Polisi Cymorth Ariannol Tai Sir Benfro
Crynodeb o addasiadau a chymorth arall sydd ar gael
Dyma grynodeb o’r cynhyrchion cymorth ariannol sydd ar gael:
Cymhorthion ac addasiadau bach (llai na £350 neu’n gyfwerth ag ef)
Rhaglen Addasiadau Ymateb Brys (wedi’i darparu gan Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru)
Addasiadau bach
Lle mae’r gwaith sydd wedi’i nodi yn llai na £1,000 neu’n gyfwerth ag ef.
Addasiadau canolig
Lle mae’r gwaith sydd wedi’i nod yn llai na £7,000 neu’n gyfwerth ag ef.
- Cymorth yn ôl disgresiwn i bobl anabl – cymorth ychwanegol ar gyfer addasiadau i bobl anabl
- Grant cyfleusterau i bobl anabl (bach/canolig)
- Grant adleoli
- Cymorth siopau sgwteri
Addasiadau mawr (cyllid gorfodol)
- Grant cyfleusterau i bobl anabl (mawr)
Cymorth ariannol arall (yn ôl disgresiwn)
- Benthyciad gydol oes
- Cymorth atodol iechyd a thai
- Grantiau cartrefi gwag
Benthyciadau gwella tai (yn ôl disgresiwn)
- Benthyciad gwella cartrefi (Diogel, Cynnes a Sicr)
- Benthyciad Troi Tai’n Gartrefi (Cynllun Benthyciadau Eiddo Gwag)
Bydd argaeledd yr holl gymorth grant neu fenthyciad yn amodol ar weithdrefn gosod cyllideb flynyddol y cyngor. Cynigir pob grant/benthyciad nad yw’n orfodol yn ôl disgresiwn y cyngor ac mae fframwaith y grantiau/benthyciadau hyn yn ddarostyngedig i’r polisi hwn.
Dyfernir rhai grantiau a/neu fenthyciadau ar yr amod y bydd yr ymgeisydd yn ad-dalu swm y grant/benthyciad yn llawn i’r cyngor os caiff yr eiddo ei werthu neu os na chaiff ei feddiannu fel y bwriadwyd o fewn cyfnod amser y cytunwyd arno. Cyhoeddir manylion llawn amodau’r grant/benthyciad yn uniongyrchol i ymgeiswyr, yn ysgrifenedig, ar yr adeg y cymeradwyir grant/benthyciad.
Mae cyfnod amodau’r grant/benthyciad yn dechrau ar y dyddiad y cwblheir y gwaith i foddhad y cyngor. Yn dibynnu ar y math o grant neu gynnyrch benthyciad, caiff pridiannau eu cyflwyno i’r Gofrestrfa Tir cyn cymeradwyo grant/benthyciad neu fel pridiant tir lleol pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau (yn dibynnu ar fath a gwerth y grant/benthyciad).
O dan rai amgylchiadau, gellir ystyried hepgor amodau grant/benthyciad. Gwneir penderfyniadau ynghylch unrhyw hepgoriad o ad-daliad gan y Rheolwr Tîm ar gyfer Grantiau a Benthyciadau Tai gyda chytundeb y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd (neu gyfwerth).
Mae amodau grantiau cyfleusterau i bobl anabl a osodir o dan y polisi hwn yn parhau fel y’u diffinnir yn Neddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ac unrhyw reoliadau cysylltiedig a wneir o dan y Ddeddf hon yn ogystal â sut y’u manylir yn y polisi hwn. Er bod y polisi hwn yn rhoi canllaw i’r amodau, mae canllawiau manwl a datganiad o’r gyfraith ar gael mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth hon.
Ar gyfer rhai mathau o grantiau a benthyciadau yn ôl disgresiwn, rhoddir amodau ar y grant/benthyciad naill ai drwy bridiant tir lleol neu bridiant cyfreithiol llawn gyda’r Gofrestrfa Tir, yn dibynnu ar werth y benthyciad/grant. Mae’r pwerau sy’n galluogi’r awdurdod lleol i sicrhau’r taliadau hyn wedi’u diffinio yng Ngorchymyn Diwygio Rheoleiddio 2002 a byddant yn cael eu hamlinellu i ymgeiswyr grantiau/benthyciadau yn y llythyr/cytundeb cynnig grant/benthyciad. Bydd y cynnig o grant/benthyciad yn amodol ar yr ymgeisydd yn cytuno bod pridiant tir lleol neu bridiant cyfreithiol yn cael ei sicrhau ar yr eiddo ac unrhyw olynwyr mewn teitl os nad yw ad-daliad wedi’i wneud cyn yr amser hwn.
Dylid nodi na all y cyngor wneud y canlynol:
- talu am yr un addasiadau/gwaith ddwywaith (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol ar gyfer gwaith bach/mân)
- talu am ymestyn contract gwasanaeth y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol, nac ailosod offer lle nad yw’r gwaith gwasanaethu a chynnal a chadw wedi’i gadw’n gyfredol