Polisïau a Gweithdrefnau

Cyngor Sir Penfro: Datganiad Polisi Tâl

2025-2026

Cymeradwywyd gan y cyngor ar 6 Mawrth 2025

 

1. Cyflwyniad a phwrpas

1.1 Fel ‘awdurdod perthnasol’ o dan adrannau 38 i 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (‘Deddf 2011’), mae’n ofynnol i ni o dan 38(1) baratoi a chyhoeddi datganiad ar bolisïau tâl. Rhaid i’r datganiadau hyn gyfleu polisïau’r awdurdod ei hun ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â thâl ei weithlu, yn enwedig ei staff uwch (neu ‘brif swyddogion’) a’i gyflogeion sy’n cael y cyflog isaf.

 

1.2 Mae’r cyngor yn cydnabod rôl undebau llafur wrth ymgynghori a negodi tâl ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r cyngor yn cefnogi’r Cyd-gynghorau Cenedlaethol a’r Cyd-bwyllgorau Trafod Telerau sy’n llywodraethu’r cytundebau cenedlaethol sy’n ymwneud â’r tâl ac amodau gwasanaeth sy’n berthnasol i’r holl grwpiau o gyflogeion y cyfeirir atynt yn y datganiad ar bolisïau tâl hwn.

 

1.3 Yn unol ag adran 40(2) o Ddeddf 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r egwyddorion polisi allweddol sy’n tanategu’r darpariaethau atebolrwydd tâl yn Neddf 2011. Mae’r cyngor yn rhoi sylw dyladwy i’r canllawiau hyn wrth baratoi a chymeradwyo’r datganiad ar bolisïau tâl. 

2. Fframwaith deddfwriaethol

2.1 Wrth bennu tâl a thaliad cydnabyddiaeth ei holl gyflogeion, bydd y cyngor yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth cyflogaeth berthnasol. Mae hyn yn cynnwys:         

a)    Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006

b)    Deddf Cydraddoldeb 2010

c)     Rheoliadau Cyflogaeth Ran-amser (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) 2000

d)    Rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth 2010

e)    Rheoliadau Gweithwyr Cyfnod Penodol (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) 2002

f)     Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (lle bo’n berthnasol)

g)    Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

h)    Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

2.2  O ran y gofynion cyflog cyfartal yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’r cyngor wedi ceisio sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn berthnasol i’w strwythurau cyflog ac y gellir cyfiawnhau’r holl wahaniaethau cyflog yn wrthrychol trwy ddefnyddio cynllun gwerthuso swyddi dilys sy’n cysylltu cyflog sylfaenol yn uniongyrchol â gofynion a chyfrifoldebau pob rôl.

3. Cwmpas y Polisiau tal

3.1 Mae Deddf 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu a chyhoeddi eu polisïau tâl ar bob agwedd ar daliad cydnabyddiaeth prif swyddogion (gan gynnwys y rhai sydd wedi rhoi’r gorau i ddal swydd) ac mewn perthynas â’r rhai sy’n cael y ‘cyflog isaf’ yn yr awdurdod, gan egluro eu polisi ar y berthynas rhwng taliad cydnabyddiaeth prif swyddogion a grwpiau eraill.

 

3.2 O dan adran 38(4) o Ddeddf 2011, rhaid i ddatganiad awdurdod perthnasol ar bolisïau tâl gynnwys polisïau’r awdurdod sy’n ymwneud â’r canlynol:

a)    lefel ac elfennau taliad cydnabyddiaeth pob prif swyddog

b)    taliad cydnabyddiaeth i brif swyddogion adeg recriwtio

c)     codiadau ac ychwanegiadau at daliad cydnabyddiaeth pob prif swyddog

d)    defnyddio tâl yn gysylltiedig â pherfformiad ar gyfer prif swyddogion

e)    defnyddio bonysau ar gyfer prif swyddogion

f)      yr ymagwedd at dalu prif swyddogion pan fyddant yn rhoi’r gorau i ddal swydd neu gael eu cyflogi gan yr awdurdod

g)    cyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â thaliad cydnabyddiaeth prif swyddogion, a chael mynediad at yr wybodaeth honno

3.3 Mae’r darpariaethau yn Neddf 2011, sy’n ymwneud â datganiadau ar bolisïau tâl, ond yn berthnasol i gyflogeion sydd wedi eu penodi ac sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol gan y cyngor. Felly nid yw’n ofynnol i gyflogeion sy’n cael eu penodi a’u rheoli gan gyrff llywodraethu ysgolion gael eu cynnwys o fewn cwmpas datganiadau ar bolisïau tâl. Mae hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol lle mae cyflogeion ysgolion yn cael eu cyflogi gan y cyngor, ond mae penderfyniadau ynghylch penodi a rheoli cyflogeion o’r fath yn uchelfraint y pennaeth neu’r corff llywodraethu, fel y bo’n briodol.

 

4. Egwyddorion Bras Polisiau Tâl y Cyngor

4.1      Tryloywder, atebolrwydd a gwerth am arian

Mae’r cyngor yn ymroi i ymagwedd agored a thryloyw tuag at bolisïau tâl a fydd yn galluogi’r trethdalwyr i gael mynediad i wybodaeth am lefelau taliad cydnabyddiaeth ar draws holl grwpiau cyflogeion y cyngor, a’i deall a’i hasesu. I’r perwyl hwn, darperir y canlynol fel atodiadau i’r polisi hwn:-

a)    Graddfeydd cyflogau Cyngor Sir Penfro – Y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Cyflogeion Gwasanaethau Llywodraeth Leol (Atodiad A)

b)    Graddfeydd cyflogau Cyngor Sir Penfro – Cyd-gynghorau Trafod Telerau ar gyfer Prif Weithredwyr a Phrif Swyddogion Awdurdodau Lleol (Atodiad B)

c)     Graddfeydd cyflogau ar gyfer cyflogeion sy’n dod o dan Gytundeb Soulbury (Atodiad C)

d)    Polisïau yn ôl disgresiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cyngor Sir Penfro a gyhoeddwyd fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Diwygio) 2018 (Atodiad D)

e)    Trefniadau Ymadael Prif Swyddogion Cyngor Sir Penfro (Atodiad E)

