Polisïau a Gweithdrefnau
Polisi Adennill Dyled Corfforaethol
Ar y dudalen hon:
- Cyflwyniad
- Trosolwg
- Adennill Dyledion
- Y broses adennill
- Camau gorfodi
- Amrywiaeth o ddulliau adennill
- Pobl sy'n agored i niwed
- Olrhain pobl
- Cynllun seibiant dyledion (lle i anadlu)
- Dulliau Talu
- Atal/Terfynu Adennill
- Amrywiol
- Atodiadau
Cyflwyniad
Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd a chyfrifoldeb cyfreithiol i bob preswylydd, busnes a sefydliad arall sy’n weithredol yn y sir, i sicrhau bod pob swm sy’n ddyledus i’r cyngor yn cael ei filio, ei gasglu a’i adfer yn brydlon ac mewn modd costeffeithiol.
Mae’n hanfodol bod yr holl arian sy’n ddyledus yn cael ei gasglu’n effeithiol gan y cyngor a bod dyledion yn cael eu cadw i’r lleiafswm. Mae unrhyw oedi wrth gasglu neu fethu ag adennill dyledion yn y pen draw yn arwain at bwysau ariannol ychwanegol ar gyllideb a llif arian y cyngor a gall effeithio’n anochel ar ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.
Bydd y Polisi Adennill Dyled Corfforaethol yn cyflwyno dull cyson, teg, tryloyw ac amserol o reoli dyledion ledled yr awdurdod, a fydd yn sicrhau bod yr holl gamau a gymerir yn rhesymol, yn gymesur, yn gyfreithlon ac yn briodol.
Pan fydd unigolyn neu sefydliad yn cysylltu i drafod anawsterau talu, naill ai’n uniongyrchol neu drwy’r Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu), bydd ei amgylchiadau’n cael eu hystyried yn deg ac yn wrthrychol gyda’r nod o gytuno ar drefniant talu rhesymol, lleihau camau adennill, ac osgoi costau ychwanegol posibl. Pan fydd pobl neu sefydliadau’n methu â chysylltu neu gynnal eu rhwymedigaethau talu, bydd camau adennill yn parhau er budd ehangach y cyhoedd.
Mae’r polisi hwn yn nodi’r egwyddorion cyffredinol i’w cymhwyso mewn perthynas â rheoli dyled ar draws yr holl wasanaethau a ddarperir gan y cyngor.
Trosolwg
Cwmpas y polisi
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r gwaith o gasglu’r canlynol:
- Y dreth gyngor
- Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (ardrethi busnes)
- Rhenti tai
- Rhenti garej
- Gordaliadau budd-dal tai a budd-dal y dreth gyngor
- Mân ddyledion
- Ffioedd gofal cymdeithasol [preswyl a dibreswyl]
Mae rheolau a rheoliadau penodol sy’n llywodraethu’r gwaith o adennill a chasglu’r mathau hyn o ddyledion, ac maen nhw wedi’u nodi yn yr atodiadau priodol.
Gellir ymestyn y polisi i gynnwys mathau eraill o refeniw a gesglir gan y cyngor. Er y bydd y cyngor yn gwneud ei orau glas i lynu wrth y polisi, efallai y bydd achlysuron pan fydd yn anymarferol neu’n afresymol gwneud hynny. Nid yw methu â chydymffurfio â’r polisi ynddo’i hun yn negyddu unrhyw gamau adennill dyledion a gymerwyd nac yn eu gwneud yn anorfodadwy.
Egwyddorion arweiniol y polisi
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i drin pobl yn deg wrth sicrhau dull proffesiynol ac amserol o gasglu arian sy’n ddyledus iddo a rhaid iddo wneud hynny’n gyfrifol, yn sensitif ac yn effeithiol. Bydd y cyngor yn sicrhau’r canlynol:
- Bydd unrhyw gamau adennill yn gymesur
Mae cymesuredd yn caniatáu barn gytbwys rhwng colli incwm i’r cyngor o bosibl a chostau cydymffurfio.
- Bydd y dull a gymerir yn gyson
Mae cysondeb yn golygu defnyddio dull tebyg mewn amgylchiadau tebyg i gyflawni’r un amcanion. Bydd y cyngor yn darparu cysondeb â’r cyngor a roddir, wrth ddefnyddio ei bwerau statudol a’r gweithdrefnau adennill a ddefnyddir. Ni ddylid dehongli cysondeb fel unffurfiaeth gan fod y cyngor yn cydnabod yr angen i ystyried llawer o newidynnau ym mhob achos, megis amgylchiadau cymdeithasol y dyledwr, hanes talu, eu gallu i dalu, ac a ellid eu hystyried yn agored i niwed.
- Bydd y camau gweithredu yn dryloyw
Mae tryloywder yn bwysig er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn y cyngor. Bydd y cyngor yn egluro i ddyledwyr beth a ddisgwylir ganddynt a beth y dylent ei ddisgwyl gan y cyngor. Yn dilyn cais, byddwn hefyd yn rhoi esboniad ynghylch y rheswm dros gychwyn unrhyw gamau adennill a’r camau nesaf y gall y cyngor eu cymryd os na wneir taliad.
Nodau ac amcanion y polisi
Nodau ac amcanion allweddol y polisi yw:
- Sicrhau bod anfonebau/hawliadau’n cael eu cyhoeddi’n gywir ac yn brydlon, gan ystyried cymhwyso unrhyw ryddhad statudol lle mae’r dyledwr wedi gwneud cais amdano a’i wrthbwyso yn erbyn y rhwymedigaeth.
- Bydd y cyngor yn cynnig dulliau talu effeithlon a hyblyg lle caniateir, gan sicrhau bod pob hawliad am daliad yn nodi’n glir yr holl opsiynau talu sydd ar gael.
- Hysbysu pobl am eu hawlogaeth i fudd-daliadau, gostyngiadau ac esemptiadau er mwyn sicrhau bod y nifer fwyaf o bobl yn eu defnyddio.
- Cymryd camau adfer yn erbyn y rhai sy’n dewis peidio â thalu’n fwriadol neu’r rhai sy’n gohirio talu heb reswm dilys wrth weithio i nodi a chynorthwyo’r rhai sy’n profi caledi ariannol gwirioneddol.
- Lle mae pobl wedi mynd i ôl-ddyledion neu’n debygol o fynd i ôl-ddyledion, ymrwymiad i weithio gyda nhw a’u cynrychiolwyr i osod lefelau talu rhesymol a realistig y gallant eu cynnal, gan sicrhau bod trefniadau talu yn adlewyrchu’r gallu i dalu yn ogystal â lefel y ddyled.
