Polisi Trosglwyddo Asedau

Cynnwys

  1. Beth yw trosglwyddo asedau cymunedol

  2. Pryd y gellir ystyried trosglwyddo asedau cymunedol? 

  3. Telerau trosglwyddo

  4. Diwydrwydd dyladwy. 

  5. Egwyddorion allweddol 

  6. Pwy all wneud cais? 

  7. Y broses

  8. Atodiad 1

 



Beth yw trosglwyddo asedau cymunedol? 

Mae‘r broses o drosglwyddo asedau cymunedol yn digwydd pan fydd corff sector cyhoeddus, fel arfer yr awdurdod lleol, yn trosglwyddo rheolaeth a/neu berchnogaeth cyfleuster i gyngor cymuned / cyngor tref, grŵp cymunedol / sefydliad trydydd sector.

Mae gan awdurdodau lleol y pŵer cyffredinol i waredu tir mewn unrhyw ffordd y dymunant, (adran 123 (1)/127 (1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) er bod gofyniad cyfreithiol cyffredinol bod yn rhaid i’r awdurdod sicrhau’r pris gorau am y safle, a elwir hefyd yn 'ystyriaeth orau' neu 'gwerth gorau'.

Fodd bynnag, mae’r llywodraeth ganolog wedi cydnabod y gall fod amgylchiadau lle mae’n briodol i awdurdod lleol waredu tir am lai na’r pris gorau ac felly mae wedi rhoi’r pŵer i lywodraeth leol o dan Cydsyniad Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i waredu tir mewn tanbrisiad o hyd at £2 miliwn heb ganiatâd Llywodraeth Cymru ar yr amod bod y gwarediad yn debygol o gyfrannu at hyrwyddo llesiant cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol yn ei ardal.

Gwaredu eiddo am lai na’r pris gorau gan ddefnyddio’r “pwerau llesiant” hyn yw ‘trosglwyddo asedau cymunedol’ yn y bôn.

Yn gyffredinol, bydd Cyngor Sir Penfro ond yn ystyried trosglwyddo asedau cymunedol at ddibenion parhad gwasanaeth, hynny yw lle gallai fod yn briodol i gyngor tref / cyngor cymuned neu sefydliad trydydd sector gymryd drosodd yr ased er mwyn parhau, gwella a chynnal gwasanaeth presennol a ddarperir ar hyn o bryd gan Gyngor Sir Penfro. Er enghraifft, cyfleusterau cyhoeddus, mannau chwarae, parciau / gerddi, rhandiroedd, mannau gwyrdd neu lyfrgelloedd ac ati.

Ym mron pob achos, os bydd amgylchiadau’n caniatáu, os yw eiddo yn cael ei nodi fel eiddo gwarged ac y gellir ei waredu am dderbyniad cyfalaf neu am rent yna ni fydd ar gael ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol a bydd yn cael ei waredu ar y farchnad agored am y pris gorau.

Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gall gwarediadau am lai na'r pris gorau, nad ydynt ar gyfer parhad gwasanaeth, barhau i ddigwydd, ond dylid dal i ddilyn y broses benderfynu a amlinellir yn y ddogfen hon.

Mae'n bwysig cydnabod nad oes rheidrwydd ar awdurdodau lleol i drosglwyddo asedau cymunedol, ond mae llawer yn gwneud hynny gan eu bod yn cydnabod mewn rhai sefyllfaoedd bod trosglwyddo asedau i'r trydydd sector yn debygol o gynyddu buddsoddiad a chynaliadwyedd yr ased hwnnw o ystyried y diffyg cyllid cyfalaf a refeniw sydd ar gael ar hyn o bryd i awdurdodau lleol.

O ystyried sefyllfa ariannol bresennol Cyngor Sir Penfro a’r angen i wneud arbedion sylweddol dros y blynyddoedd nesaf, efallai mai rhoi rhai gwasanaethau ar gontract allanol i bob pwrpas i’r cynghorau tref/cynghorau cymuned neu’r trydydd sector yw’r unig ffordd o gadw’r gwasanaeth hwnnw’n weithredol. 

Mae’r arfer o drosglwyddo asedau cymunedol wedi ei ddefnyddio ers peth amser ar gyfer achosion unigol penodol a dylid parhau i weithredu’r dull ad hoc hwn ond efallai y bydd angen polisi strategol ehangach o ystyried y sefyllfa ariannol sydd ohoni.