4.2 Datblygu Strategaeth Tâl a Gwobrwyo

4.2.1 Prif nod strategaeth wobrwyo yw denu, cadw a chymell cyflogeion sydd â’r sgiliau priodol fel y gall y cyngor weithredu ar ei orau. Mae datblygu strategaeth tâl a gwobrwyo felly yn fater o ganfod cydbwysedd rhwng pennu cydnabyddiaeth ar lefelau priodol i sicrhau cyflenwad digonol o unigolion sy’n meddu ar sgiliau priodol i lenwi’r ystod eang iawn o swyddi sydd gan y cyngor, ac ar yr un pryd sicrhau hefyd nad yw’r baich ar y trethdalwyr yn mynd yn fwy nag y gellir ei gyfiawnhau yn llawn ac yn wrthrychol.

4.2.2 Yn y cyd-destun hwn, ar y lefelau uwch, mae angen i lefelau taliad cydnabyddiaeth fod yn ddigonol i recriwtio o gronfa ddigon eang o dalent ac i gadw unigolion â’r sgiliau a chymwysterau addas unwaith y byddant yn y swydd. Bydd y cyngor yn aml yn recriwtio ar gyfer talent mewn cystadleuaeth â chyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat.

4.2.3 Yn ogystal, y cyngor yw’r prif gyflogwr yn Sir Benfro. O’r herwydd, rhaid i’r cyngor roi sylw i’w rôl o ran gwella llesiant economaidd unigolion sy’n byw yn y sir. Mae argaeledd cyflogaeth o ansawdd da ar delerau ac amodau rhesymol a chyfraddau cyflog teg yn cael effaith fuddiol ar ansawdd bywyd yn y gymuned yn ogystal â’r economi leol. Mae gan y cyngor hefyd rôl mewn gosod meincnod ar gyflog ac amodau i gyflogwyr eraill yn yr ardal am yr un rhesymau.

4.2.4 Wrth ddylunio, datblygu ac adolygu ei strategaeth tâl a gwobrwyo, bydd y cyngor yn ceisio cydbwyso’r ffactorau hyn yn briodol i sicrhau’r deilliannau gorau posibl i’r cyngor fel sefydliad ac i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu, wrth hefyd reoli costau tâl yn briodol a chynnal hyblygrwydd digonol i ddiwallu anghenion y dyfodol.

4.3 Gwerthuso Swyddi a Graddau Cyflog

4.3.1 Mae gwerthuso swyddi yn ffordd systematig o bennu gwerth swydd mewn perthynas â swyddi eraill o fewn sefydliad. Ei nod yw gwneud cymhariaeth systematig rhwng swyddi i asesu eu gwerth cymharol at ddiben sefydlu strwythur cyflog rhesymegol a sicrhau tegwch cyflog rhwng swyddi.

4.3.2 Mae’r cyngor wedi cymhwyso’r cysyniad o deuluoedd swyddi a phroffiliau rôl, a’r fethodoleg o ddyrannu teuluoedd swyddi, ers 2012. Mae’r cynllun yn cydymffurfio ag egwyddorion cyflog cyfartal.

4.3.3 Mae panel gweithlu, sy’n cynnwys cynrychiolwyr uwch-arweinwyr, adnoddau dynol ac undebau llafur yn cyfarfod bob chwarter i fonitro a sicrhau ansawdd cydymffurfedd technegol â’r cynllun.

 

4.4 Ychwanegiadau at gyflogau'r farchnad

4.4.1       Mae’r defnydd o gynllun i werthuso swyddi yn galluogi’r cyngor i osod lefelau taliad cydnabyddiaeth priodol yn seiliedig ar berthynoledd maint swyddi mewnol o fewn y cyngor. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, mewn amgylchiadau eithriadol efallai y bydd angen ystyried y farchnad gyflogau allanol er mwyn denu a chadw cyflogeion sydd â phrofiad, sgiliau a chymwysterau penodol lle mae’r rhain yn brin.

4.4.2       Mae’n bolisi gan y cyngor sicrhau bod y gofyniad am unrhyw ychwanegiad at gyflog y farchnad o’r fath yn cael ei gyfiawnhau’n wrthrychol trwy gyfeirio at dystiolaeth glir o gymaryddion marchnad perthnasol gan ddefnyddio ffynonellau data dibynadwy. Mae’n bolisi gan y cyngor fod unrhyw daliadau ychwanegol o’r fath yn cael eu cadw i’r lleiafswm a’u hadolygu’n rheolaidd fel y gellir eu tynnu’n ôl pan nad ydynt yn cael eu hystyried yn angenrheidiol mwyach. Mae gan y cyngor bolisi cynnal a chadw’r strwythur tâl sy’n nodi sut y caiff trefniadau tâl o’r fath eu monitro.

4.5 Honoraria

4.5.1       Mae’r cyngor yn disgwyl lefelau uchel o berfformiad gan ei holl gyflogeion ac mae ganddo gynllun i arfarnu perfformiad a llesiant ar waith i adolygu, gwerthuso a rheoli perfformiad yn barhaus.

