y mis ac i landlordiaid y swm ad-dalu lleiaf yw £100 y mis.

Gellir ad-dalu benthyciad yn llawn ar unrhyw adeg.

Mae benthyciadau’n ddi-log, ar yr amod nad oes unrhyw ddiffyg talu ar y benthyciad. Os bydd methiant i ad-dalu, bydd gweddill y benthyciad yn ddyledus ar unwaith a chodir llog ar gyfradd o 6% o ddyddiad y methiant gan y benthyciwr.

 

Amodau

Ni all unrhyw fenthyciad a gynigir, gan ystyried unrhyw forgais sy’n bodoli eisoes, fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo. Mae’n bosibl mewn rhai achosion i eiddo arall gael ei ddefnyddio fel sicrhad ar gyfer y benthyciad.

Rhaid sicrhau benthyciadau gan arwystl ariannol cyntaf neu ail arwystl gyda’r Gofrestrfa Tir. Os oes morgais eisoes ar yr eiddo, bydd angen caniatâd y benthyciwr ar y cyngor i sicrhau ein harwystl.

Os yw eiddo dan gyd-berchnogaeth, bydd yn rhaid i’r ddwy ochr gytuno i osod pridiant cyfreithiol ar yr eiddo, gan gynnwys llofnodi dogfennaeth y cytundeb ar gyfer y pridiant cyfreithiol a’r cyfleuster benthyciad; fodd bynnag, dim ond un unigolyn fydd angen i lenwi’r ffurflen gais.

Rhaid i’r eiddo barhau i fod wedi’i yswirio’n llawn yn erbyn colled neu ddifrod, hyd at y gwerth adfer llawn.

Darperir awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd (neu gyfwerth) i gymeradwyo cytundebau benthyciad yn unol â meini prawf y polisi hwn. 

 

Symiau benthyciadau

Perchen-feddianwyr a landlordiaid

Isafswm o £1,000 hyd at uchafswm o £25,000 fesul uned

Bydd swm gwirioneddol y benthyciad a gymeradwyir yn dibynnu ar gost wirioneddol y gwaith ac ni all unrhyw fenthyciad a gynigir, gan ystyried unrhyw forgais sy’n bodoli eisoes, fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo ar y farchnad.

Os oes morgais presennol, bydd gwerth presennol yr eiddo yn cael ei bennu a’i gefnogi gan adroddiad prisio. Rhaid i’r prisiad gael ei gynnal gan syrfëwr cymwys. Mae cost y prisiad yn daladwy gan yr ymgeisydd.

 

Ffioedd/cost y benthyciad

Bydd ffi weinyddol untro yn berthnasol a all gael ei thalu dros gyfnod y benthyciad neu ei thalu ymlaen llaw. Mae’r ffi yn ganran a gymhwysir i’r benthyciad sy’n amrywio yn dibynnu ar y cyfnod ad-dalu.

Mae swm y ffi wedi’i nodi fel a ganlyn.

Ar gyfer benthyciadau a gymerir dros un i dair blynedd, y ffi weinyddol yw 10%.

Ar gyfer benthyciadau a gymerir dros bedair i bum mlynedd (landlordiaid) a phedair i ddeng mlynedd (perchen-feddianwyr), y ffi yw 15%.

 

Ar y dudalen hon:

Benthyciad Troi Tai’n Gartrefi (eiddo gwag)

Grant cartrefi gwag (yn amodol ar gyllid)

Cymorth ariannol drwy fenthyciad gydol oes yn ôl disgresiwn

Cymorth atodol iechyd a thai



Benthyciad Troi Tai’n Gartrefi (eiddo gwag)

 

Diben/canlyniadau allweddol  

Mae Troi Tai’n Gartrefi yn fenter gan Lywodraeth Cymru a gynlluniwyd i ddod ag eiddo gwag (o leiaf chwe mis yn wag) yn ôl i ddefnydd i’w gwerthu neu eu rhentu.