- Hysbysu cwsmeriaid na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ar ôl i gytundeb gael ei wneud oni bai fod y trefniant yn cael ei dorri. Yn amodol ar adolygiad cyfnodol o’r amgylchiadau.
- Gweithio tuag at ddull cydlynol pan fydd nifer o ddyledion i’r cyngor.
- Cydymffurfio’n llawn â’r Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu), sy’n rhoi’r hawl i’r rhai sydd â dyled broblemus gael amddiffyniad cyfreithiol rhag eu credydwyr.
Adennill Dyledion
Y broses adennill
Bydd y cyngor yn sefydlu prosesau amserol a chadarn ar gyfer adennill symiau sydd heb eu talu a bydd yn dechrau adennill dyledion heb eu talu yn brydlon pan fydd taliad yn dod yn hwyr neu pan na chynhelir cynllun rhandaliadau neu drefniant talu. Bydd y cyngor yn llym wrth adennill symiau hwyr gan bobl sy’n methu â thalu’n gyson neu sy’n talu’n hwyr yn gyson.
Wrth fynd ar drywydd symiau hwyr sydd heb eu talu, gall y cyngor ddefnyddio unrhyw un a phob un o’r dulliau sydd ar gael iddo yn ôl y gyfraith. Mae’r prosesau adennill ar gyfer rhai dyledion penodol y cyngor wedi’u nodi gan y gyfraith. Mae’r prosesau penodol wedi’u hamlinellu yn atodiadau 7.1 i 7.7*.
*Noder: Os yw dyled yn destun trefniant “Lle i Anadlu” o dan y Cynllun Seibiant Dyledion (gweler 3.7), bydd y camau adennill a nodwyd yn cael eu gohirio nes bod y cyfnod Lle i Anadlu wedi dod i ben (ac eithrio lle mae esemptiad cyfreithiol yn berthnasol).
Camau gorfodi
Bydd y cyngor yn dilyn yr holl ddeddfwriaeth statudol i orfodi ad-dalu’r ddyled a, lle bo angen, bydd yn defnyddio asiantau gorfodi.
Amrywiaeth o ddulliau adennill
Defnyddir amrywiaeth o opsiynau adennill pan fydd y cwsmer wedi methu â gwneud taliad yn dilyn hawliad neu pan fydd trefniadau talu wedi chwalu. Byddai’r dewis o ddull yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys yr hyn sydd ar gael ar gyfer math penodol o ddyled, ond gall opsiynau gynnwys y canlynol:
- Gorchymyn atebolrwydd (gorchymyn a wneir gan Lys yr Ynadon sy’n rhoi’r pŵer i’r cyngor gymryd camau pellach i orfodi taliad)
- Gorchymyn Atafaelu Enillion
- Didyniadau o fudd-daliadau
- Camau gweithredu gan yr asiantaeth orfodi / camau casglu dyledion
- Camau ansolfedd (methdaliad)
- Sicrhau’r ddyled drwy gael gorchymyn arwystlo yn erbyn asedau
- Gwerthiant gorfodol o asedau / achos cymryd meddiant
- Gorchymyn dyled trydydd parti
- Didyniadau gwirfoddol drwy gyflog
- Asiant gorfodi ac asiantaethau casglu dyledion
- Adfeddiannu eiddo
Efadu a thwyll
Mae efadu taliadau sy’n ddyledus i’r cyngor yn anghyfreithlon yn lleihau’r adnoddau ariannol sydd ar gael i’r cyngor ac mae’n cael effaith uniongyrchol ar bob preswylydd, busnes a sefydliad arall sy’n dibynnu ar wasanaethau’r cyngor. Ni fydd efadu taliadau’n anghyfreithlon na thwyll i osgoi talu yn cael ei oddef a, lle nodir hyn, yn ogystal â chymryd camau i orfodi taliad, bydd y cyngor yn ceisio gosod cosbau neu sancsiynau pellach fel y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu.
Lle bydd dyledion yn codi trwy efadu neu dwyll, bydd y cyngor yn ceisio adennill y taliad yn llawn cyn gynted â phosibl.
Pobl sy'n agored i niwed
Mae’r cyngor yn cydnabod y gallai rhai aelodau o’r gymuned gael eu hystyried yn fwy agored i niwed ac felly efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt i ddelio â’u materion ariannol.
Nid yw bod yn agored i niwed yn golygu na fydd gofyn i rywun dalu symiau y mae’n ofynnol iddo eu talu yn ôl y gyfraith. Fodd bynnag, lle cydnabyddir bod unigolyn yn agored i niwed, dylid ystyried y canlynol:
- Caniatáu mwy o amser i dalu
- Gohirio camau gorfodi
- Cyfeirio’r unigolyn at ffynonellau cyngor annibynnol, e.e. y Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)
- Darparu gwybodaeth mewn fformat hygyrch
- Trefniant talu dros dro gydag ad-daliad is nag a fyddai fel arfer yn cael ei gytuno
Gall yr hyn a berir i rywun fod yn agored i niwed neu gael ei allgáu’n gymdeithasol fod yn rhywbeth dros dro neu’n barhaol ei natur a bydd pa mor agored i niwed ydynt yn amrywio’n fawr. Yn gyffredinol, ystyrir bod unigolyn yn agored i niwed os byddai’n afresymol disgwyl iddo allu delio â phroblem ei hun. Cymerir gofal i asesu pob sefyllfa fesul achos. Bydd yr awdurdod yn cynorthwyo i sicrhau penodiad neu ddirprwyaeth i reoli eu harian.
Olrhain pobl
Bydd y cyngor yn gwneud pob ymdrech angenrheidiol i olrhain unrhyw ddyledwyr er mwyn sicrhau bod taliadau sy’n weddill yn cael eu hadennill. Bydd hyn yn cynnwys gwirio ffynonellau gwybodaeth mewnol ac allanol a rhannu gwybodaeth ag awdurdodau eraill lle bo angen, gan sicrhau cydymffurfedd â pholisi diogelu data’r cyngor a deddfwriaeth diogelu data. Bydd asiantau olrhain yn cael eu defnyddio os yw’r cyngor yn teimlo bod hynny’n briodol.
Cynllun seibiant dyledion (lle i anadlu)
Daeth Rheoliadau’r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020 i rym ar 4 Mai 2021 ac maent yn rhoi’r hawl i’r rhai sydd â dyled broblemus gael amddiffyniadau cyfreithiol rhag eu credydwyr.