  

 

Pryd y gellir ystyried trosglwyddo asedau cymunedol?

Bydd trosglwyddo asedau cymunedol yn cael ei ystyried ar gyfer asedau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaeth lle cynigir y bydd grŵp â diddordeb yn parhau i ddarparu’r gwasanaethau hyn a hoffai Cyngor Sir Penfro weld y gwasanaethau hyn yn parhau er mwyn cyflawni ei amcanion corfforaethol.

Gall y sefyllfa hon fod yn gyfle i gynghorau tref /cynghorau cymuned / trydydd sector ddarparu’r gwasanaethau yn fwy effeithlon a chynaliadwy o ystyried y gostyngiad yng nghyllidebau’r cyngor. Efallai y bydd cyfleoedd yn cael eu nodi trwy sefydliad perthnasol yn gwneud cynnig neu drwy'r cyngor yn chwilio am denant priodol i barhau i ddarparu gwasanaeth mewn ffordd amgen.

 

 

Telerau trosglwyddo

Yn gyffredinol, prydles tymor hir hyd at uchafswm o 125 mlynedd am rent rhad fydd y dull mwyaf priodol o drosglwyddo, lle bydd y tenant yn gyfrifol am yr holl waith uwchraddio, gwaith atgyweirio ac yswiriant.

Bydd defnydd yr eiddo ynghyd â’r safon atgyweirio priodol yn cael ei ddiffinio’n glir ac yn dyn ac os bydd y tenant yn methu â chydymffurfio neu’n peidio â bodoli yna bydd yr ased yn dychwelyd i Gyngor Sir Penfro neu os bydd yr adeilad yn peidio â chael ei ddefnyddio at y diben y mae’n cael ei drosglwyddo.  Gall hyd prydlesau a strwythurau amrywio yn dibynnu ar y sefyllfa. Mae’n bwysig nodi na fydd trosglwyddiadau rhydd-ddaliadol yn cael eu hystyried yn gyffredinol oni bai bod rheswm cymhellol dros wneud hynny. 

Prif nod trosglwyddo asedau cymunedol yw creu budd i Gyngor Sir Penfro a'r gymuned, y naill a’r llall. Bydd y datrysiad mwyaf priodol a'r telerau yn cael eu dewis i alluogi hyn. Bydd angen cyfiawnhad cymhellol er mwyn amrywio o'r strwythur uchod a ystyrir fel y strwythur safonol.

Mae'n debygol y bydd sefyllfaoedd lle byddai'r grŵp sydd am gael y trosglwyddiad yn dymuno i'r ased gael ei wella cyn ei drosglwyddo neu’n dymuno i'r cyngor barhau i ddarparu rhai gwasanaethau penodol fel darparu biniau / casglu sbwriel neu gynnal a chadw coed er enghraifft.

Gall hyn fod yn bosibl mewn amgylchiadau prin, ond y sefyllfa ddiofyn yw bod yr ased yn cael ei gymryd yn ei gyflwr presennol ac mai’r tenant fyddai’n cymryd cyfrifoldeb am bopeth oni bai bod modd talu'r cyngor am barhau â rhai gwasanaethau. Yn y pen draw ceisir trosglwyddo asedau cymunedol oherwydd nad oes gan y cyngor y lefel a ddymunir o refeniw neu gyfalaf i barhau â’r gwasanaeth i lefel briodol. Yr unig ffordd y gall y cyngor gynorthwyo yw trwy drosglwyddo ased i grŵp cymunedol priodol heb godi rhent.  



 

Diwydrwydd dyladwy

Mae'n hanfodol bod cynigion yn cael eu craffu'n briodol i sicrhau bod hyfywedd masnachol / cynaliadwyedd yn realistig, bod gan y sefydliad sy'n bwriadu rhedeg y prosiect gyfansoddiad priodol a bod ganddo ddigon o bobl gymwys sy'n barod i sicrhau ei fod yn gweithredu’n effeithiol a pharhaus.