4.5.2       Nid oes unrhyw dâl yn ôl perfformiad yn berthnasol i unrhyw grŵp o gyflogeion ar hyn o bryd.

 

4.6      Tâl a pherfformiad

4.6.1   Mae’r Cyngor yn disgwyl lefelau uchel o berfformiad gan ei weithwyr i gyd, ac mae ganddo gynllun arfarnu Perfformiad a Lles ar waith i adolygu, gwerthuso a rheoli perfformiad yn barhaus.

4.6.2   Nid oes tâl yn ôl perfformiad yn gymwys i unrhyw grŵp o weithwyr ar hyn o bryd.

 

4.7   Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

4.7.1       Yn amodol ar rai rheolau cymhwysedd, mae cyflogeion yn cael eu cofrestru’n awtomatig i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pan fyddant yn dechrau yn eu swyddi. Mae gan gyflogeion nad ydynt yn gymwys ar gyfer cofrestru awtomatig yr hawl i ymuno â’r cynllun. Mae cyfraddau cyfraniadau cyflogeion yn cael eu gosod gan y Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac yn amrywio o 5.5% i 12.5% o gyflog pensiynadwy yn dibynnu ar lefel wirioneddol y cyflog. Pennir cyfradd cyfraniad cyflogai’r cyngor gan yr actiwarïaid a benodir gan Gronfa Bensiwn Dyfed yn dilyn prisio’r gronfa bob tair blynedd.

4.7.2       Ers 1 Tachwedd 2017, mae’r cyngor wedi darparu trefniant ‘Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Cost a Rennir’ fel y darperir o dan Reoliad 16 o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013. Ym mis Hydref 2023, buom mewn partneriaeth â My Money Matters Ltd i weinyddu’r cynllun hwn ar ein rhan ac i ddarparu cyngor ynghylch llesiant ariannol.

4.7.3       O dan y Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae gan awdurdodau cyflogi nifer o bwerau disgresiwn y mae’n ofynnol iddynt baratoi datganiad polisi ysgrifenedig arnynt. Mae datganiad polisi ysgrifenedig Cyngor Sir Penfro wedi’i atodi yn Atodiad D fel y’i diweddarwyd yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Diwygio) 2018.

 

4.8      Buddion eraill gweithwyr

4.8.1   Mae’r Cyngor yn cynnig buddion i staff yn unol â'i ddyletswyddau statudol ac arferion da cyflogaeth, megis ad-dalu costau profion llygaid ar gyfer defnyddwyr offer sgrin arddangos yn eu gwaith, a chynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys talebau gofal plant a Chynllun Beicio i'r Gwaith a Chynllun Aberthu Cyflog Car. Yn 2020, fe wnaethom ymrwymo i lwyfan buddion gweithwyr sy’n rhoi mynediad i’n staff at ystod eang o ddisgowntiau manwerthu a hamdden.

 

5. Taliad Cydnabyddiaeth Prif Swyddogion

5.1      Diffiniadau o Brif Swyddog a Lefelau Tâl

5.1.1  At ddibenion y datganiad hwn, mae ‘prif swyddogion’ yn gweithio o fewn yr amodau gwasanaeth cenedlaethol a gwmpesir gan y Cyd-gyngor Trafod Telerau ar gyfer Prif Swyddogion, sy’n dod o fewn diffiniad statudol adran 43 o Ddeddf 2011.

Yn y strwythur presennol, mae’r 18.5 swydd sy’n dod o fewn y diffiniad fel a ganlyn:-

  • y Prif Weithredwr, a benodir o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

  • Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu, h.y. y swyddog monitro a ddynodwyd o dan adran 5(1) o Ddeddf 1989

  • y prif swyddogion statudol ac anstatudol (h.y. y Prif Weithredwr Cynorthwyol, tri chyfarwyddwr gwasanaethau sirol) a grybwyllir yn adran 2(6) a 2(7) o Ddeddf 1989

  • y 12.5 o ‘ddirprwy brif swyddogion’ (h.y. y ‘swyddi’ penaethiaid gwasanaeth sydd yn y strwythur ar hyn o bryd ac un swydd ranbarthol 50:50 gyda Sir Gaerfyrddin) a grybwyllir yn adran 2(8) o Ddeddf 1989

Manylir ar swyddi prif swyddogion o fewn y strwythur parhaol yng Nghyngor Sir Penfro yn Atodiad B.

 

Mae pob cyflogai arall, ac eithrio nifer fach sy’n cael eu cwmpasu gan delerau ac amodau cenedlaethol ar gyfer staff Soulbury, yn gweithio o fewn yr amodau gwasanaeth cenedlaethol a gwmpesir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Cyflogeion Llywodraeth Leol. Nid oes unrhyw swyddi eraill yn yr awdurdod (h.y. Rheolwr Corfforaethol, Soulbury) yn derbyn pecyn taliad cydnabyddiaeth o fwy na £100,000.

 

Mae taliad cydnabyddiaeth mewn perthynas â phrif swyddogion at ddibenion datganiadau ar bolisïau tâl (fel y’u diffinnir yn adran 43(3) o Ddeddf 2011) yn cynnwys:

a.       cyflog (ar gyfer prif swyddogion sy’n gyflogeion) neu daliad o dan gontract ar gyfer gwasanaethau (ar gyfer prif swyddogion sy’n hunangyflogedig)

b.       bonysau

c.       taliadau, ffioedd a lwfansau

d.       buddion mewn nwyddau

e.       unrhyw gynnydd neu welliant i hawlogaeth pensiwn y prif swyddog pan fo’r cynnydd hwnnw o ganlyniad i benderfyniad gan yr awdurdod

f.         unrhyw symiau sy’n daladwy pan fydd y prif swyddog yn rhoi’r gorau i ddal swydd neu gael ei gyflogi gan yr awdurdod (taliadau diswyddo yn y dyfodol)

 

5.1.2   Nid oes unrhyw fecanwaith tâl yn ôl bonws neu berfformiad yn berthnasol i gyflog prif swyddogion.

 

5.1.3   Mae’r cyngor yn cyflogi prif swyddogion o dan delerau ac amodau Cyd-gyngor Trafod Telerau sydd wedi’u cynnwys yn eu contractau. Mae’r Cyd-gynghorau Trafod Telerau ar gyfer Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol yn negodi codiadau tâl costau byw blynyddol cenedlaethol (y DU) ar gyfer y grŵp hwn, a phennir unrhyw ddyfarniad ar y sail hon. Bydd yr awdurdod felly’n talu’r rhain pan gânt eu penderfynu yn unol â’r gofynion contractiol cyfredol.