Gellir defnyddio cyllid ar gyfer:

  • benthyciadau i ddychwelyd eiddo i ddefnydd i’w werthu – byddai gan y benthyciadau hyn gyfnod ad-dalu o ddwy flynedd ar y mwyaf
  • benthyciadau i ddychwelyd eiddo i ddefnydd i’w rentu – byddai gan y benthyciadau hyn gyfnod ad-dalu o bum mlynedd ar y mwyaf  

 

Meini prawf cymhwysedd (ymgeisydd)

Gellir cynnig benthyciadau i unigolion (disgwylir tri mis o slipiau cyflog), elusennau (tair blynedd o gyfrifon) a chwmnïau/busnesau (tair blynedd o gyfrifon).

Gall unigolion sy’n gwneud cais am y benthyciadau uchod fod naill ai’n berchnogion presennol neu’n ddarpar berchnogion, ond rhaid i’r eiddo fod yn enw’r ymgeisydd cyn y gellir cymeradwyo’r benthyciad.

Nid yw benthyciadau ar gael i bobl sydd eisiau adnewyddu’r eiddo a byw ynddo fel eu prif gartref (gweler benthyciadau gwella cartrefi). 

 

Meini prawf cymhwysedd (gwaith)

Gwaith sy’n ofynnol ar gyfer adnewyddu a gwella eiddo sengl neu drosi eiddo gwag yn nifer o unedau, fel eu bod yn addas i’w defnyddio fel llety preswyl.

Rhaid i waith gydymffurfio â’r holl reoliadau adeiladu perthnasol a bodloni rheoliadau cynllunio lle bo angen.

Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am sicrhau ei gontractwyr ei hun ar gyfer y gwaith. Ni fydd yr awdurdod lleol yn atebol am ansawdd y gwaith nac am gamau dilynol os bydd diffygion ar ôl cwblhau’r gwaith.

Nid yw gwaith y tu allan i gwrtil yr eiddo yn gymwys i gael cymorth oni bai ei fod yn ymwneud â darparu gwasanaethau hanfodol fel dŵr, nwy neu drydan.

Ni fydd cymorth benthyciad ar gael ar gyfer gwaith i’r canlynol:

  • Eiddo nad yw o natur barhaol fel cychod tai a charafannau
  • Siediau, adeiladau allanol ac estyniadau fel ystafelloedd gwydr nad oes ganddynt gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
  • Adeiladau nad ydynt yn addas i’w trosi’n anheddau trigiadwy
  • Adeiladau lle mae o leiaf 40% yn cael ei ddefnyddio gan yr ymgeisydd a/neu ei deulu fel eu cartref
  • Adeiladau sy’n cael eu gosod, neu a fydd yn cael eu gosod, fel tai gwyliau neu lety Airbnb

 

Telerau ad-dalu 

Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn y bwriedir ei wneud gyda’r eiddo ar ôl cwblhau’r gwaith.

  • Os ydych chi’n adnewyddu un eiddo, sydd i’w werthu, rhaid ad-dalu’r benthyciad pan werthir yr eiddo neu hyd at ddwy flynedd o ddyddiad cymeradwyo’r benthyciad, pa un bynnag sydd gyntaf.
  • Os ydych chi’n trosi eiddo yn nifer o unedau, a fydd yn cael eu gwerthu ar ôl cwblhau’r gwaith, disgwylir y bydd yn rhaid ad-dalu’r benthyciad ar werthiant yr uned gyntaf, neu ar ôl dwy flynedd, pa un bynnag sydd gyntaf. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i drefnu amserlen ad-dalu y mae’r ddwy ochr yn cytuno arni.
  • Os yw’r eiddo/unedau i fod ar gael i’w gosod, rhaid ad-dalu’r benthyciad o fewn tair blynedd o ddyddiad cymeradwyo’r benthyciad.
  • Gellir ad-dalu pob benthyciad yn llawn ar unrhyw adeg.
  • Mae’r benthyciadau’n ddi-log, ar yr amod na fu unrhyw ddiffygdalu ar y benthyciad.
  • Pan fo angen talu unrhyw swm ond nad yw’n cael ei ad-dalu yn unol ag amodau’r benthyciad, bydd torri amodau wedi digwydd.
  • Yn yr achos hwn, bydd ad-daliad gweddill y benthyciad yn ddyledus ar unwaith a chodir llog ar gyfradd o 6% o ddyddiad y methdaliad gan y benthyciwr.