Felly, ni all trosglwyddiadau fynd rhagddynt heb gefnogaeth gan adran gefnogol Cyngor Sir Penfro (pennaeth gwasanaeth ac aelod cabinet) sydd â gwybodaeth am y ddarpariaeth gwasanaeth bresennol. Bydd yr adran hon yn llywio’r trosglwyddiad yn ei flaen ac yn cyflawni’r lefel briodol o ddiwydrwydd dyladwy a fydd yn amrywio o achos i achos.

Bydd hyn yn cynnwys nodi'r grwpiau mwyaf priodol, nodi a oes angen hysbysebu'r cyfle yn eang, sicrhau bod y grŵp yn deall y cyfrifoldeb y maent yn ei ysgwyddo a'u bod yn gallu ei reoli'n gynaliadwy.

Bydd angen i’r adran gefnogol gyflwyno adroddiad, yn amlinellu’r manteision llesiant, i’r Cabinet i’w gymeradwyo. Bydd y gwasanaethau eiddo yn amlygu lefel y tanbrisio ac yn cynnig cymorth a chyngor drwy gydol y broses brydlesu. Bydd yr adran gefnogol yn gyfrifol am fonitro'r sefydliad yn dilyn y trosglwyddiad a bydd yn gyfrifol am yr ased os bydd y trosglwyddiad yn methu ac yn cael ei drosglwyddo'n ôl i Gyngor Sir Penfro.

Efallai y bydd grwpiau cystadleuol â diddordeb yn yr un ased. Mewn achosion o'r fath bydd yr awdurdod yn disgwyl i grwpiau cymunedol gydweithio a threfnu eu hunain yn y fath fodd fel eu bod yn gwneud y gorau o rannu a defnyddio'r ased rhyngddynt. Os na chytunir ar ddull ar y cyd, bydd yr awdurdod yn cydbwyso rhinweddau cynigion y gwahanol sefydliadau ac yn penderfynu i ba grŵp y dylid trosglwyddo’r ased (os o gwbl). Gallai methiant sefydliadau cymunedol i gydweithio ar ddull gweithredu ar y cyd ei gwneud yn llai tebygol y bydd unrhyw gynnig derbyniol ar gyfer trosglwyddo asedau yn gyraeddadwy. Gall fod gan gynghorau tref neu gynghorau cymuned rôl mewn achosion o'r fath i arwain y gwaith o reoli'r ased ar ran nifer o ddefnyddwyr.



 

Egwyddorion allweddol 

  • Rhaid i unrhyw drosglwyddiad greu budd i Gyngor Sir Penfro a'r gymuned, y naill a’r llall.

  • Yn amlach na pheidio dylai fod elfen gychwynnol o fudd ariannol i Gyngor Sir Penfro hyd yn oed os yw’n fuddion mewn nwyddau.

  • Rhaid i'r cynnig gael ei gefnogi gan bennaeth gwasanaeth ac aelod o’r cabinet, y bydd ei adran yn cyflwyno adroddiad i'r cabinet i amlinellu'r manteision llesiant, os oes angen.

  • Nid oes rhaid i Gyngor Sir Penfro ymgymryd â throsglwyddo asedau cymunedol.

  • Yn gyffredinol, ni fydd telerau sylfaenol unrhyw drosglwyddiad yn agored i drafodaeth. Bydd y sefydliad y trosglwyddir yr ased iddo yn cymryd cyfrifoldeb llawn am yr ased hwnnw a bydd yn cael ei drosglwyddo yn ei gyflwr presennol.

  • Mae gan yr adran gefnogol rwymedigaeth barhaus i fonitro'r sefydliad y trosglwyddwyd yr ased iddo. Nid yw’r mater wedi’i gloi yn derfynol unwaith y bydd yr ased wedi cael ei drosglwyddo. 

  • Os oes angen prisiad annibynnol, yr ymgeisydd fydd yn gyfrifol am y ffi.

 



Pwy all wneud cais? 

Croesewir datganiadau o ddiddordeb (gweler Atodiad 1) gan unigolion, grwpiau sector cymunedol a grwpiau gwirfoddol neu gynghorau tref / cynghorau cymuned. Yn ddelfrydol, dylai partïon â diddordeb fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Dylent gael eu harwain gan y gymuned, gyda chysylltiadau cryf â’r gymuned leol a rhaid i bobl leol allu rheoli prosesau gwneud penderfyniadau’r sefydliad.

