Polisi Cymorth Ariannol Tai Sir Benfro

Mathau eraill o gymorth

Yn ogystal â darparu grantiau cyfleusterau gorfodol i bobl anabl, mae gan yr awdurdod y pŵer i gynnig cymorth ariannol yn ôl disgresiwn yn rhinwedd Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Grantiau Tai) (Cymru a Lloegr) 2002. Gan ddefnyddio’r pwerau hyn, mae Cyngor Sir Penfro wedi cytuno i gynnig cymorth yn ôl disgresiwn ar gyfer addasiadau preswyl y sector preifat mewn amgylchiadau penodol.

 

Cymorth ychwanegol ar gyfer addasiadau yn ôl disgresiwn i bobl anabl

 

Diben / canlyniadau allweddol 

Sylwer: Nid cymorth grant yw’r cyllid hwn, ond cymorth ariannol a ddarperir am gyfnod meddiannaeth y derbynnydd o’r eiddo ac fe ddaw’n ad-daladwy pan gaiff yr eiddo ei werthu / ei drosglwyddo

I ddarparu cyllid atodol ar gyfer gwaith addasu sydd wedi arwain at ragori ar derfyn uchaf y grant cyfleusterau i bobl anabl. Gellir defnyddio hwn hefyd yn lle grant cyfleusterau gorfodol i bobl anabl ar gyfer y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer grant gorfodol oherwydd methu’r prawf modd (neu beidio â gallu fforddio eu cyfraniad) ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer cymorth byw iechyd ac annibyniaeth.

Dim ond mewn achosion eithriadol y mae’r cyllid hwn ar gael a hynny ar gyfer cyllid atodol yn ôl disgresiwn hyd at uchafswm o £15,000 lle ystyrir bod gwaith yn hanfodol i ddarparu’r addasiadau angenrheidiol uwchlaw terfyn y grant cyfleusterau gorfodol i bobl anabl. Ar gyfer y cyllid ychwanegol hwn, rhoddir pwerau dirprwyedig i’r Pennaeth Tai (neu gyfwerth) i ystyried pob achos. 

 

Meini prawf cymhwysedd (ymgeisydd)

Fel ar gyfer grantiau cyfleusterau gorfodol i bobl anabl ond gall hefyd gynnwys y rhai sy’n methu’r prawf modd ond nad ydynt yn gallu gwasanaethu ad-daliadau benthyciad gwella cartref. 

 

Meini prawf cymhwysedd (gwaith)  

Fel ar gyfer grantiau cyfleusterau gorfodol i bobl anabl, ac ar argymhelliad therapydd galwedigaethol y cyngor a’r Pennaeth Tai (neu gyfwerth). 

 

Amodau  

Bydd y grant atodol i’r grant cyfleusterau i bobl anabl yn cael ei gofrestru fel pridiant tir lleol a bydd yn ad-daladwy yn llawn wrth werthu neu drosglwyddo teitl (neu pan fydd ymgeiswyr yn symud i ofal tymor hir neu lety gwarchod). I ymgeiswyr ar y cyd, bydd y cymorth yn dod yn ad-daladwy ar farwolaeth y benthyciwr olaf sy’n goroesi (neu os bydd y benthyciwr olaf sy’n goroesi yn symud i ofal tymor hir neu lety gwarchod).

Dim ond o ystyried yr adnoddau sydd ar gael i’r awdurdod ar y pryd y bydd unrhyw ychwanegiad yn ôl disgresiwn yn cael ei ystyried. Os nad oes ganddo ddigon o adnoddau, mae’r awdurdod yn cadw’r hawl i beidio â chymeradwyo’r ychwanegiad yn ôl disgresiwn.

 

Uchafswm

£15,000

 

Grant adleoli yn ôl disgresiwn

Gall grant adleoli fod ar gael i ymgeisydd sy’n berchen ar ei eiddo neu’n ei rentu’n breifat os penderfynir nad yw addasiadau i’w gartref presennol trwy’r grant cyfleusterau i bobl anabl yn ymarferol nac yn rhesymol a’i fod yn ystyried adleoli i eiddo y mae’n bwriadu ei brynu.

 

Diben / canlyniadau allweddol

Mae rhagdybiaeth yn erbyn dyrannu grant cyfleusterau i bobl anabl lle nad yw’r eiddo’n addas yn y tymor hir i anghenion yr ymgeisydd.