Mae dau fath o le i anadlu: lle i anadlu safonol a lle i anadlu oherwydd argyfwng iechyd meddwl.
- Mae lle i anadlu safonol ar gael i unrhyw un sydd â dyled broblemus. Mae’n rhoi amddiffyniadau cyfreithiol iddynt rhag camau gweithredu gan gredydwyr am hyd at 60 diwrnod. Mae’r amddiffyniadau’n cynnwys oedi’r rhan fwyaf[1] o gamau gorfodi a chyswllt gan gredydwyr a rhewi’r rhan fwyaf o log a thaliadau ar eu dyledion.
- Dim ond i rywun sy’n derbyn triniaeth argyfwng iechyd meddwl y mae lle i anadlu ar gyfer argyfwng iechyd meddwl ar gael ac mae ganddo rai amddiffyniadau cryfach. Mae’n para cyhyd â thriniaeth argyfwng iechyd meddwl yr unigolyn, ynghyd â 30 diwrnod (ni waeth pa mor hir y mae’r driniaeth argyfwng yn para).
Fel credydwr, os dywedir wrth y cyngor fod dyled sy’n ddyledus iddo mewn cyfnod “lle i anadlu”, rhaid iddo atal pob gweithred sy’n gysylltiedig â’r ddyled honno a chymhwyso’r amddiffyniadau. Rhaid i’r amddiffyniadau hyn aros yn eu lle nes bod y cyfnod lle i anadlu yn dod i ben.
Bydd gwasanaeth electronig (a sefydlwyd gan Wasanaeth Ansolfedd y llywodraeth) yn anfon hysbysiad i ddweud wrth y cyngor am bob dyled sy’n ddyledus iddo mewn cyfnod lle i anadlu a’r dyddiad y dechreuodd y cyfnod hwn. Mae angen i’r cyngor sicrhau ei fod yn cymhwyso’r amddiffyniadau i’r dyledion hyn o’r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad. (NODER: Rhaid derbyn pob hysbysiad lle i anadlu yn uniongyrchol gan y Gwasanaeth Ansolfedd cyn iddynt gael eu cymhwyso.)
Mae’r cyngor hefyd wedi rhoi proses fewnol ar waith i sicrhau bod yr holl hysbysiadau lle i anadlu yn cael eu gweithredu’n brydlon gan yr adrannau perthnasol ar ôl eu derbyn, gyda manylion llawn yr holl geisiadau hefyd yn cael eu cofnodi ar un system rheoli achosion.
Mae gwybodaeth lawn am gyfrifoldebau’r awdurdod o dan y Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu) ar gael yma: https://www.gov.uk/government/publications/debt-respite-scheme-breathing-space-guidance/debt-respite-scheme-breathing-space-guidance-for-creditors
Dulliau Talu
Y dulliau talu a gynigir yw:
- Debyd uniongyrchol: Cynigir debyd uniongyrchol ar gyfer talu’r dreth gyngor, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, a mân ddyledion eraill lle mae derbynebau cyfnodol yn ddyledus.
- Ar-lein drwy wefan y cyngor: Gellir talu’r dreth gyngor, gordaliadau budd-dal tai a mân ddyledion gyda cherdyn debyd a chredyd drwy wefan y cyngor drwy fynd i www.sir-benfro.gov.uk/fynghyfrif i gofrestru neu fewngofnodi.
- Llinell dalu ffôn awtomataidd 24 awr: Gellir talu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, y dreth gyngor, rhenti tai, gordaliadau budd-dal tai a mân ddyledion gyda cherdyn debyd neu gredyd drwy ffonio 01437 775164.
- Swyddfeydd y post: Gellir talu’r dreth gyngor a rhenti tai yn rhad ac am ddim mewn unrhyw swyddfa’r bost.
- Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid: Gellir talu ag arian parod, siec neu gerdyn yn unrhyw un o’r canolfannau neu dros y ffôn ar 01437 764551.
- Trosglwyddiad banc / BACS / archeb sefydlog: Gellir talu’r dreth gyngor, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, gordaliadau budd-dal tai a mân ddyledion yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor, y bydd ei fanylion yn cael eu darparu ar gais.
Efallai y cynigir dulliau talu ychwanegol yn y dyfodol lle mae’n economaidd hyfyw gwneud hynny.
Os gellir cymryd taliad cyn darparu gwasanaeth, dyma ddylai fod y prif ddull casglu.
Lle mae angen taliad cylchol, debyd uniongyrchol ddylai fod y prif ddull casglu a dylid ei sefydlu pan fydd cytundebau’n cael eu llofnodi.
Efallai y bydd gofyn i ddyledwyr ddarparu manylion gwarantwr ar gyfer rhai cytundebau gwasanaeth.
Dylid darparu manylion cyswllt llawn, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn, ar gyfer pob dyled newydd/gylchol i gynorthwyo’r broses adennill.
Atal/Terfynu adennill
Pan na ellir adennill dyled, mae dileu dyled o’r fath yn brydlon ac yn rheolaidd yn bwysig fel y gall y cyngor gyllidebu ar gyfer dyledion drwg. Rhan annatod o adennill dyledion yw rheoli dyledion drwg yn effeithiol er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon i gasglu arian sy’n weddill y gellir disgwyl yn rhesymol iddo gael ei gasglu. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau unigol ac mae’r sylwadau canlynol yn rhoi enghreifftiau o achosion lle gallai fod yn briodol ystyried atal/terfynu achos:-
- Mae’n aneconomaidd mynd ar drywydd y ddyled.
- Mae pob dull adennill priodol wedi’u defnyddio.
- Nid yw’r swm yn gasgladwy oherwydd methdaliad neu ansolfedd ar ôl ei gyflwyno (lle bo’n briodol) i’r datodwr / ymarferydd ansolfedd.
- Mae’r dyledwr wedi ffoi ac ni ellir ei olrhain.
- Nid yw er budd y cyhoedd i’r cyngor fynd ar ôl y ddyled.
- Nid yw’r dyledwr yn byw yn y Deyrnas Unedig.
- Mae oedran y ddyled yn atal adennill, neu mae’r ddyled wedi’i gwahardd yn statudol.
- Mae’r dyledwr wedi marw ac nid oes gan yr ystad ddigon o arian ar gael ar gyfer taliad rhannol na thaliad llawn.
- Mae’r ddyled mewn cyfnod “Lle i Anadlu”.
D.S. Nid yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr.
