Polisïau a Gweithdrefnau
Adroddiad Blynyddol Dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol
Adroddiad Blynyddol 2025 ar y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol
Cytunodd y Cabinet ar yr adroddiad ar 7 Gorffennaf 2025
Cyd-destun
Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor, fel corff cyhoeddus, gynhyrchu adroddiad blynyddol i ddangos sut y mae wedi cydymffurfio â’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol. Rhaid cyflwyno’r adroddiad hwn i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG) i graffu arno. Mae adran 18 o’r Ddeddf yn nodi fel a ganlyn:
Adroddiadau partneriaeth gymdeithasol:
-
Rhaid i gorff cyhoeddus lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan adran 16.
-
Rhaid cytuno ar yr adroddiad gydag undebau llafur cydnabyddedig y corff cyhoeddus neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill ei staff, neu rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.
-
Rhaid i’r corff cyhoeddus gyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r CPG, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.
Nid yw’r Ddeddf yn darparu templed ar gyfer yr adroddiad blynyddol. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r camau a gymerwyd gydag undebau llafur cydnabyddedig y cyngor i roi’r ddyletswydd ar waith yng Nghyngor Sir Penfro.
Cefndir
Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith i wella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg, a chaffael cyhoeddus sy’n gyfrifol yn gymdeithasol. Bwriedir iddi ategu deddfwriaeth arall, gan gynnwys y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae Deddf 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor, wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy, i’r graddau y bo’n rhesymol, geisio consensws neu gyfaddawd â’i undebau llafur cydnabyddedig wrth bennu ei amcanion llesiant (yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) a gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae’n bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny a bennwyd.
Mae adran 16(2) o’r Ddeddf yn nodi nifer o ofynion penodol sy’n ymwneud â’r ddyletswydd y mae’n rhaid i’r cyngor gydymffurfio â hwy wrth ‘geisio consensws neu gyfaddawd’. Bwriad y gofynion yw sicrhau bod undebau llafur yn cael eu cynnwys yn llawn ac yn briodol pan fydd corff cyhoeddus yn pennu ei amcanion llesiant, neu wrth wneud penderfyniadau strategol. Mae’n nodi fel a ganlyn: er mwyn ceisio consensws neu gyfaddawd rhaid i gorff cyhoeddus gynnwys ei undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr eraill ei staff yn y broses o bennu amcanion neu wneud penderfyniadau, drwy (yn benodol):-
(a) ymgynghori â hwy yng nghyfnod ffurfiannol y broses, a
(b) eu cynnwys fel arall drwy gydol y broses drwy:-
-
darparu gwybodaeth ddigonol i’w galluogi i ystyried yn briodol yr hyn sy’n cael ei gynnig, a
-
darparu amser digonol i’w galluogi i ystyried yn ddigonol yr hyn sy’n cael ei gynnig ac ymateb.
Mae’r Llawlyfr Partneriaeth Gymdeithasol yn disgrifio hyn fel y ‘Ffordd Gymreig o weithredu Partneriaeth Gymdeithasol’, sy’n wahanol i fargeinio ar sail safbwyntiau neu ddull gwrthwynebol o fynd ati pan fo un ochr yn ennill a’r llall yn colli. Dylai’r ddwy ochr ddechrau trafodaeth yn ddidwyll. Bydd adegau pan fydd yn amhosibl sefydlu tir cyffredin; ond, pan fydd gwrthdaro, dylid ei reoli o fewn diwylliant o barch a datrys problemau. Felly, mae angen i bartneriaethau cymdeithasol greu amgylchedd sy’n annog y rhai sy’n cymryd rhan i fod yn agored gyda’i gilydd a chytuno ar drefniadau gwaith sy’n dderbyniol i’r naill bartner a’r llall, a hynny mewn ysbryd o gydweithredu a chydweithio.
Partneriaeth gymdeithasol yn Sir Benfro 2024/25
Wrth baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2024, fe ddechreuodd cydweithwyr o’r undebau llafur ac adnoddau dynol drafod sut y byddem yn cydweithio i roi’r ddeddfwriaeth ar waith. Dechreuom y drafodaeth yn y Cyd-grŵp Negodi ac Ymgynghori ym mis Gorffennaf 2023. Gwnaed penderfyniad cynnar i ailenwi’r Cyd-grŵp Negodi ac Ymgynghori yn Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol (“y Fforwm”), gan wahodd ein cydweithiwr, y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau Corfforaethol, i ddod yn aelod parhaol o’r Fforwm.