Bydd yr awdurdod hefyd yn cynnig cymorth tuag at adleoli person anabl mewn amgylchiadau priodol, h.y. lle nad yw costau addasu eiddo yn rhesymol nac yn ymarferol, neu fel arall lle nad yw addasu’r eiddo presennol yn diwallu anghenion yr unigolyn anabl na’i deulu/gofalwr yn ddigonol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn ddeunaw oed neu’n hŷn ar ddyddiad gwneud y cais, ac, yn achos plentyn anabl, y rhiant (rhieni) fyddai’n gwneud y cais. Rhaid i unrhyw gais gael ei ategu gan argymhelliad gan Gyngor Sir Penfro neu wasanaeth therapi galwedigaethol gwasanaethau iechyd.

Rhaid i Gyngor Sir Penfro a’r therapydd galwedigaethol sy’n atgyfeirio fod yn fodlon bod yr eiddo arfaethedig yn diwallu anghenion y person anabl heb addasiadau pellach neu fod yn fodlon mai dim ond addasiadau bach fyddai eu hangen am y gost leiaf posibl.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn adleoli o fewn Sir Benfro.

 

Meini prawf cymhwysedd (ymgeisydd)

I berchen-feddianwyr, gellir cynnig grant adleoli ochr yn ochr â grant cyfleusterau dewisol/gorfodol i bobl anabl. Bydd y grant adleoli yn ddarostyngedig i’r un meini prawf cymhwysedd, prawf modd ac amodau ôl-gwblhau fel sy’n berthnasol ar gyfer y grant cyfleusterau gorfodol / yn ôl disgresiwn i bobl anabl.

Wrth benderfynu ar lefel y cymorth, rhoddir ystyriaeth i ymarferoldeb a chost addasu’r eiddo presennol a’r eiddo arfaethedig, a gwerth pob un o’r eiddo ar y farchnad. 

 

Meini prawf cymhwysedd (gwaith)  

Ni fydd y grant a gynigir yn fwy na chost addasu’r eiddo presennol.

I denantiaid yn y sector preifat, ystyrir cymorth gyda chostau symud mewn achosion o galedi.

Dim ond i dalu am y canlynol y gellir defnyddio’r grant:

  •  y costau sy’n gysylltiedig â symud tŷ, er enghraifft:
    • ffioedd asiant tai 
    • ffioedd cyfreithiwr 
    • costau symud 
    • costau cysylltu cyfleustodau hanfodol 
    • blaendal ar gyfer eiddo a rentir yn breifat

Bydd y therapydd galwedigaethol yn cynnal asesiad o’r eiddo newydd cyn gwneud ymrwymiad i brynu er mwyn penderfynu a ellir diwallu anghenion byw bob dydd yr unigolyn anabl yn yr eiddo hwnnw. Mewn cysylltiad ag arolygydd grantiau, gwneir penderfyniad ynghylch cost unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol yn yr eiddo newydd. 

 

Amodau  

Rhaid gosod pridiant tir lleol ar yr eiddo a brynwyd cyn gynted â phosibl ar ôl prynu’r eiddo.

Os caiff yr eiddo ei waredu o fewn deng mlynedd i dalu’r dyfarniad grant, bydd yn rhaid ad-dalu’r grant yn ei gyfanrwydd.

Dim ond unwaith y bydd y grant hwn ar gael mewn perthynas ag unigolyn ag anabledd.

Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn adleoli gan na ellir talu cymorth grant yn ôl-weithredol.

Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau’r symudiad o fewn cyfnod o 12 mis o ddyddiad cymeradwyo eu cais.

Rhaid i’r eiddo newydd fod yn brif breswylfa’r unigolyn anabl a dim ond ar un achlysur y caiff ei ddyfarnu i’r ymgeisydd.

Bydd y cynllun grant adleoli yn destun yr un prawf adnoddau â’r grant cyfleusterau gorfodol i bobl anabl oni bai fod yr adleoliad ar gyfer plentyn anabl ac, yn yr achos hwnnw, ni fydd prawf yn cael ei gymhwyso, neu lle mae’r ymgeisydd yn derbyn budd-dal sy’n rhoi hawl i’r grant iddo a bod cadarnhad o’i dderbyn wedi’i gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Os yw’r preswylydd anabl yn symud o’r eiddo newydd o fewn pum mlynedd, rhaid ad-dalu’r grant adleoli yn llawn. Yn yr un modd, os caiff yr eiddo ei werthu neu ei waredu o fewn cyfnod o ddeng mlynedd yn dilyn rhyddhau taliad y grant, bydd y grant yn dod yn ad-daladwy yn ei gyfanrwydd.

Dim ond unwaith y bydd y grant hwn ar gael mewn perthynas â’r unigolyn ag anabledd.

 

Uchafswm

Y cymorth grant mwyaf sydd ar gael yw £10,000.

 

 

ID: 14224, adolygwyd 03/10/2025