Bydd camau adennill yn ailgychwyn os caiff y dyledwr ei olrhain neu os bydd ei amgylchiadau’n newid digon i wneud y camau hyn yn rhesymol.
Mae angen cymeradwyaeth y Cyfarwyddwr Adnoddau i ddileu’r holl ddyled.
Amrywiol
Cwynion
Am wybodaeth: Cwynion
Monitro ac adrodd
Mae’r cyngor yn cydnabod yr angen am gamau adennill prydlon a bydd yn monitro lefel ac oedran dyledion corfforaethol sydd heb eu talu, yn tynnu sylw at feysydd sy’n peri pryder, ac yn rhannu adroddiadau â swyddogion priodol fel a ganlyn:
Mân ddyledwyr
Monitro:
- Bob dydd, bydd cyfrifon mân ddyledwyr yn cael eu gwirio i sicrhau bod cynlluniau talu yn cael eu dilyn a, lle mae cwsmer wedi methu â thalu, penderfynu pa gamau adennill sy’n berthnasol.
- Bob mis, bydd y Rheolwr Cyfrifon Derbyniadwy yn cynnal adolygiad o lefel y ddyled sy’n weddill ac oedran y ddyled a bydd yn penderfynu ar y camau adennill priodol i’w cymryd.
- Bydd meysydd pryder fel hen ddyledion, dyledion sydd wedi’u hoedi a chyfrifon dadleuol yn cael eu hamlygu a’u trafod gyda’r rheolwr gwasanaeth perthnasol.
- Trefnir cyfarfodydd ad hoc gyda rheolwyr gwasanaeth a phenaethiaid gwasanaeth i dynnu sylw at feysydd sy’n peri pryder, gan gynnwys lle mae dyled yn destun dadl neu wedi’i gohirio, neu lle mae gwerth y ddyled sydd heb ei dalu’n peri pryder.
- Yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Ariannol, rhaid i bob gwasanaeth ddilyn pob gweithdrefn fewnol er mwyn sicrhau bod dyledion yn cael eu hadennill yn amserol.
Adrodd:
- Cynhyrchir adroddiadau misol ar werth cyffredinol y mân ddyledion, wedi’u dadansoddi yn ôl anfonebau sydd heb eu talu, oedran y ddyled a’r cam adennill, a’u hanfon at y Prif Swyddog a Phennaeth y Gwasanaeth.
- Anfonir adroddiadau at bob pennaeth gwasanaeth yn manylu ar werth y ddyled, oedran y ddyled a’r cam adennill.
- Bob chwarter, adroddir i’r Cyfarwyddwr Adnoddau ar werth y ddyled sydd heb ei thalu, gan gynnwys unrhyw gamau adennill a gymerwyd.
Rhenti tai, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol a’r dreth gyngor:
- Mae cyfraddau casglu yn cael eu paratoi a’u monitro’n fisol.
Dyledwyr i’r Gwasanaethau Cymdeithasol:
- Caiff cerdyn sgôr misol sy’n cynnwys metrigau a dangosyddion perfformiad ar ystod eang o ddyled gofal cymdeithasol ei adolygu yn y Tîm Rheoli Dyledion ac mewn cyfarfod gwella dyledion gofal cymdeithasol fel rhan o fonitro perfformiad. Mae’r data’n cynnwys dyled o daliadau cwsmeriaid, cyfraniadau iechyd i becynnau gofal, a thaliadau wedi’u gohirio yn erbyn eiddo.
Atodiadau
Dreth Gyngor a chynllun gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Gweithdrefnau cyn y llys
- Cyhoeddir hawliad treth gyngor yn nodi swm a dyddiad dyledus y rhandaliadau.
- Bydd methu â chadw at y cynllun rhandaliadau statudol yn arwain at gyhoeddi hysbysiad yn hysbysu’r cwsmer o swm yr ôl-ddyledion a bod y ddyled yn daladwy o fewn saith diwrnod.
- Os yw’r cwsmer yn talu yn dilyn yr hysbysiad atgoffa hwn, ni chymerir unrhyw gamau pellach. Fodd bynnag, os bydd y cwsmer yn methu â thalu eto, bydd ail hysbysiad atgoffa yn cael ei gyhoeddi.
- Os bydd y cwsmer yn methu â thalu ar ôl anfon yr ail hysbysiad atgoffa, bydd hysbysiad terfynol yn cael ei gyhoeddi a chollir yr hawl i dalu mewn rhandaliadau. Daw’r swm sy’n weddill yn ddyledus ac yn daladwy.
- Ar gyfer gostyngiad yn y dreth gyngor, mae gan y cwsmer yr hawl i apelio yn erbyn adennill y gostyngiad a hawl bellach i apelio i’r Tribiwnlys Prisio. Bydd y gostyngiad yn cael ei adennill drwy gyhoeddi hawliad treth gyngor diwygiedig a dilyn yr un weithdrefn adennill ag uchod.
- Yn ystod galwadau ffôn, bydd staff, lle mae’r cwsmer yn dioddef caledi ariannol, yn ei gyfeirio at yr asiantaethau priodol.
Achosion llys
- Bydd achos llys yn cychwyn ar ôl i’r cwsmer fethu â thalu yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiad atgoffa terfynol.
- Bydd Cyngor Sir Penfro yn cyflwyno cwyn i’r Llys Ynadon er mwyn i wŷs gael ei chyhoeddi.
- Unwaith y bydd awdurdod wedi’i roi gan y llys, bydd gwŷs i ymddangos yn cael ei chyhoeddi i’r trethdalwr neu drethdalwyr, gan roi dyddiad ac amser y gwrandawiad. Bydd hyn yn arwain at gostau llys ychwanegol a fydd yn daladwy gan y cwsmer. Amgaeir nodyn cyngor yn cyfeirio’r cwsmer at yr asiantaethau priodol i geisio cyngor ar gyfer cwnsela ar ddyledion ac i wirio a oes ganddynt hawl i ostyngiad os ydynt yn cael trafferth talu.
- Cynghorir y cwsmer i gysylltu â Gwasanaethau Refeniw i drafod ad-dalu’r ddyled er mwyn osgoi gorfod mynychu’r llys.
- Yn y gwrandawiad, bydd y swyddog yn gofyn am i orchymyn atebolrwydd gael ei roi gan yr ynadon a bod costau pellach yn cael eu dyfarnu a’u talu gan y cwsmer.