Mae’r Fforwm yn cyfarfod bob chwarter, ac fe’i harweinir gan yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr. Mae dau aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am gyllid a’r gweithlu, a dau aelod o’r uwch-dîm arwain, y Cyfarwyddwr Adnoddau a’r Cyfarwyddwr Addysg, yn mynd i gyfarfodydd y Fforwm. Cefnogir y Fforwm gan uwch-gydweithwyr o feysydd adnoddau dynol a pholisi corfforaethol. At ei gilydd, mae cynrychiolwyr o wyth undeb llafur yn cymryd rhan yn y cyfarfod, sef aelodau canghennau lleol a swyddogion rhanbarthol o UNSAIN, UNITE, GMB, yr Undeb Addysg Cenedlaethol, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau, ac UCAC. Felly mae gan ein hundebau llafur fynediad uniongyrchol i Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn y Fforwm, y mae ill dau yn mynychu’n rheolaidd, sy’n dangos ymrwymiad Sir Benfro i weithio mewn partneriaeth.
Roeddem yn ymgysylltu â’r ‘Ffordd Gymreig’ o weithredu partneriaeth gymdeithasol yn gynnar yn y broses, ac aeth y Prif Swyddog Adnoddau Dynol ynghyd ag UNSAIN ac UNITE i ddigwyddiad ymgysylltu cynnar yng Nghaerfyrddin ar 24 Awst 2023, gan gyfarfod â thîm Llywodraeth Cymru a rhwydweithio â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau Dynol, a Chadeirydd Cangen UNSAIN, gyflwyniad ar y cyd i gynhadledd y bartneriaeth gymdeithasol yng Nghynhadledd Partneriaeth Gymdeithasol Gorllewin Cymru yn Stadiwm Liberty, Abertawe, ar 25 Medi 2024. Aeth canghennau lleol ein hundebau llafur i’r gynhadledd a rhoddodd hyn gyfle cadarnhaol iawn inni dreulio amser gyda’n gilydd, gan ganolbwyntio ar yr hyn y mae partneriaeth gymdeithasol yn ei olygu i ni.
Roedd y Prif Swyddog Adnoddau Dynol hefyd yn rhan o grŵp llywio Llywodraeth Cymru ar hyfforddiant partneriaeth gymdeithasol, gan gynrychioli rhwydwaith datblygu adnoddau dynol Cymru. Mae’r e-ddysgu ar gael ar ein platfform rheoli dysgu.
Ymgynghorodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau Corfforaethol â’r undebau llafur ar hunanasesiad y cyngor yn ystod cyfarfod y Fforwm a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2024. Eglurodd fod yr adroddiad yn cwmpasu’r flwyddyn ariannol flaenorol, gan werthuso sut roedd yr awdurdod wedi cyrraedd ei dargedau. Roedd y drafodaeth yn gyflwyniad i’r undebau llafur ynghylch y disgwyliadau ar gyfer yr ymgynghoriad ar strategaeth gorfforaethol 2025–2030 sydd ar y gweill. Eglurodd fod y dull o weithredu’r fframwaith yn strwythur o themâu pennawd corfforaethol allweddol a chyflwynodd drosolwg o’r amcanion. Yn ystod cyfarfod y Fforwm ar 23 Ionawr 2025, ymgynghorodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau Corfforaethol â’r undebau llafur yn uniongyrchol ar amcanion llesiant y strategaeth gorfforaethol ddrafft ar gyfer 2025–2030.
-
Ein Dyfodol – galluogi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc, wrth eu cyfarparu â sgiliau ar gyfer y dyfodol.
-
Ein Lle – lleoedd llewyrchus, gydag amgylcheddau glân, diogel a chynaliadwy, lle gall pobl fyw’n dda a ffynnu.
-
Ein Cymunedau – gofalu am bobl, a galluogi cymunedau gweithgar, dyfeisgar a chysylltiedig.