 

Amodau 

Bydd benthyciadau’n cael eu sicrhau fel arwystl cyntaf neu ail arwystl yn erbyn teitl y Gofrestrfa Tir.

 Dim ond ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf chwe mis neu fwy y gellir cynnig benthyciadau.

 Ni all unrhyw fenthyciad a gynigir, gan ystyried unrhyw forgais sy’n bodoli eisoes, fod yn fwy na’r cymarebau rhwng benthyciadau a gwerth canlynol.

Benthyciad hyd at £150,000 – cymhareb rhwng benthyciad a gwerth o 80%

Benthyciad o rhwng £150,001 a £250,000 – cymhareb rhwng benthyciad a gwerth o 70%

Gall y cyngor ystyried mewn rhai achosion ddefnyddio eiddo arall fel sicrhad ar gyfer y benthyciad.

Rhaid i’r ymgeisydd gyflawni’r gwaith addasu/atgyweirio o fewn cyfnod amser y cytunwyd arno.

  • Rhaid marchnata’r eiddo/unedau i’w gwerthu neu i’w gosod o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl cwblhau’r gwaith (12 wythnos). Os yw’r eiddo/unedau ar gael i’w rhentu ac nad ydynt yn cael eu meddiannu o fewn y cyfnod hwn, yna efallai y bydd yn rhaid ad-dalu’r benthyciad.
  • Rhaid ad-dalu’r benthyciad naill ai ar neu cyn y dyddiad a nodir yn y cytundeb cyfleuster benthyciad.

Rhaid i’r eiddo barhau i fod wedi’i yswirio’n llawn yn erbyn colled neu ddifrod, hyd at y gwerth adfer llawn.

Darperir awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd (neu gyfwerth) i gymeradwyo cytundebau benthyciad yn unol â meini prawf y polisi hwn.

 

Uchafswm

Ar gyfer eiddo i’w gwerthu neu eu gosod (am werth y farchnad)

Isafswm o £1,000 hyd at uchafswm o £25,000 fesul uned.

Ar gyfer eiddo a osodir ar y Lwfans Tai Lleol

Isafswm o £1,000 hyd at uchafswm o £35,000 fesul uned.

Bydd angen i’r landlord ymrwymo i gytundeb hawliau enwebu neu unrhyw gynllun lesio yn y sector rhentu preifat a allai fod ar waith.

Bydd cyllid hyd at £25,000 ar gael ymlaen llaw cyn i’r gwaith ddechrau, gan ddarparu cyfalaf gweithio i berchnogion. Os yw’r benthyciad yn fwy na £25,000 yna gellir gwneud taliadau interim dilynol hyd at swm llawn y benthyciad.

 

Ffioedd benthyciadau 

Codir ffi weinyddol fel cyfraniad tuag at gostau prosesu ceisiadau.

Mae’r holl ffioedd yn amodol ar newid yn flynyddol yn unol â pholisi ffioedd a thaliadau’r cyngor.

 

Swm y benthyciad 
Ffi
 £0 – £50,000   £295.00
 £50,001 – £100,000      £395.00
 £100,001 – £150,000   £495.00
 £150,001 – £250,000                      £595.00

 

Bydd taliadau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y ffi weinyddol am gofrestru arwystl y benthyciad gyda’r Gofrestrfa Tir a Thŷ’r Cwmnïau (os oes angen) gan Gyngor Sir Penfro.

Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am sicrhau ei gontractwyr ei hun ar gyfer y gwaith. Ni fydd yr awdurdod lleol yn atebol am ansawdd y gwaith nac am gamau dilynol os bydd diffygion ar ôl cwblhau’r gwaith.

Nid yw ffioedd adeiladu/cynllunio na ffioedd prisio Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) (os oes angen) wedi’u cynnwys a dylai’r ymgeisydd eu talu.

 

Grant cartrefi gwag (yn amodol ar gyllid)

 

Diben/canlyniadau allweddol  

Diben y grant hwn yw dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd i helpu i adfywio cymunedau a darparu tai fforddiadwy sydd fawr eu hangen ar gyfer unigolion.

 

Meini prawf cymhwysedd (ymgeisydd)

Rhaid i ymgeiswyr fod yn berchnogion neu’n ddarpar berchnogion sy’n bwriadu meddiannu’r cartref gwag fel eu prif breswylfa am gyfnod o bum mlynedd o leiaf o ddyddiad ardystio’r gwaith a gynorthwyir gan grant(cyfnod amodau’r grant).

Rhoddir ystyriaeth hefyd i geisiadau gan landlordiaid preifat sydd â’r bwriad o osod yr eiddo am gyfnod o leiaf bum mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith ar lefel rhent fforddiadwy (lefel rhent canolradd uchaf).

Mae cwblhau’r holl waith cymwys yn ofyniad er mwyn rhyddhau’r taliad grant. Os yw cost gwaith cymwys yn fwy na’r uchafswm grant, bydd yr ymgeisydd hwn yn gyfrifol am ariannu’r gost ychwanegol. Byddai angen tystiolaeth bod y cyllid hwn ar gael cyn dyfarnu’r cais.

 

Meini prawf cymhwysedd (gwaith)

Rhaid i’r cartref gwag fod wedi’i leoli o fewn Sir Benfro.

Rhaid i’r cartref fod wedi’i gofrestru ar hyn o bryd gydag adran treth gyngor yr awdurdod fel un gwag (heb ei feddiannu) a bod wedi bod felly am gyfnod o chwe mis o leiaf ar ddyddiad y cais.

Dim ond ar gyfer gwaith cymwys a nodwyd gan yr awdurdod lleol y bydd cymorth grant yn cael ei ddyfarnu. Dim ond gwaith atgyweirio hanfodol sy’n ofynnol i wneud y cartref yn ddiogel ac yn saff ac yn rhydd o unrhyw beryglon Categori 1 fydd yn cael ei ystyried.

Ni fydd unrhyw waith a gwblheir cyn yr arolwg a chymeradwyaeth grant yn gymwys i gael cymorth grant.

 

Amodau 

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr sy’n berchnogion tai wneud cyfraniad gorfodol o 15% o gyfanswm cost y gwaith cymwys hyd at uchafswm y grant (i’w gadarnhau, yn dibynnu ar y cynllun sydd ar waith). Bydd y cyfraniad gorfodol yn cael ei hepgor i ymgeiswyr sydd mewn caledi ariannol.

Bydd gofyn i landlordiaid preifat wneud cyfraniad gorfodol o 50% o gyfanswm cost y gwaith cymwys hyd at uchafswm y grant (i’w gadarnhau, yn dibynnu ar y cynllun sydd ar waith).

Ni ddyfernir unrhyw gymorth grant lle mae cyfanswm y gwaith a aseswyd o dan £1,000.

Mae angen ad-dalu’r cymorth grant a ddyfarnwyd os caiff y cartref ei werthu, neu os na chaiff ei feddiannu fel y bwriadwyd yn ystod cyfnod pum mlynedd amodau’r grant.

Mae’n ofyniad bod pridiant cyfreithiol llawn yn cael ei gofrestru yn erbyn teitl yr eiddo yn y Gofrestrfa Tir o blaid yr awdurdod lleol.

Bydd awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd (neu gyfwerth) i gymeradwyo cytundebau benthyciad/grant yn unol â meini prawf y polisi hwn.