5.2     Cyflogau ar adeg Penodi

5.2.1 Mae Llywodraeth Cymru yn argymell, yn ogystal â chytuno ar y paramedrau ar gyfer pennu cyflogau prif swyddogion, y dylid cynnig y cyfle i’r cyngor llawn bleidleisio ar becynnau cyflog mawr sydd i’w cynnig mewn perthynas â phenodiadau newydd yn unol â’u datganiadau ar bolisïau tâl y cytunwyd arnynt. Mae Gweinidogion Cymru o’r farn mai £100,000 yw’r lefel gywir ar gyfer y trothwy hwnnw. Mae polisïau a gweithdrefnau’r cyngor mewn perthynas â chyflogau adeg penodi wedi’u cynnwys yn adran 12 y cyfansoddiad ar swyddogion. Rhaid i unrhyw becyn cyflog mewn perthynas â phrif swyddog o dan £100,000 gael ei gymeradwyo gan adran 12.10.1 y Pwyllgor Uwch Staff a rhaid i unrhyw swydd gyda phecyn cyflog o £100,000 neu fwy gael ei chymeradwyo gan y cyngor cyn unrhyw hysbyseb.

 

5.3 Ychwanegiadau at Gyflog Prif Swyddogion

5.3.1  Mae’r cyngor yn rhoi cymhorthdal tuag at gost rhentu ceir ar les ar gyfer prif swyddogion drwy lwfans rhentu ceir ar les. Mae lefel y lwfans o fis Ebrill 2024-25 i’r prif weithredwr a’r cyfarwyddwyr wedi ei phennu ar £8,983 y flwyddyn ac i benaethiaid gwasanaethau ar £6,293 y flwyddyn. Rhoddir ad-daliad am filltiroedd teithio busnes yn unol â’r cyfraddau priodol a gymeradwywyd gan CThEM. Caiff treuliau teithio a chynhaliaeth rhesymol eraill a achosir gan brif swyddog tra bydd ar fusnes y cyngor hefyd eu had-dalu pan gyflwynir derbynebau ac yn unol â Pholisi Teithio a Threuliau’r awdurdod ac amodau’r Cyd-gyngor Trafod Telerau ac amodau lleol. 

5.3.2 Telir am gost dau danysgrifiad i gyrff neu gymdeithasau proffesiynol gan y cyngor ar gyfer y Prif Weithredwr, y Prif Weithredwr Cynorthwyol a phob cyfarwyddwr.

5.3.3   Mae cost un tanysgrifiad i gorff neu gymdeithas broffesiynol yn cael ei thalu gan y cyngor ar gyfer pob pennaeth gwasanaeth.                  

5.3.4   Mae gan y cyngor ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau dros dro ar gyfer etholiadau a refferenda penodol. Mae Prif Weithredwr y cyngor wedi’i benodi i’r rôl hon ar gyfer Sir Benfro. Mae’r Swyddog Canlyniadau Dros Dro yn bersonol gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal etholiadau, ac yn cael ei dalu am gyflawni’r cyfrifoldebau hynny yn unol â ffioedd rhagnodedig. Telir ffioedd o’r fath ar wahân i’r cyflog sylfaenol.

5.3.5   Polisi’r cyngor yw peidio â chaniatáu i gyflogai sy’n dal unrhyw swydd yn sefydliad cytunedig y cyngor gael ei dalu ac eithrio drwy gyflogres y cyngor, ac nid yw’n gweithredu trefniadau sydd wedi’u cynllunio i leihau taliadau treth unigolion.

 

5.4     Taliadau Diswyddo

Mae’n ofynnol i awdurdod lleol, yn rhinwedd Rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Dod â Chyflogaeth i Ben yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2006, lunio, cyhoeddi a pharhau i adolygu’r polisi y mae’n ei gymhwyso wrth arfer ei bwerau disgresiwn o dan reoliadau 5 a 6 o’r rheoliadau hynny. Mae ymagwedd y cyngor at taliadau statudol a thaliadau yn ôl disgresiwn pan derfynir cyflogaeth prif swyddogion (a phob cyflogai arall) oherwydd dileu swydd neu er budd y gwasanaeth wedi’i nodi yn ei bolisi o dan Reoliadau Llywodraeth Leol (Dod â Chyflogaeth i Ben yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2006 yn Atodiad D.

5.4.2   Mae’r awdurdod yn cynnal trefniadau ar wahân ar adleoli, ymddeoliad cynnar gwirfoddol, cynllun diswyddo gwirfoddol, cytundebau setlo a dileu swydd yn ychwanegol at y rhai a ragnodir gan y rheoliadau y cyfeirir atynt yn 5.4.1 a gyhoeddwyd yn fewnol ar gyfer staff ar ein mewnrwyd.