Gweithdrefn ôl-lys
- Unwaith y bydd gorchymyn atebolrwydd wedi’i roi, anfonir hysbysiad at y cwsmer yn hysbysu bod gorchymyn wedi’i gael ac yn gofyn am wybodaeth ynghylch manylion eu cyflogwr, budd-daliadau nawdd cymdeithasol, incwm ac ati.
- Ar ôl derbyn yr wybodaeth hon, efallai y bydd y canlynol yn briodol:
- Atafaelu enillion
- Atafaelu cymhorthdal incwm a budd-daliadau rhagnodedig eraill
- Atafaelu lwfansau cynghorwyr
- Gorchymyn arwystlo (ond dim ond os yw’r ddyled yn fwy na £1,000)
- Methdaliad (ond dim ond os yw’r ddyled yn fwy na £5,000)
- Trefniant gyda’r cwsmer ar gyfer ad-dalu’r ddyled
- Os na fydd unrhyw wybodaeth ar gael, anfonir hysbysiad yn gofyn i’r cwsmer gysylltu â ni i drafod ad-dalu’r ddyled ac yn hysbysu y gellir cyfeirio’r ddyled at yr asiant gorfodi a’r costau ychwanegol pe bai’r ddyled yn cael ei chyfeirio at yr asiantau gorfodi.
- Cyhoeddir llythyr pellach yn hysbysu y bydd y ddyled yn cael ei throsglwyddo i’r asiant gorfodi ac yn eu hysbysu am y ffioedd ychwanegol sy’n gysylltiedig â gweithredoedd yr asiant gorfodi.
- Os na fydd ymateb, bydd cyfarwyddyd yn cael ei roi i asiantau gorfodi.
- Anfonir llythyr yn cadarnhau bod y ddyled wedi’i throsglwyddo i’r asiantau gorfodi ac y dylid gwneud unrhyw drefniadau talu gyda nhw nawr. Mae’r llythyr hwn hefyd yn cynnwys manylion yr holl ffioedd ychwanegol a fydd yn cael eu hysgwyddo yn dibynnu ar y camau a gymerir gan yr asiantau gorfodi.
Ardrethi annomestig cenedlaethol
Gweithdrefnau cyn y llys
- Cyhoeddir hawliad talu ardrethi annomestig yn rhoi rhybudd o 14 diwrnod i’r cwsmer ynghylch pryd y bydd y taliad yn ddyledus a phryd mae’r rhandaliadau’n ddyledus.
- Bydd methu â chydymffurfio â’r cynllun rhandaliadau statudol yn arwain at gyhoeddi hysbysiad, yn hysbysu’r cwsmer bod y ddyled yn daladwy o fewn saith diwrnod.
- Os telir yr hysbysiad atgoffa hwn yn llawn, ni chymerir unrhyw gamau pellach. Os bydd y cwsmer yn methu â thalu eto, rhoddir hysbysiad terfynol a bydd yr hawl i dalu mewn rhandaliadau yn cael ei cholli. Bydd y swm sy’n weddill yn dod yn ddyledus ac yn daladwy.
- Yn ystod galwadau ffôn, bydd staff, lle mae’r cwsmer yn dioddef caledi ariannol, yn ei gyfeirio at yr asiantaethau priodol.
Achosion llys
- Bydd achos llys yn cychwyn yn dilyn cyhoeddi’r hysbysiadau atgoffa perthnasol a phan fydd y swm yn parhau i fod yn ddyledus.
- Bydd Cyngor Sir Penfro yn cyflwyno cwyn i’r Llys Ynadon er mwyn i wŷs gael ei chyhoeddi.
- Unwaith y bydd awdurdod wedi’i roi gan y llys, bydd gwŷs i ymddangos yn cael ei chyhoeddi yn rhoi dyddiad ac amser y gwrandawiad. Bydd hyn yn arwain at gostau llys ychwanegol a fydd yn cael eu trosglwyddo i’r cwsmer. Cynghorir y cwsmer i gysylltu â Gwasanaethau Refeniw i drafod ad-dalu’r ddyled er mwyn osgoi gorfod mynychu’r llys.
- Yn y gwrandawiad, bydd cais i’r ynadon roi gorchymyn atebolrwydd a dyfarnu costau pellach.
Gweithdrefn ôl-lys
- Unwaith y bydd gorchymyn atebolrwydd wedi’i roi, anfonir hysbysiad at y cwsmer.
- Gofynnir i’r cwsmer gysylltu â ni i drafod ad-dalu’r ddyled.
- Os na fydd y cwsmer yn cysylltu, yna anfonir llythyr atynt yn eu hysbysu y bydd y ddyled yn cael ei hanfon at asiantau gorfodi os na fyddant yn talu neu’n ymrwymo i gytundeb talu.
- Anfonir llythyr pellach yn hysbysu am y dyddiad y gellir rhoi cyfarwyddiadau i asiant gorfodi ac unwaith eto yn gofyn am daliad neu gyswllt i drafod trefniant.
- Rhoddir cyfarwyddyd i’r asiant gorfodi a rhoddir llythyr hefyd i’r cwsmer yn rhoi cyfle olaf i dalu’n llawn ac yn hysbysu am ffioedd ychwanegol sy’n gysylltiedig â gweithredoedd yr asiantau gorfodi.
- Methdaliad (ond dim ond os yw’r ddyled yn fwy na £5,000) a lle mae’n rhaid i’r asiant gorfodi ddychwelyd y gorchymyn gan na chyrhaeddwyd cytundeb a bod nwyddau annigonol ar gyfer atafaelu.
Adennill ardrethi annomestig cenedlaethol - siart llif
Rhenti Tai
Achosion cyn y llys
- Bydd y cwsmer yn cael gwybod am y rhent wythnosol sy’n daladwy fel rhan o’u contract meddiannaeth ac wedi hynny yn cael llythyr amserlen dalu yn nodi’r rhent sy’n daladwy a’r dyddiadau dyledus.
- Mae’n ofynnol i’r cwsmer dalu ei rent yn yr wythnos gyfredol neu fel y cytunwyd gyda’r cyngor.
- Bydd achos cyfreithiol yn cychwyn os yw’r ôl-ddyledion ar y cyfrif rhent yn cyfateb i bythefnos o rent neu os yw *£20.00 yn ddyledus.
- Cyhoeddir hysbysiad atgoffa ynghyd â nodyn cyngor yn cyfeirio’r cwsmer i geisio cyngor gan yr asiantaethau priodol ar gyfer dyled a budd-daliadau os ydynt yn cael trafferth talu. Bydd ail hysbysiad atgoffa yn dilyn bythefnos yn ddiweddarach os na fydd ymateb i’r cyntaf.