 

Uchafswm

Bydd terfyn y grant yn cael ei osod yn ôl y cyllid sydd ar gael a bydd pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i bennaeth y gwasanaeth a’r aelod o’r cabinet i gytuno ar y gwerth mwyaf a’r meini prawf.

Mae’r grant yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.

 

Cymorth ariannol drwy fenthyciad gydol oes yn ôl disgresiwn

 

Diben/canlyniadau allweddol  

Efallai y bydd achlysur pan fydd eiddo mewn cyflwr o’r fath (peryglon Categori 1) fel nad yw’n rhesymol i’r cyngor ganiatáu i’r meddiannwr aros heb i waith gael ei wneud. Mae gan y cyngor ddisgresiwn i gynnig benthyciad gydol oes ar gyfer peryglon Categori 1 o fewn yr eiddo.

Efallai hefyd y bydd sefyllfa lle mae unigolyn agored i niwed yn byw mewn amgylchiadau anfoddhaol sy’n gofyn am welliannau i’r cartref i alluogi’r unigolyn hwnnw i aros ar yr aelwyd. Rhaid i’r gwaith a nodwyd fod yn hanfodol gyda thystiolaeth wedi’i darparu o osgoi costau sylweddol i’r gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol drwy alluogi’r unigolyn agored i niwed i aros gartref. 

 

Meini prawf cymhwysedd (ymgeisydd)

Perchen-feddianwyr na allant fodloni’r gwiriad fforddiadwyedd ar gyfer

benthyciadau gwella cartrefi.

Lle na ellir nodi cyllid elusennol cymwys neu lle mae’n annigonol. 

 

Meini prawf cymhwysedd (gwaith)  

Gwaith atgyweirio ar gyfer sefyllfaoedd difrifol ac annisgwyl a allai fod yn beryglus sy’n gofyn am gamau gweithredu ar unwaith i annedd fel: 

  • diogelu adeiladwaith sylfaenol yr eiddo rhag mynediad gwynt neu law
  • amddiffyn y preswylwyr rhag dod i gysylltiad uniongyrchol â pherygl
  • atgyweiriadau i ffenestri a drysau
  • draeniau diffygiol
  • gwifrau peryglus 

Bydd y gwaith yn beryglon Categori 1 (System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai) yn unig a/neu’n waith i ganiatáu i unigolion agored i niwed aros yn y cartref.

Bydd unrhyw waith cymorth arall yn ôl disgresiwn y cyngor. Bydd swyddogion o’r awdurdod lleol yn ymweld â phob eiddo i benderfynu a yw’r gwaith yn gymwys ac i drafod y broses ymgeisio am gymorth ariannol gyda’r ymgeisydd. 

 

Telerau ad-dalu 

Daw’r cymorth ariannol hwn yn ad-daladwy pan gaiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo neu os bydd yr ymgeisydd yn rhoi’r gorau i fyw yn yr eiddo.

Bydd pridiant tir lleol neu bridiant cyfreithiol llawn yn cael ei osod a fydd yn rhwymo’r ymgeisydd ac unrhyw olynwyr yn y teitl. Bydd y pridiant hwn yn cael ei gofrestru yn y gofrestr pridiannau tir leol ac wedi hynny caiff ei gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir.

Mae’r benthyciadau’n ddi-log tan yr amser y byddant yn ad-daladwy.

Pan fo angen talu unrhyw swm ond nad yw’n cael ei ad-dalu yn unol ag amodau’r benthyciad, bydd torri amodau wedi digwydd. Mewn achosion o’r fath, gall Cyngor Sir Penfro fynnu ad-daliad ar unwaith o’r benthyciad a chodir llog ar 5% uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr. 

 

Amodau  

Gall y cyngor ystyried argaeledd ecwiti yn yr eiddo wrth benderfynu ar swm y benthyciad i’w ddyfarnu.