5.4.3   Mewn perthynas â holl staff y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol a Soulbury: bydd awdurdod dirprwyedig i ddyfarnu taliad iawndal yn ôl disgresiwn ar gyfer dileu swydd neu er budd effeithlonrwydd y gwasanaeth, neu gais i ildio gostyngiad actiwaraidd mewn costau pensiwn i’r cyflogai, neu unrhyw daliad arall o dan 5.4.2, yn cael ei ystyried gan y cyfarwyddwr priodol a/neu’r Prif Weithredwr a rhaid ei lunio fel achos busnes ar y templed safonol a ddarperir gan Adnoddau Dynol wedi’i gymeradwyo gan Swyddog a.15. neu Ddirprwy a.151, Pennaeth Adnoddau Dynol neu Ddirprwy, a/neu Bennaeth y Gyfraith neu Lywodraethu neu Ddirprwy.

5.4.4     Bydd yr awdurdod yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru bod taliadau a gynigir i brif swyddogion sy’n gadael yr awdurdod yn rhoi’r gwerth gorau am arian i drethdalwyr lleol ac yn gosod yr esiampl gywir o ran ataliaeth. Bwriad Deddf 2011 yw gwneud y dull gweithredu y gall awdurdod ei ddefnyddio i gynnig taliad diswyddo i brif swyddogion fel rhan o benderfyniad i derfynu contract am unrhyw reswm yn gyhoeddus. Mae Trefniadau Ymadael Prif Swyddogion (Canllawiau) wedi’u hatodi yn Atodiad E.

5.4.5     Rhaid i bob cynnig i ddyfarnu iawndal yn ôl disgresiwn am ddileu swydd neu er budd effeithlonrwydd y gwasanaeth, neu gais i ildio gostyngiad actiwaraidd mewn costau pensiwn i’r cyflogai, gael ei lunio fel achos busnes ar dempled safonol priodol a ddarperir gan Adnoddau Dynol. Lle mae’r achos busnes yn ymwneud â’r swyddogion hynny a restrir o dan baragraff 5.1.1, ym mhob achos bydd y Pwyllgor Staff Uwch yn ystyried yr achos ac yn gwneud argymhelliad i’r cyngor.

5.4.6     Ym mhob achos arall, rhoddir awdurdod dirprwyedig i arfer pwerau disgresiwn o dan y polisi i’r cyfarwyddwr priodol / Prif Weithredwr, Swyddog Adran 151, Pennaeth Adnoddau Dynol, a Phennaeth y Gyfraith a Llywodraethu. Fodd bynnag, mae’r cyngor llawn yn cael y cyfle i bleidleisio cyn i ’becynnau diswyddo mawr’ (a ddiffinnir fel y rhai sy’n werth £100,000 neu fwy) gael eu cymeradwyo ar gyfer staff sy’n gadael y sefydliad, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw hawliau statudol neu gontractiol sy’n ddyledus i’r cyflogai. Bydd y cyngor yn cael gwybod am ganlyniadau diffyg cymeradwyaeth gan y cyngor, lle gallai methu â chyflawni rhwymedigaethau statudol neu gontractiol alluogi’r cyflogai i hawlio iawndal am dor contract. 

5.4.6   Cyhoeddir yr holl fanylion tâl terfynu ar gyfer yr holl gyflogeion eraill (gan gynnwys athrawon) yn flynyddol fel rhan o’r datganiad o gyfrifon.

5.4.7   Daeth y ddeddfwriaeth sy’n gweithredu’r cap o £95,000 ar daliadau ymadael i rym ar 4 Tachwedd 2020. Fodd bynnag, ar 12 Chwefror 2021, cyhoeddodd Trysorlys EM Gyfarwyddyd Trysorlys yn datgymhwyso’r cap ar unwaith. (yn agor mewn tab newydd)

 

5.5      Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y ‘Panel’)

5.5.1   Mae adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn cyfeirio at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) ac yn nodi ei swyddogaethau mewn perthynas â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig. Gall y Panel wneud argymhellion ynghylch unrhyw bolisi yn y datganiad ar bolisïau tâl hwn sy’n ymwneud â chyflog Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig y cyngor ac unrhyw newid arfaethedig i gyflog Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig y cyngor.  Bydd y cyngor, yn ôl y gofyn, yn ymgynghori â’r Panel mewn perthynas ag unrhyw newid i gyflog Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig nad yw’n gymesur â newid yng nghyflogau staff eraill y cyngor, a bydd yn rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a dderbynnir gan y Panel wrth benderfynu p’un ai i fwrw ymlaen â gwneud y newid. 

 

Mae’n ofynnol i’r cyngor nodi yn y datganiad ar bolisïau tâl hwn a wnaethpwyd unrhyw atgyfeiriad o’r fath i’r Panel ac, os felly, natur yr atgyfeiriad, penderfyniad y Panel, ac ymateb y cyngor.  Nid oes unrhyw atgyfeiriad wedi’i wneud i’r Panel yn ystod 2024/2025.

 

6.  Ailgylogi

6.1 Nid yw’n arfer gan y cyngor i gymryd prif swyddogion ymlaen sydd wedi ymddeol o gyflogaeth y cyngor unwaith eto; nid yw’n arfer gan y cyngor ychwaith i gymryd ymlaen yn barhaol brif swyddog sydd wedi ymddeol o gyflogaeth cyngor arall.