- Os yw’r cwsmer yn talu’n rheolaidd ond nid yn unol â’r rhwymedigaeth rhent gyfredol, bydd y cwsmer yn derbyn llythyr atgoffa ychwanegol, yn cydnabod bod taliad wedi’i wneud ond nad yw’r ôl-ddyledion wedi’u clirio yn unol â’u contract.
- Os na fydd ymateb i’r hysbysiadau atgoffa, cynhelir ymweliad cyn-hysbysu gan y swyddogion cymorth ariannol i denantiaid priodol.
- Os na cheir ymateb i’r hysbysiadau atgoffa a bod gan y cyfrif ôl-ddyledion rhent difrifol o wyth wythnos o rent ac nad oes unrhyw faterion budd-dal tai / Costau Tai Credyd Cynhwysol na Thaliad Disgresiwn at Gostau Tai heb eu datrys, bydd un o’r hysbysiadau canlynol yn cael ei gyhoeddi: RHW23 – Hysbysiad Ceisio Meddiant
Hysbysiad Ymadael
Bydd pob hysbysiad yn cael ei gyhoeddi i bob deiliad contract, ei ddanfon â llaw gan swyddog cymorth ariannol i denantiaid neu ei anfon drwy ddanfoniad cofnodedig – os yw’n briodol (cyd-ddeiliaid contract).
- Gwneir ymgais i gysylltu â’r cwsmer dros y ffôn / drwy neges destun / drwy neges e-bost a llythyr cyswllt.
- Yn ystod galwadau ffôn, bydd staff, lle mae’r cwsmer yn dioddef caledi ariannol, yn eu cyfeirio at y Tîm Cymorth Ariannol i Denantiaid a/neu asiantaethau priodol.
- Cyhoeddir cais am daliad yn uniongyrchol o fudd-daliadau perthnasol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau lle bo’n briodol.
- Os na fydd cytundeb wedi’i gyrraedd ar ôl 28 diwrnod ac nad oes unrhyw faterion heb eu datrys ynghylch budd-dal tai / Costau Tai Credyd Cynhwysol / Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai, bydd llythyr cyswllt pellach (llythyr gwrandawiad llys) yn cael ei anfon, yn rhybuddio am y bwriad i wneud cais i’r llys sirol am ddyddiad gwrandawiad ac i gysylltu â’r Gwasanaethau Refeniw i drafod opsiynau o fewn saith diwrnod. Wedi’i amgáu gyda’r llythyr hwn bydd mewnosodiad sy’n cyfeirio’r cwsmer at gyrff mewnol ac allanol a allai eu cynorthwyo gydag unrhyw faterion tai neu faterion ariannol.
- Mae’r Swyddog Refeniw yn cysylltu i drefnu ymweliad cartref / cyfweliad cyn y gwrandawiad llys i geisio cael deiliad/deiliaid y contract i ymgysylltu a thrafod yr amgylchiadau / gwneud trefniadau talu er mwyn osgoi achos llys.
*D.S. Mae’r trothwy ariannol o £20 yn ymwneud yn bennaf â deiliaid contract / deiliaid trwydded sy’n derbyn cymorth ariannol tuag at eu rhent neu sydd â rhywfaint o hawl ond nid hawl lawn i fudd-dal tai / Costau Tai Credyd Cynhwysol.
Cyhoeddir RHW23 – Hysbysiad Ceisio Meddiant neu Hysbysiad Ymadael yn erbyn unrhyw ddeiliad contract / deiliad trwydded sydd â dyled o dros £50.00 lle nad oes cytundeb talu derbyniol wedi’i gyrraedd.
Achosion llys
- Bydd methu â chynnal taliadau rhent yn arwain at achos cyfreithiol yn cychwyn yn y llys sirol.
- Ar ôl derbyn dogfennau’r llys a gyhoeddwyd gan y llys sirol, anfonir llythyr at y cwsmer yn ei hysbysu o ddyddiad ac amser y gwrandawiad. Bydd ymgais bellach i gael taliad uniongyrchol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei chwblhau.
- Ar gais cychwynnol i’r llys, mae costau’n daladwy gan y cyngor a chânt eu hadennill oddi wrth y cwsmer yn unol â chyfarwyddyd y llys.
- Unwaith y bydd yr achos wedi’i glywed, bydd llythyr a chopi o’r gorchymyn llys yn cael eu hanfon at y cwsmer yn cadarnhau canlyniad yr achos llys.
- Os na fydd y cwsmer yn cydymffurfio â’r telerau a nodir yn y gorchymyn llys, gwneir ymdrechion i gysylltu â nhw dros y ffôn / drwy neges destun / drwy neges e-bost / ymweliad gan y Tîm Cymorth Ariannol i Denantiaid.
- Bydd llythyr yn cael ei anfon at y cwsmer yn rhoi cyfle iddynt ddiweddaru eu gorchymyn dyfarniad gan y llys sirol. Cynhelir gwiriad pellach hefyd ar gyfer unrhyw faterion budd-dal tai / Credyd Cynhwysol.
Gweithdrefnau ôl-lys
- Os na fydd y cwsmer yn talu’r swm sy’n ddyledus ar y gorchymyn llys, bydd cais am ddyddiad gwrandawiad llys pellach yn cael ei wneud i’r llys sirol.
- Yn dibynnu ar y gorchymyn a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y llys, bydd hyn ar gyfer gwrandawiad wedi’i adfer, cais am feddiant neu i wneud cais am droi allan.
- Gall costau llys pellach fod yn berthnasol yn dibynnu ar ba orchymyn a gyhoeddwyd gan y llys yn flaenorol; byddai’r costau hyn yn cael eu hadennill oddi wrth y cwsmer ar gyfarwyddiadau gan y llys.
- Gwneir cais am daliadau uniongyrchol hefyd i’r Adran Gwaith a Phensiynau os yw budd-dal perthnasol yn cael ei dalu.
- Os bydd gwarant troi allan wedi’i rhoi gan y llys, bydd y cwsmer yn cael gwybod am ddyddiad ac amser y troi allan a bydd opsiynau’n cael eu darparu i dalu’n llawn neu wneud cais i’r llys am wrandawiad pellach i atal y troi allan.
- Bydd y cwsmer hefyd yn cael ei gyfeirio at ein gwasanaethau tai, Cyngor ar Bopeth, Shelter Cymru neu asiantaethau priodol eraill. Byddai swyddog o’r cyngor hefyd yn mynychu’r eiddo i wirio bod y cwsmer yn dal i fod yn bresennol ac i drafod eu hopsiynau gyda nhw(ymweliad cyn troi allan).