-
Ein Cyngor – cyngor sy’n gynaliadwy yn ariannol, sydd wedi’i lywodraethu’n dda, a chanddo weithlu sy’n gallu cefnogi’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Roeddem eisoes yn gallu dangos ein bod wedi bodloni rhai agweddau ar y ddeddfwriaeth – mae gennym hanes hir o gydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Fodd bynnag, barn ein hundebau llafur oedd y dylent fod wedi bod yn rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf ac roeddent wedi disgwyl ymgynghori ar y strategaeth gorfforaethol yn gynharach yn y broses. Cymerodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau Corfforaethol sylw o hynny a chynigiodd gyfle pellach i ddiwygio’r strategaeth a darparu sylwadau ychwanegol ar rôl undebau llafur mewn partneriaeth gymdeithasol, a nodwyd ac adroddwyd yn ôl.
Yn y dyfodol, ymgynghorir ag undebau llafur ar amcanion llesiant y cyngor fel rhanddeiliaid allweddol, ac ar gam cynnar yn y broses ddatblygu. Yn ein trafodaethau ynghylch y ddyletswydd newydd, fe wnaethom gydnabod gyda’n gilydd y byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni neilltuo rhagor o amser ar gyfer hyn pan fyddwn yn adolygu ein hamcanion llesiant y tro nesaf.
Dylid cydnabod ein bod yn Sir Benfro yn cydweithio â’n hundebau llafur i hyrwyddo gwaith teg a meithrin ymgysylltu ystyrlon. Yn ogystal â’r Fforwm, mae ein huwch-dîm arwain yn cynnal cyfarfodydd ymgynghori rheolaidd yn eu cyfarwyddiaethau er mwyn sicrhau bod barn staff yn cael ei hystyried yn ystod prosesau gwneud penderfyniadau, yn enwedig ar faterion sy’n ymwneud ag amodau cyflogaeth, newidiadau i staffio fel ailstrwythuro a datblygu polisïau, a llesiant y gweithlu.
Mae gan y Fforwm ‘bennu’r gyllideb’ a ‘chynllunio ariannol’ fel eitem sefydlog ar yr agenda. Yn y cyfarwyddiaethau a’r gwasanaethau, mae undebau llafur yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau ar bennu cyllidebau a rhoddir achosion busnes iddynt ynghylch dyrannu adnoddau i wahanol wasanaethau, rheoli toriadau cyllido, a phenderfynu ar gyfraddau’r dreth gyngor i annog dull ymgynghorol o gydbwyso gofynion gwasanaethau cyhoeddus a chynaliadwyedd ariannol.
Mae pynciau eraill a godwyd yn y Fforwm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys sero net, cynllunio gweithlu strategol (gan gynnwys datblygu llwybrau gyrfa a phrentisiaethau), cyflog a graddfeydd cyflog (gan gynnwys newidiadau i’r datganiad ar bolisïau tâl), ac iechyd a llesiant.
Mae’r polisïau cyflogaeth yn cael eu cymeradwyo yn y Fforwm a, thrwy gydol 2024/25, rydym wedi adolygu a diwygio’r polisïau canlynol, yn unol â’n hamserlen adolygu reolaidd a newidiadau statudol:
-
Recriwtio
-
Adleoli
-
Aflonyddu a bwlio [i fynd i’r afael ag aflonyddu gan drydydd partїon a rheoli risgiau]
-
Polisi alcohol a chyffuriau [cytundeb ar brotocol profi lleol]
-
Swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol
-
Cyfryngau cymdeithasol
-
Menopos
-
Absenoldeb mamolaeth, teulu a newyddenedigol
-
Amser o’r gwaith ac absenoldeb arbennig [gwelliant lleol i’n hawl i absenoldeb oherwydd profedigaeth a chyfnod hyfforddi i bob milwr wrth gefn, gan hyrwyddo ein cymwysterau fel corff sydd wedi ennill gwobr Aur yr Addewid Cyn-filwyr]
-
Gweithio hyblyg
Gan fod Bil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth Lafur y DU ar fin ddod i rym, mae’n debygol y bydd mwy o ymarferion ymgynghori ar yr effaith y bydd newidiadau yn y gyfraith gyflogaeth yn ei chael drwy gydol 2025/26.
