Polisi Cymorth Ariannol Tai Sir Benfro
Cofrestr tai hygyrch Sir Benfro (rhan o bolisi dyrannu Cartrefi Dewisedig)
Ar hyn o bryd, mae gan Sir Benfro gofrestr tai hygyrch sy’n rhestru’r ymgeiswyr hynny sydd angen tai arbenigol wedi’u haddasu neu dai y gellir eu haddasu. Mae tai sydd ar gael drwy gofrestr tai hygyrch Sir Benfro yn cynnwys eiddo wedi’u haddasu ar gyfer pobl anabl.
I fod yn gymwys ar gyfer cofrestr tai hygyrch Sir Benfro, bydd angen i ymgeiswyr gael asesiad ac atgyfeiriad gan therapydd galwedigaethol neu weithiwr meddygol proffesiynol cymwys arall fel meddyg teulu.
Er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr yn ymgeisio ar gyfer eiddo priodol, bydd y bobl hynny ar gofrestr tai hygyrch Sir Benfro yn cael eu categoreiddio yn ôl y meini prawf canlynol:
Lefel 1
- Defnyddiwr cadair olwyn dan do neu’r rhai â chyflwr dirywiol sy’n golygu y bydd eu sefyllfa debygol yn golygu bod angen cadair olwyn arnynt i’w defnyddio dan do.
Lefel 2
- Defnyddiwr cadair olwyn awyr agored y mae angen llety ar y llawr gwaelod arno ond sy’n gallu cerdded dan do gan ddefnyddio cymhorthion cerdded os oes angen.
neu
- Rhai problemau symudedd ond gellid eu diwallu gydag addasiadau fel lifft grisiau a chawod mynediad gwastad.
Nid yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr, ac mae pob cais yn cael ei asesu ar ei rinweddau unigol.
Ni fydd ymgeiswyr ar Lefel 1 cofrestr tai hygyrch Sir Benfro yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cartrefi anghenion cyffredinol. Bydd y rhai ar Lefel 2 yn cael eu hystyried ar gyfer eiddo anghenion cyffredinol sy’n addas i’w haddasu.
Addasiadau eiddo’r cyngor – angenrheidiol a phriodol
Wrth ystyried cais am addasiadau i eiddo’r cyngor, mae angen ystyried mynediad i’r eiddo. Byddwn yn gweithio tuag at ddosbarthu ein stoc dai sy’n eiddo i’r cyngor yn y categorïau canlynol:
Categori 1
Eiddo sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn dan do, gan gynnwys cartrefi am oes (nid yw hyn yn cynnwys fflatiau ar y llawr cyntaf neu uwchben).
Categori 2
Eiddo sydd wedi cael rhai addasiadau sy’n addas ar gyfer unigolyn anabl sydd â rhywfaint o allu i gerdded ond nad yw’n ddefnyddiwr cadair olwyn dan do, e.e. cawod mynediad gwastad, rheiliau gafael, rampiau bach.
Categori 3
Eiddo nad oes ganddynt unrhyw addasiadau ar adeg yr arolwg ond sy’n addas i’w haddasu yn y dyfodol i ddiwallu anghenion unigolyn anabl sydd â rhywfaint o allu i gerdded ond nad yw’n ddefnyddiwr cadair olwyn dan do.
Categori 4
Eiddo nad ydynt yn addas i’w haddasu oherwydd lefel yr addasiadau y byddai eu hangen i ddiwallu anghenion unigolyn anabl. Felly, ystyrir nad yw addasiadau (mynediad mewnol neu allanol) yn rhesymol nac yn ymarferol. (Gall eithriadau fod yn berthnasol os oes addasiadau bach fel rheiliau gafael a rampiau bach eisoes yn eu lle neu os ydynt wedi’u gosod i ddiwallu anghenion preswylydd presennol.)
Os yw’r eiddo wedi’i ddosbarthu fel un nad yw’n addas ar gyfer pobl â phroblemau symudedd, yna ystyrir nad yw’n rhesymol nac yn ymarferol gwneud yr addasiadau o fewn yr eiddo hwn. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd angen i’r Gwasanaeth Tai ar y cyd â’r therapydd galwedigaethol ystyried anghenion hirdymor y tenant anabl fel unigolyn/aelwyd ynghyd â’r addasiadau gofynnol. Bydd angen i opsiynau tai amgen fod yn ystyriaeth sylfaenol mewn achosion o’r fath, a gweithio gyda thimau rheoli dyraniadau a thenantiaethau i ddod o hyd i lety addas arall.
Wrth wneud y penderfyniad a ddylid darparu addasiadau yn yr eiddo, mae angen ystyried y canlynol.
Yr hyn sy’n bwysig i’r tenant
- Categori: Nodau/amcanion
- I'w ystyried: A yw’r gwaith yn gallu cefnogi rolau ac arferion yr unigolyn anabl, gan gynnwys gofalu am eraill neu gefnogi gofalwyr sy’n gofalu am yr unigolyn anabl?
Anghenion a nodwyd
- Categori: Hirdymor a chynaliadwy
- I'w ystyried: A yw’r gwaith yn darparu ateb hirdymor i ddiwallu’r angen/anghenion a defnydd yn y dyfodol?
Cyraeddadwy yn yr amgylchedd
- Categori: Economaidd
- I'w ystyriad: A yw’n bosibl cyflawni’r addasiad o fewn yr eiddo?
- I'w ystyriad: A yw’r gwaith yn darparu gwerth am arian wrth leihau costau gofal?
Os na yw’r ateb i unrhyw un o’r uchod, dylid ystyried dewisiadau amgen addas, a all gynnwys tai amgen. Yn yr amgylchiad hwn, bydd y Gwasanaeth Tai yn gweithio gyda’r tenantiaid i ddod o hyd i dai addasadwy neu addasedig eraill o’n stoc tai cyngor.