Polisi Cymorth Ariannol Tai Sir Benfro
Cwynion a diwygiadau i'r polisi
Cwynion
Os yw ymgeiswyr yn anfodlon â’r gwasanaeth (gan gynnwys os gwrthodwyd grant), dylent gysylltu â Phennaeth Diogelu’r Cyhoedd a Thai ym mhrif gyfeiriad y cyngor. Os na chaiff y mater ei ddatrys i foddhad yr ymgeisydd neu ymgeiswyr, gallant wneud cwyn ffurfiol drwy weithdrefn cwynion cwsmeriaid fabwysiedig yr awdurdod.
Os yw’r achwynydd yn dal yn anfodlon ar ôl derbyn ymateb yr awdurdod, gall ysgrifennu at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.
Diwygiadau i’r polisi
Mae gan Bennaeth Diogelu’r Cyhoedd a Thai awdurdod dirprwyedig i wneud mân newidiadau i’r polisi os oes angen, ac yn unol â gofynion cyfansoddiadol, rhoddir awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd (neu gyfwerth) i gymeradwyo cytundebau benthyciad/grant yn unol ag amodau a meini prawf y polisi hwn.