Astudiaeth achos
Gweithiodd cadeirydd cangen leol UNSAIN, Manuela Hughes, yn llwyddiannus i gryfhau partneriaeth gymdeithasol drwy gyfrannu at ymgyrch lwyddiannus iawn ynghylch codi ymwybyddiaeth o’r menopos ochr yn ochr â thimau adnoddau dynol ac iechyd galwedigaethol.
Roedd cynrychiolwyr gweithleoedd yn 2023 yn nodi cynnydd yn nifer yr aelodau a oedd yn codi materion yn ymwneud â’r menopos, a oedd yn fwy hyderus i’w drafod oherwydd y sylw y mae’r mater wedi’i gael yn y gymdeithas yn ddiweddar. Ar yr un pryd, roedd Swyddog Rhanbarthol UNSAIN wedi bod yn gyfrannwr at gyhoeddiad Sefydliad Safonau Prydeinig yn 2023 ar y menopos yn y gweithle, a oedd yn ffynhonnell werthfawr o dystiolaeth ac yn adnodd gwerthfawr.
Trefnodd Manuela gynhadledd ar y menopos yn 2023 i helpu i lenwi’r bwlch o ran ‘ymwybyddiaeth’. Cynhaliwyd hon yn ein parc busnes yn Noc Penfro. Roedd y digwyddiad ar agor i aelodau’r undebau llafur a phobl nad oeddent yn aelodau fel ei gilydd. Gwahoddwyd rhanddeiliaid allweddol o Gyngor Sir Penfro, Coleg Sir Benfro a’r Parc Cenedlaethol, ond hefyd darparwyr gofal preifat bach. Lledaenodd y gair, a daeth y rheini a oedd yn bresennol o amrywiaeth o sectorau, a oedd yn caniatáu rhannu arferion da a chreu cyfleoedd i rwydweithio.
Ymhlith y siaradwyr gwadd oedd swyddog cabinet Cyngor Sir Penfro dros lesiant, arweinydd ymgynghorol yn y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol a Menopos Integredig, Thompsons Solicitors, a Rheolwr Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant Cyngor Sir Penfro, yn ogystal â siaradwyr o’r TUC.
Roedd darn pellach o waith yn cynnwys staff o feysydd adnoddau dynol ac iechyd galwedigaethol, ynghyd â’r undebau llafur, yn datblygu a chyhoeddi polisi menopos pwrpasol gan ddefnyddio cyhoeddiad Sefydliad Safonau Prydeinig 2023 fel y prif adnodd.
“Bob blwyddyn mae miloedd o fenywod yn gadael eu gwaith/gyrfa yn gynnar oherwydd symptomau’r menopos. Mae hon yn gronfa enfawr o sgiliau a gwybodaeth – mewn geiriau eraill, asedau – yr ydym mewn perygl o’i cholli. Trwy gael gwared ar y stigma, gallwn ddechrau symud tuag at well dealltwriaeth, a thrwy hynny dod o hyd i ddatrysiadau yn y gweithle (yn lle dim ond gweld “y broblem”). Yn fy marn i, mae hon yn enghraifft wych o sut y gall gweithio ar y cyd gyflawni canlyniadau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr.” Manuela, Cadeirydd UNSAIN
Astudiaeth achos
Yn Sir Benfro, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â’n hundebau llafur wrth ddatblygu ein strategaeth iechyd meddwl a llesiant. Ers llofnodi addewid Amser i Newid Cymru yn 2018, rydym wedi cydgrynhoi ein gwaith yn y maes hwn, gan weithio ochr yn ochr â’n undebau llafur i gael mynediad i Gronfa Ddysgu Undebau Cymru i arfogi ein rheolwyr â chyrsiau ymwybyddiaeth iechyd meddwl a hyfforddiant tystysgrifedig dan arweiniad Sue Da’Casto, Trefnydd Dysgu Rhanbarthol yr undeb Unite.
Ymgynghorwyd â’r uwch-dîm arwain a’r undebau llafur ynghylch yr adroddiad blynyddol hwn ar y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol ac maent wedi cytuno ar y cynnwys sydd ynddo.