  

7. Cyhoeddi

7.1 Ar ôl cael ei gymeradwyo gan y cyngor llawn, bydd y datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor.

 

7.2 Yn ogystal, ar gyfer swyddi lle mae’r cyflog cyfwerth ag amser llawn yn £60,000 y flwyddyn o leiaf, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, bydd Datganiad o Gyfrifon Blynyddol y cyngor yn cynnwys nodyn yn nodi cyfanswm y canlynol:

a)          Cyflog, ffioedd neu lwfansau a dalwyd neu y gallai’r person eu derbyn yn y flwyddyn gyfredol a’r flwyddyn flaenorol

b)          Unrhyw fonws a dalwyd felly neu y gallai’r person ei dderbyn yn y flwyddyn gyfredol a’r flwyddyn flaenorol

c)          Unrhyw symiau taladwy fel lwfans costau sy’n drethadwy o ran treth incwm y DU

d)          Unrhyw iawndal am golli cyflogaeth ac unrhyw daliadau eraill sy’n gysylltiedig â therfynu cyflogaeth

e)          Unrhyw fuddion a dderbyniwyd nad ydynt yn dod o dan yr uchod

f)            Cymhareb taliad cydnabyddiaeth y Prif Weithredwr i daliad cydnabyddiaeth canolrifol holl gyflogeion yr awdurdod (gweler hefyd gymal 7.5 isod)

 

8. Perthynoledd tâl o fewn y cyngor

8.1 Mae’r unigolion ar y cyflogau isaf a gyflogir o dan gontract cyflogaeth gan y cyngor yn cael eu cyflogi yn unol â’r pwynt lleiaf ar y golofn gyflog (pwynt 2 ar y golofn gyflog) a osodwyd gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol. Gwerth pwynt ar y golofn gyflog o 1 Ebrill 2024 yw £12.26; fel cymhariaeth, y gyfradd cyflog byw (dros 21) gyfredol o 1 Ebrill 2025 yw £12.21 yr awr. Cafodd y cyflog byw ‘gwirioneddol’, fel yr argymhellwyd gan y Living Wage Foundation, ei gynyddu 5% i £12.60 ym mis Tachwedd 2024.

8.2 Cytunwyd ar hawliad cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol ar gyfer 2024 ar ddiwedd mis Hydref 2024; cytunwyd ar gyfradd safonol o £1,290 hyd at bwynt 43 ar y golofn gyflog a chynnydd o 2.5% ar gyfer pwyntiau uwch ar y golofn gyflog.

8.3 Cytunwyd ar setliad y Cyd-gyngor Trafod Telerau ar gyfer 2024/25 ar gyfer prif swyddogion ym mis Gorffennaf 2024. Cwblhawyd setliad 2024/25 y Prif Weithredwr ar ddiwedd mis Hydref 2024. Cynyddodd cyflogau sylfaenol unigol swyddogion y Cyd-gyngor Trafod Telerau o fewn y cwmpas a chyflog y Prif Weithredwr 2.5%.

8.4 Mae’r canllawiau statudol o dan y Ddeddf Lleoliaeth yn argymell y defnydd o luosrifau tâl fel ffordd o fesur y berthynas rhwng cyfraddau tâl ar draws y gweithlu a chyfraddau uwch-reolwyr, fel y’i cynhwyswyd yn ‘Adolygiad o Gyflog Teg yn y Sector Cyhoeddus’ Hutton (2010). Gofynnodd y llywodraeth i adroddiad Hutton archwilio’r achos dros derfyn sefydlog ar wasgariad cyflog drwy ofyniad na all unrhyw reolwr yn y sector cyhoeddus ennill mwy nag 20 gwaith yr unigolyn ar y cyflog isaf yn y sefydliad. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod y berthynas ag enillion canolrifol yn fesur mwy perthnasol ac mae Cod Ymarfer a Argymhellir ar Dryloywder Data’r Llywodraeth yn argymell cyhoeddi’r gymhareb rhwng y cyflog uchaf sy’n cael ei dalu a chyflog canolrifol cyfartalog holl weithlu’r awdurdod.

8.5 Mae’r trefniadau tâl presennol o fewn y cyngor yn diffinio’r lluosrif rhwng y cyflogai ar y cyflog isaf (cyfwerth ag amser llawn) a lefel cyflog swydd y Prif Weithredwr a’r prif swyddog cyffredin. Nid yw’r ffigurau’n cynnwys contractau prentisiaeth na’r rheini ar gynlluniau’r llywodraeth o fewn y diffiniad o unigolion ar y cyflogau isaf.

Gwahaniaeth cyflog rhwng cyflog cyfartalog prif swyddogion a’r cyflogai cyfwerth ag amser llawn ar y cyflog isaf 
  • Cyflog cyfartalog prif swyddog – £109,009.05

  • Cyflog cyfwerth ag amser llawn isaf – £23,656.00

  • Lluosrif tâl – 4.61 

Gwahaniaeth cyflog rhwng cyflog cyfartalog prif swyddogion a chyflog cyfartalog cyflogai cyfwerth ag amser llawn
  • Cyflog cyfartalog prif swyddog – £109,009.05

  • Cyflog cyfartalog – £28,590.29

  • Lluosrif tâl – 3.81

Gwahaniaeth cyflog rhwng canolrif cyflog prif swyddogion a chyflog canolrifol cyflogai cyfwerth ag amser llawn
  • Cyflog canolrifol prif swyddog – £97,739.00

  • Cyflog canolrifol – £25,813.00

  • Lluosrif tâl – 3.79

Gwahaniaeth cyflog rhwng cyflog y Prif Weithredwr a’r cyflogai cyfwerth ag amser llawn ar y cyflog isaf
  • Prif Weithredwr – £154,695.00

  • Cyflog cyfwerth ag amser llawn isaf – £23,656.00

  • Lluosrif tâl – 6.5

Gwahaniaeth cyflog rhwng cyflog y Prif Weithredwr a chyflog cyfartalog cyflogai cyfwerth ag amser llawn
  • Prif Weithredwr – £154,696.00

  • Cyflog cyfartalog – £28,590.29

  • Lluosrif tâl – 5.41 

Gwahaniaeth cyflog rhwng cyflog y Prif Weithredwr a chyflog canolrifol cyflogai cyfwerth ag amser llawn
  • Prif Weithredwr – £154,696.00

  • Cyflog canolrifol – £25,813.00

  • Lluosrif tâl – 5.99 

8.6  Fel rhan o’i waith cyffredinol a pharhaus i fonitro cysondeb â marchnadoedd tâl allanol, o fewn y sector a thu allan i’r sector, bydd y cyngor yn defnyddio gwybodaeth feincnodi sydd ar gael, fel y bo’n briodol.