- Mae pob llythyr a gyhoeddir hefyd yn cynnwys manylion cyrff mewnol ac allanol a allai fod yn gallu cynorthwyo’r cwsmer gydag unrhyw faterion tai neu ariannol.
- Yn ystod galwadau ffôn, lle nodir bod y cwsmer yn dioddef caledi ariannol, cânt eu cyfeirio at yr asiantaethau priodol.
Ôl-ddyledion rhent cyn-denantiaid
- Bydd y cyngor yn mynd ar drywydd ôl-ddyledion rhent cyn-denantiaid yn weithredol.
- Cyhoeddir llythyrau atgoffa yn rheolaidd i annog ymgysylltiad ac i sefydlu cynllun ad-dalu lle na ellir talu’r ôl-ddyledion rhent yn llawn.
- Lle nad yw’r cwsmer yn cysylltu, bydd y ddyled yn cael ei throsglwyddo i asiant gorfodi.
adennill rhenti talu - siart llif
Rhenti Garej
- Bydd pob cwsmer yn cael llythyr tenantiaeth yn nodi swm y rhent a’r dyddiad y mae’n ddyledus.
- Mae’n ofynnol i’r cwsmer dalu ei rent yn yr wythnos gyfredol neu fel y cytunwyd gyda’r cyngor. Bydd methu â chynnal eu taliadau rhent yn arwain at gychwyn camau adennill.
- Bydd achos cyfreithiol yn cychwyn os yw’r ôl-ddyledion ar y cyfrif rhent yn cyfateb i chwe wythnos o rent heb ei dalu.
- Cyhoeddir ail hysbysiad atgoffa, bythefnos ar ôl y cyntaf, os nad yw’r cyfrif wedi’i ddiweddaru.
- Cyhoeddir trydydd hysbysiad atgoffa, bythefnos ar ôl yr ail, os nad yw’r cyfrif wedi’i ddiweddaru.
- Os na dderbyniwyd ymateb ar ôl cyhoeddi’r trydydd hysbysiad atgoffa a bod gan y cyfrif ddyledion o dros £50.00, bydd hysbysiad ymadael garej yn cael ei gyhoeddi a’i ddanfon â llaw gan y Tîm Cymorth Ariannol i Denantiaid neu’r Tîm Rheoli Tenantiaethau.
- Os na fydd cytundeb wedi’i gyrraedd ar ôl 28 diwrnod, anfonir llythyr pellach yn hysbysu mai bwriad y cyngor yw trefnu i’r cloeon ar y garej gael eu newid ac i’r cwsmer drefnu i’r holl eiddo gael ei symud.
- Ar ôl i’r cyfnod o 28 diwrnod ddod i ben, os na dderbynnir taliad neu os na wneir trefniant, gwneir cais i’r Gwasanaethau Tai drefnu i’r cloeon gael eu newid.
- Yn ystod galwadau ffôn, bydd staff, lle mae’r cwsmer yn dioddef caledi ariannol, yn eu cyfeirio at yr asiantaethau priodol.
Adennill rhent garej heb ei dalu - siart llif
Gordaliadau budd-dal tai
- Bydd anfonebau’n cael eu codi o fewn saith diwrnod ar ôl i benderfyniad ar y gordaliad gael ei wneud.
- Bydd anfonebau’n cael eu cyhoeddi’n wythnosol.
- Bydd anfonebau’n cynghori’r cwsmer i wneud trefniant talu gyda’r cyngor neu, os yw’r cwsmer yn cael anawsterau ariannol wrth dalu ei ddyledion, i gysylltu â’r asiantaethau priodol.
- Rhaid i’r Tîm Rheoli gadw pob anfoneb dros £1,000.00 a rhaid i bob anfoneb gael ei gwirio gan staff budd-daliadau. Ni fydd anfoneb yn cael ei hanfon nes iddi gael ei gwirio fel un cywir.
- Bydd anfonebau’n cynnwys cynnig o randaliadau. Y rhandaliad lleiaf yw £10.00.
- Gall uwch-swyddog refeniw dderbyn lefel is o randaliad ar ôl cwblhau ffurflen datganiad o fodd.
- Bydd camau atgoffa yn digwydd pan na dderbynnir ad-daliad neu pan fydd yr hawlydd yn methu â thalu cynllun rhandaliadau a drefnwyd. Mae hysbysiadau atgoffa’n cael eu codi â llaw gan y Cynorthwyydd Refeniw – Dyledwyr.
- Cyhoeddir hysbysiadau atgoffa bythefnos ar ôl y dyddiad talu dyledus ac maent hefyd yn cynghori cwsmeriaid i gysylltu â’r cyngor i wneud trefniant neu, os oes angen cymorth arnynt gyda’u dyled, i gysylltu â’r asiantaethau priodol.
- Cyhoeddir hysbysiadau terfynol ar ôl pythefnos arall. Rhaid gwneud gwiriadau pellach ynghylch dulliau posibl eraill o adennill, trwy ddefnyddio’r System Gwybodaeth Cwsmeriaid i wneud didyniadau o fudd-daliadau eraill.
- Ar ôl pythefnos pellach, cyfeiriwch at yr asiantaeth orfodi / yr Adran Gwaith a Phensiynau.
- Yn ystod galwadau ffôn, bydd staff, lle mae’r cwsmer yn dioddef caledi ariannol, yn ei gyfeirio at yr asiantaethau priodol.