  • Rhaid mai eu prif ddiben yw gwella'r gwasanaethau a ddarperir i'r gymuned leol.

  • Mae’r sefydliad ac unigolion allweddol sy'n rheoli'r ased a'r prosiect cysylltiedig yn meddu ar sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd priodol i gynnal y prosiect yn y tymor hir.

  • Rhaid iddynt fod yn agored i aelodau o'r gymuned ehangach a dangos agwedd gynhwysol tuag atynt.

  • Rhaid iddynt beidio â dyblygu gweithgareddau, gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir eisoes yn y gymuned leol.

 



Y Broses

Y broses y bydd yr awdurdod yn ei dilyn pan fo cais i drosglwyddo asedau wedi'i wneud neu pan fydd cyfle wedi'i nodi.

Cam

Datganiad o ddiddordeb wedi’i gyflwyno i'r gwasanaethau eiddo ar gyfer ei ystyried.

Corff priodol wedi'i nodi gan Gyngor Sir Penfro ac wedi mynd ato gyda'r cyfle. Efallai na fydd angen llenwi’r ffurflen datganiad o ddiddordeb yn yr amgylchiadau hyn.

Gofynion / Proses

Mae’r ffurflen gais ar gael ar gais drwy gysylltu â property.helpdesk@pembrokeshire.gov.uk

Angen gweithredu erbyn / amcangyfrif o'r amserlen.

Grŵp trydydd sector.  Cyngor Sir Penfro - gwasanaeth cefnogol

 

Cam

Ffurflen gais / cynnig yn cael ei hystyried ac argymhellion yn cael eu gwneud.

Gofynion / Proses

Os yw'r cais am barhad gwasanaeth, yna bydd y gwasanaethau eiddo yn cysylltu â'r adran weithredu i weld a ydynt yn cefnogi'r cynnig. Os ydynt, yna gallwn symud i'r cam diwydrwydd dyladwy.

Os nad yw'r cynnig at ddibenion parhad gwasanaeth neu'n ymwneud ag ased gwarged, bydd y gwasanaethau eiddo yn cyflwyno'r cynnig i'r Bwrdd Rheoli Asedau Corfforaethol i weld a oes unrhyw gefnogaeth fewnol. Os nad oes cefnogaeth fewnol, yna bydd y cais yn cael ei wrthod.

Angen gweithredu erbyn / amcangyfrif o'r amserlen

Cyngor Sir Penfro – gwasanaethau eiddo / gwasanaeth cefnogol 1 i 2 fis

 

Cam

Cyflwyno Cynllun busnes (os tybir yn angenrheidiol a gofynnir amdano gan Gyngor Sir Penfro)

Gofynion / Proses

Canllawiau ar gyfer grwpiau cymunedol ar gael gan yr adran gefnogol ynghylch yr hyn sydd ei angen os oes angen. 

Angen gweithredu erbyn / amcangyfrif o'r amserlen

Grŵp trydydd sector.   1 i 2 mis

 

Cam

Gwerthuso cynllun busnes (os tybir yn angenrheidiol)

Gofynion / Proses

Adran gefnogol i ystyried y cynnig ar y cyd â'r gwasanaethau eiddo. Gofyn cwestiynau pellach i'r grŵp â diddordeb os oes angen. 

Angen gweithredu erbyn / amcangyfrif o'r amserlen

Cyngor Sir Penfro – gwasanaeth cefnogol 1 i 2 fis

 

Cam

Penderfyniad p'un ai i fwrw ymlaen gyda’r trosglwyddiad (gydag ymrwymiad aelodau cabinet/ aelodau lleol fel y bo angen)

Gofynion / Proses

Cynnal ymgynghoriad mewnol anffurfiol rhwng swyddogion / aelodau i benderfynu a all y trosglwyddiad symud ymlaen i'r cam nesaf. 

Angen gweithredu erbyn / amcangyfrif o'r amserlen

Hyd at 1 mis.

 

Cam

Os caiff ei gymeradwyo, bydd Penawdau’r Telerau yn cael eu darparu i barti â diddordeb. 