 

 

9.  Adolygu'r Polisi

9.1 Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran tâl a gwobrwyo o fewn y cyngor a bydd yn cael ei adolygu bob blwyddyn o leiaf er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni egwyddorion tegwch, cydraddoldeb, atebolrwydd a gwerth am arian i ddinasyddion Sir Benfro.

       

Atodiad A

Graddfeydd cyflogau Cyngor Sir Penfro sy'n gymwys i weithwyr a gwmpesir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC) ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol ar 01.04.2024

Cyfraddau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol o fis Ebrill 2024

 

Gradd
Pwynt ar y golofn gyflog
01.04.24 (y flwyddyn)
 £ Yr Awr
Cynfraniad Pensiwn Cyflogeion %

1

1

Wedi'i ddileu o 01.04.23

Wedi'i ddileu o 01.04.23

 wedi'i ddileu o 01.04.23

2

2

£23,656

£12.26

5.80%

3

3

£24,027

£12.45

5.80%

4

4

£24,404

£12.65

5.80%

4

5

£24,790

£12.85

5.80%

4

6

£25,183

£13.05

5.80%

5

7

£25,584

£13.26

5.80%

5

8

£25,992

£13.47

5.80%

5

9

£26,409

£13.69

5.80%

5

10

£26,835

£13.91

5.80%

6

11

£27,269

£14.13

6.50%

6

12

£27,711

£14.36

6.50%

6

14

£28,624

£14.84

6.50%

6

15

£29,093

£15.08

6.50%

6

17

£30,060

£15.58

6.50%

7

19

£31,067

£16.10

6.50%

7

20

£31,586

£16.37

6.50%

7

22

£32,654

£16.93

6.50%

7

23

£33,366

£17.29

6.50%

7

24

£34,314

£17.79

6.50%

8

25

£35,235

£18.26

6.50%

8

26

£36,124

£18.72

6.50%

8

27

£37,035

£19.20

6.50%

8

28

£37,938

£19.66

6.50%

8

29

£38,626

£20.02

6.50%

8

30

£39,513

£20.48

6.50%

9

31

£40,476

£20.98

6.50%

9

32

£41,511

£21.52

6.50%

9

33

£42,708

£22.14

6.50%

9

34

£43,693

£22.65

6.50%

9

35

£44,711

£23.17

6.80%

10

36

£45,718

£23.70

6.80%

10

37

£46,731

£24.22

6.80%

10

38

£47,754

£24.75

6.80%

10

39

£48,710

£25.25

6.80%

11

40

£49,764

£25.79

6.80%

11

41

£50,788

£26.32

6.80%

11

42

£51,802

£26.85

6.80%

11

43

£52,805

£27.37

6.80%

12

44

£53,829

£27.90

6.80%

12

45

£54,903

£28.46

6.80%

12

46

£55,943

£29.00

6.80%

CM

57

£67,636

£35.06

8.50%

CM

59

£69,761

£36.16

8.50%

CM

61

£71,883

£37.26

8.50%

CM

62

£72,943

£37.81

8.50%

CM

63

£74,005

£38.36

8.50%

 

 

Nodiadau: cyfrifwyd y cyfradd fesul awr drwy rannu’r cyflog blynyddol â 52.143 wythnos (sef 365 diwrnod wedi’i rannu â 7) ac yna ei rannu â 37 awr (yr wythnos waith safonol)

Nid yw pwyntiau 13, 16, 18 a 21 ar y golofn gyflog yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Atodiad B

Graddfeydd cyflog Cyngor Sir Penfro sy'n berthnasol i swydd y Prif Weithredwr a Phrif Swyddogion JNC fel yn yr adolygiad cyflog 01.04.2024-31.03.25

Prif Weithredwr

£150,922

Cyfarwyddwyr
Cynyddran 1 (£)
Cynyddran 2 (£)
Cynyddran 3 (£)
Cynyddran 4 (£)
Cynyddran 5 (£)

123,879

126,931

129,972

133,024

136,062

 

Penaethiaid Gwasanaeth
Band 
Cynyddran 1 (£)
Cynyddran 2 (£)
Cynyddran 3 (£)
Cynyddran 4 (£)
Cynyddran 5 (£)

Band 1

107,677

110,318

112,958

115,602

118,239

Band 2

97,739

100,128

102,517

104,914

107,304

Band 3

89,035

91,208

93,383

95,558

97,739

Band 4

82,827

84,840

86,857

88,880

90,901

Band 5

76,607

78,471

80,377

82,197

84,064

Band 6

70,392

72,103

73,814

75,522

77,223

 

Nodiadau:

1.     Mae’r ffigurau a ddangosir yn adlewyrchu’r dyfarniadau cyflog cenedlaethol ar gyfer 2024-25.

2.     Bu cynnydd o 2.5 y cant yng nghyflogau sylfaenol unigol yr holl swyddogion o fewn cwmpas y Cyd-gyngor Trafod Telerau ar gyfer Prif Swyddogion Awdurdodau Lleol o 1 Ebrill 2024 ymlaen. (Daethpwyd i gytundeb ar 22 Gorffennaf 2024.)