Ar gyfer benthyciadau hyd at £5,000, bydd pridiant tir lleol yn cael ei sicrhau ar yr eiddo a fydd yn rhwymo’r ymgeisydd ac unrhyw olynwyr yn y teitl. Bydd y pridiant hwn yn cael ei gofrestru yn y gofrestr pridiannau tir leol ac wedi hynny caiff ei gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir.

Ar gyfer benthyciadau dros £5,000, bydd pridiant cyfreithiol yn cael ei gyflwyno i’r Gofrestrfa Tir a fydd yn rhwymo’r ymgeisydd ac unrhyw olynwyr yn y teitl. Bydd y pridiant hwn yn cael ei gofrestru yn y gofrestr pridiannau tir leol ac wedi hynny caiff ei gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir.

Darperir awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd (neu gyfwerth) i gymeradwyo cytundebau benthyciad/grant yn unol â meini prawf y polisi hwn yn unol â chyfansoddiad yr awdurdod.

 

Uchafswm

£15,000 gan gynnwys TAW ar gyfer cael gwared ar beryglon Categori 1 gyda’r disgresiwn i gynyddu hyn mewn amgylchiadau eithriadol trwy ystyriaeth y Pennaeth Tai (neu gyfwerth) ac yn unol â gofynion gweithdrefn gontract yr awdurdod.

Diderfyn ar gyfer gwaith sy’n galluogi unigolyn i aros yn ei gartref ac osgoi costau iechyd a gofal cymdeithasol sylweddol.

Mae’r benthyciad hwn yn amodol ar y cyllid sydd ar gael, ac yn amodol ar y broses ymgeisio rhaglen gyfalaf briodol.

 

Ffioedd/cost y benthyciad 

Ni chodir unrhyw ffi weinyddol am y benthyciad hwn. 

 

Cymorth atodol iechyd a thai

 

Diben/canlyniadau allweddol  

Cymorth yn ôl disgresiwn i alluogi byw’n annibynnol lle nad yw cynhyrchion grant a benthyciad eraill yn talu costau oherwydd cyfyngiadau yn y meini prawf.

Mae cymorth ariannol yn dibynnu ar argaeledd ffynonellau ariannu priodol, fel y Gronfa Gofal Integredig.

Mae enghreifftiau o eitemau cymwys yn cynnwys:

  • clirio eiddo mewn achosion o gelcio
  • llety dros dro i hwyluso gwaith
  • cysylltu gwasanaethau
  • materion iechyd cyhoeddus eraill

Cynigir y cyllid hwn yn ôl disgresiwn y rheolwr tîm yn unig.

Sylwer: Nid cymorth grant yw’r cyllid hwn, ond cymorth ariannol a ddarperir am gyfnod meddiannaeth y derbynnydd o’r eiddo ac fe ddaw’n ad-daladwy pan gaiff yr eiddo ei werthu / ei drosglwyddo.

 

Meini prawf cymhwysedd (ymgeisydd)

Cleientiaid agored i niwed na allant gael mynediad at ffynonellau ariannu eraill. 

 

Meini prawf cymhwysedd (gwaith)  

Gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn iechyd/diogelwch y meddiannydd neu bobl eraill sy’n agos at y diffyg a nodwyd ond na ellir ei gyflawni gan gynhyrchion grant a benthyciad eraill.

Bydd swyddogion o’r awdurdod lleol yn ymweld â phob eiddo i benderfynu a yw’r gwaith yn gymwys ac yn trafod pob achos gyda’r rheolwr tîm. 

 

Amodau 

Bydd pridiannau tir lleol neu bridiant cyfreithiol y Gofrestrfa Tir yn cael eu cyflwyno i ddod yn ad-daladwy pan gaiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo, am ba reswm bynnag, ar ba bynnag adeg.

Bydd awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd (neu gyfwerth) i gymeradwyo cytundebau benthyciad/grant yn unol â meini prawf y polisi hwn.

 

Uchafswm

Yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. 

 

 

ID: 14229, adolygwyd 03/10/2025