Gofynion / Proses

 0

Angen gweithredu erbyn / amcangyfrif o'r amserlen

Cyngor Sir Penfro – gwasanaethau eiddo.  Hyd at 1 mis

 

Cam

Penawdau’r Telerau wedi'u cymeradwyo gan barti â diddordeb 

Gofynion / Proses

Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o drafod yn seiliedig ar egwyddorion cyffredinol yn ystod y cam hwn. Unwaith y cytunir arno, symudwch i'r cam nesaf. 

Angen gweithredu erbyn / amcangyfrif o'r amserlen

Grŵp trydydd sector.  Hyd at 1 mis

 

Cam

Yr adran gefnogol i gyflwyno adroddiad i'r Cabinet i gymeradwyo'r gwarediad.

Gofynion / Proses

Yr adran gefnogol i amlinellu manteision llesiant y cynnig a’r gwasanaethau eiddo i nodi lefel y tanwerth ac unrhyw faterion rheoli cymhorthdal posibl.

Yr argymhelliad fel arfer fydd i’r Cabinet gymeradwyo’r gwarediad arfaethedig am lai na’r gwerth gydag awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r gwasanaethau eiddo ar y cyd â’r gwasanaethau cyfreithiol i gwblhau’r cytundeb priodol.  

Angen gweithredu erbyn / amcangyfrif o'r amserlen

Cyngor Sir Penfro – gwasanaeth cefnogol/gwasanaethau eiddo.  1 i 2 mis.

 

Cam

Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet mae'r gwasanaethau eiddo yn rhoi cyfarwyddyd cyfreithiol i ddrafftio a chwblhau'r cytundeb prydles perthnasol.

Gofynion / Proses

Argymhellir bod y tenantiaid arfaethedig yn caffael eu cynrychiolaeth gyfreithiol eu hunain i alluogi cwblhau'r brydles. 

Angen gweithredu erbyn / amcangyfrif o'r amserlen

Cyngor Sir Penfro – gwasanaethau eiddo a grŵp trydydd sector.

3 i 6 mis (yn hwy os yw’n les gymhleth)

Cyfanswm yr amserlen = 10 i 17 mis.

 

Byddwn yn ymdrechu i gadw at yr amserlenni a nodir uchod, ond, yn ymarferol gall y broses gymryd llawer mwy o amser. Mewn rhai achosion, nid yw nifer o flynyddoedd yn anarferol. Er mai’r nod yw cwblhau’r broses cyn gynted â phosibl y gwir amdani yw y gall y broses o drosglwyddo asedau cymunedol fod yn broses gymhleth sy’n cymryd llawer o amser. Gall fod yn rhwystredig ar adegau i bob parti, ond mae’n bwysig bod unrhyw drosglwyddiad yn cael ei wneud yn briodol ac yn drylwyr i sicrhau’r siawns orau bosibl o lwyddiant a chynaliadwyedd. 

 
 
 
 

Atodiad 1

 

Datganiad o ddiddordeb ar gyfer trosglwyddo ased cymunedol.

  • Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r ffurflen gais ar gyfer unrhyw gais neu fynegiant o ddiddordeb ar gyfer trosglwyddo ased cymunedol.  Mae’r ffurflen gais ar gael ar gais drwy gysylltu â property.helpdesk@pembrokeshire.gov.uk

  • Cwblhewch y ffurflen mor fanwl â phosibl a sicrhewch fod pob cwestiwn wedi'i ateb. Os na allwch roi ateb neu'r dystiolaeth y gofynnwyd amdani, esboniwch pam.     

  • Bydd angen i bob trosglwyddiad ased cymunedol gael ei gefnogi gan bennaeth gwasanaeth y cyngor ac aelod cabinet. Bydd eich ffurflen wedi'i chwblhau yn cael ei hanfon ymlaen at y pennaeth gwasanaeth perthnasol i gael ei hasesu. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i'r pennaeth gwasanaeth hwnnw gyflwyno adroddiad i'r Cabinet ei gymeradwyo.

  • Mae’n bosibl y bydd angen i’r cyngor ofyn am ragor o wybodaeth gennych er mwyn gallu gwneud penderfyniad.

  • Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir am gynllun busnes i ddangos hyfywedd parhaus eich cynnig.

  • Cofiwch ein bod yn chwilio am gynigion sydd o fudd i'r gymuned a'r cyngor, y naill a’r llall. 



 

Preifatrwydd

ID: 1350, revised 10/03/2025