3.     Cytunwyd ar ddyfarniad cyflog o 2.5 y cant ar gyfer prif weithredwyr y Cyd-gyngor Trafod Telerau (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer 2024 ar ddiwedd mis Hydref 2024 a rhoddwyd hwn ar waith o 1 Ebrill 2024.

4.     Ni ddefnyddir bandiau cyflog 1, 4, 5 a 6 ar gyfer prif swyddogion ar hyn o bryd.

5.     Mewn swydd, ceir un Prif Swyddog Gweithredol, un Prif Weithredwr Cynorthwyol, tri chyfarwyddwr a 12.5 prif swyddog.

6.     Y rhaniad rhywedd ar lefel prif swyddogion y Cyd-gyngor Trafod Telerau yw 6.5 o swyddogion benyw, 11 o swyddogion gwryw.

 

 

Rhif
 Rhyw
Band
Teitl

1

G

Y Prif Weithredwr

Y Prif Weithredwr

2

G

Cyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Adnoddau

3

G

Cyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

4

G

Cyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Addysg

5

G

Cyfarwyddwr

Prif Weithredwr Cynorthwyol

6

B

2 50%

Pennaeth Cydgomisiynu Strategol (50:50 Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro)

7

B

2

Pennaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio

8

B

2

Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu

9

G

Band 3

Pennaeth Ymgysylltu, Perfformiad a’r Gymuned

10

B

3

Pennaeth Seilwaith a Gwasanaethau Amgylcheddol (swydd wag)

11

G

3

Pennaeth Gwella Addysg a Chomisiynu

12

B

3

Pennaeth Gofal Oedolion

13

G

3

Pennaeth TGCh

14

G

3

Pennaeth Gwasanaethau Plant

15

G

3

Pennaeth Gwasanaethau Diwylliant, Hamdden a Chofrestru

16

B

3

Pennaeth Cynllunio

17

B

3

Pennaeth Adnoddau Dynol

18

G

3

Pennaeth Gwasanaethau Caffael a Refeniw

19

B

3

Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd

 

 Atodiad C

Graddfeydd cyflogau cenedlaethol ar gyfer swyddi o fewn cwmpas Cytundeb Soulbury

Hydref 2024

Mae’r Cyflogwyr Cenedlaethol wedi gwneud cynnig i ochr Swyddogion Soulbury ar gyfer 2024 (yn agor mewn tab newydd), sef cynnydd cyflog o 2.5 y cant ar yr holl gyflogau a lwfansau. Derbyniwyd y cynnig hwn ar 20 Chwefror 2025.

Yn ogystal ag asesiad proffesiynol strwythuredig o’r pwyntiau ar y golofn gyflog, dyfernir pwyntiau yn unol â ‘Llyfr Glas’ Pwyllgor Soulbury a.7 Atodiad D.

Mae’r system asesiad proffesiynol strwythuredig yn creu’r potensial i raddfa gyflog unigol arferol pob swyddog gael ei hymestyn hyd at dri phwynt pellach. 

Tabl Cyflogau Swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Soulbury 2025 (yn agor mewn tab newydd)

Gweithwyr proffesiynol gwella addysg

Ar hyn o bryd, mae gennym y swyddi canlynol ar y raddfa hon:

Y Blynyddoedd Cynnar a’r rhai sy’n rhoi cyngor ynghylch anghenion ychwanegol: 9-12

Datblygu’r Gymraeg: 12-15

Trawsnewid HWB: 12-15

Cynghorwyr gwella: 18-21 neu 20-23

Uwch-gynghorydd Gwella: 26-29

 

Seicolegwyr addysg dan hyfforddiant

Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gyflogeion ar y raddfa hon

Seicolegwyr addysg cynorthwyol

Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gyflogeion ar y raddfa hon.

Seicolegwyr addysg – Graddfa A

 

Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio Graddfa A: 2-7

 

Uwch-seicolegwyr addysg a phrif seicolegwyr addysg

 

Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio ystod pwyntiau ar y golofn gyflog o 2-7 a 5-9

 

Gwelliant i adroddiad Soulbury

Bydd paragraff 4.6 o adroddiad Soulbury yn cael ei ddiwygio i ddatgan bod seicolegwyr addysg y brif raddfa yn cael lwfans sy’n cyfateb i un pwynt cynyddrannol ychwanegol ar Raddfa A am gyfnod goruchwylio seicolegwyr addysg cynorthwyol yn ogystal ag ar gyfer goruchwylio seicolegwyr addysg dan hyfforddiant.

Atodiad D

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2006 (fel y’u diwygiwyd)

Polisïau yn ôl disgresiwn mewn perthynas â chyflogeion awdurdod cyflogi a ddiffinnir o dan Reoliad 2 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2006 (fel y’u diwygiwyd).

Disgresiwn Cyflogwr

Seilio taliadau colli swydd ar gyflog wythnosol gwirioneddol lle bo hwn yn fwy na'r terfyn ar gyfer cyflog wythnosol statudol

  • Rheoliad: 5*
  • Polisi: I'w seilio ar sail gyflog wythnosol gwirioneddol

Dyfarnu iawndal ar ffurf cyfandaliad hyd at gyflog 104 o wythnosau mewn achosion o golli gwaith, terfynu cyflogaeth ar sail effeithlonrwydd neu ddiweddu penodiad ar y cyd

  • Rheoliad: 6*
  • Arfer y disgresiwn hwn drwy gyfeirio at y meini prawf oedran / hyd gwasanaeth statudol wedi’u lluosi â ffactor o 2 (h.y. uchafswm taliad sy’n cyfateb i dâl o 60 wythnos) tan 31 Mawrth 2027 ac o hynny ymlaen 1.75 (h.y. uchafswm taliad sy’n cyfateb i 52.5 wythnos o gyflog).
ID: 8868, revised 24/06/2025