Dewisiadau adennill:
- O ôl-ddyledion budd-dal tai sy’n dod yn daladwy tra bo gordaliad heb ei dalu (Rheoliad Budd-dal Tai 102 a Chredyd Pensiwn y Wladwriaeth 83)
- Drwy ddidynnu o fudd-daliadau tai parhaus, yn amodol ar y cyfraddau adennill uchaf (Rheoliad Budd-dal Tai 102 (2) a (3) a Chredyd Pensiwn y Wladwriaeth 83(2) a (3))
- Drwy ddidyniad o fudd-daliadau tai parhaus partner, cyn belled â bod yr hawlydd a’r partner yn gwpl ar yr adeg y digwyddodd y gordaliad a phan wneir didyniadau (Rheoliad Budd-dal Tai 102 (1ZA) a Chredyd Pensiwn y Wladwriaeth 83 (1ZA))
- Drwy ddidynnu o rai budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau (Rheoliad Budd-dal Tai 105 / Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 86)
- Drwy achos sifil (Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992, adran 75 (is-adran 7) ac adran 76 (is-adran 6))
- Drwy ‘anfonebu’ yr unigolyn yr effeithir arno am y swm sy’n ddyledus (Rheoliad Budd-dal Tai 102)
- Drwy wneud cais i awdurdod lleol arall i ofyn iddynt ddidynnu’r gordaliad o hawlogaeth barhaus yr hawlydd i fudd-dal tai yn eu hardal (arfer da yn unig – heb ei lywodraethu gan reoliadau)
- Drwy ddebydu gordaliad ad-daliad rhent i gyfrif rhent y cwsmer, ond rhaid i chi wahanu gordaliadau budd-dal tai rhag ôl-ddyledion rhent gwirioneddol
- Drwy adennill o fudd-dal tai a delir i landlord/asiant ar gyfer cwsmer arall, h.y. pan fydd y landlord wedi’i ddosbarthu fel un sy’n gyfrifol am dalu dyled (a elwir weithiau’n ‘adennill uniongyrchol oddi wrth landlordiaid’) (Atodlen 9 y Rheoliadau Budd-dal Tai, adran 5(6) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992, Rheoliad Budd-dal Tai 102(1) a Rheoliad Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 83(1))
- O ystad unigolyn ymadawedig a gafodd ordaliad
- Drwy atafaelu enillion yn uniongyrchol (Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Gordaliadau ac Adennill)2013, Rhan 6; adran 71ZD o’r Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol; Rheoliadau Budd-dal Tai 2006, paragraff 106A; Rheoliadau Budd-dal Tai (Credyd Pensiwn y Wladwriaeth), paragraff87°
Camau asiantau gorfodi
- Bydd dyledion heb eu talu yn cael eu cyfeirio at asiantaeth orfodi allanol.
- Gwneir gwiriad bob chwe mis gyda’r asiantaeth orfodi i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddyledion sydd heb eu talu. Gwneir gwiriad budd-daliadau ar bob achos a gyfeirir at yr asiantaeth orfodi bob chwe mis i weld a yw dull adennill amgen yn fwy priodol.
- Derbynnir taliadau gan yr asiantaeth orfodi yn rheolaidd (h.y. bob wythnos / bob pythefnos).
- Bydd anfoneb yn cael ei hanfon gan yr asiantaeth orfodi gyda phob taliad a dderbynnir, gan ofyn am 10% o weddill y siec a dderbyniwn.
- Pan nad yw’r asiantaeth orfodi yn gallu olrhain y dyledwr, na gorfodi taliad, bydd y ddyled yn cael ei dychwelyd i’r awdurdod lleol.
- Olrhain pobl – gwneir gwaith olrhain yn y lle cyntaf ac eto chwe mis yn ddiweddarach. Gwneir gwiriadau pellach 12 mis cyn dileu’r dyledion. Ffynonellau ar gyfer olrhain yw:
- Y System Gwybodaeth Cwsmeriaid
- Y Rhwydwaith Gwrth-dwyll Cenedlaethol – asiantaeth olrhain
- Cronfa ddata’r dreth gyngor / budd-dal tai
- Cyn-landlord/teulu
Atal/terfynu adennill
Bydd adennill yn cael ei atal lle mae anghydfod/apêl ar y gweill – nid oes gofyniad cyfreithiol i wneud hynny, ond fe’i hystyrir yn arfer da. Wrth benderfynu terfynu’r broses adennill a dileu’r ddyled, bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Mae’r rhestr ganlynol yn rhoi enghreifftiau o ble y gellir ystyried dileu dyledion:
- Pan nad oes modd casglu’r swm oherwydd methdaliad/ansolfedd.
- Pan na ellir olrhain y dyledwr.
- Pan fo cyfeiriad anfon ymlaen dyledwr y tu allan i Loegr, Cymru neu Ogledd Iwerddon, ac o ganlyniad yn anorfodadwy gan asiantaeth orfodi.
- Pan fydd dyledwr wedi marw. Mae anfoneb wedi’i chyhoeddi i’r ysgutorion, ond ni chymerwyd unrhyw gamau gorfodi pellach.
- Pan ystyrir ei bod yn aneconomaidd i’r cyngor gasglu’r ddyled.
- Pan fydd oedran y ddyled yn atal adennill neu pan fydd ganddi statws wedi’i wahardd.
- Pan fydd pob llwybr adennill wedi’i ddilyn.
Pan gymeradwyir dileu balans ac, yn ddiweddarach, sefydlir cyfeiriad anfon ymlaen, neu pan wneir hawliad newydd am fudd-dal, bydd y gwaith dileu yn cael ei wrthdroi a bydd gweithdrefnau casglu yn cael eu hailgychwyn.
Cymerir camau llys lle bo’n briodol ynghylch dyledion yn sgil gordaliadau budd-dal tai.
Adennill gordaliadau budd-dal tai - siart llif
Mân ddyledwyr
Gweithdrefn cyn y llys
- Codir anfoneb unwaith y derbynnir cyfarwyddyd gan yr adran berthnasol.
- Mae pob anfoneb ar gyfer mân ddyledion yn daladwy ar unwaith ar ôl ei chyhoeddi.
- Mae anfonebau cyfnodol yn daladwy ar y dyddiad dyledus penodedig.
- Pan nad yw’r cwsmer yn gallu talu ar unwaith mewn un taliad cyfandaliad, gwneir cytundeb gyda’r cwsmer i dalu mewn rhandaliadau ac o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol.
- Pan nad yw’r cwsmer yn gallu talu’r ddyled gyfredol o fewn y flwyddyn ariannol, yna gellir cynnig cynllun talu estynedig gyda’r ddyled yn cael ei chlirio o fewn cyfnod o 12 mis.
- Pan na ellir clirio’r ddyled o fewn y cyfnod o 12 mis, yna bydd yn ôl disgresiwn y Rheolwr Cyfrifon Derbyniadwy i gytuno ar y cynllun ad-dalu a gynigir. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu’n flynyddol.
- Pan drefnir cytundeb, anfonir llythyr/e-bost yn cadarnhau’r dyddiad talu y cytunwyd arno a’r swm, ac yn gofyn i gysylltu â’r cyngor os na allant gadw at y trefniant.
- Bydd nodyn cyngor yn cyfeirio’r cwsmer at yr asiantaethau priodol wedi’i amgáu os ydynt yn profi anawsterau ariannol.
- Os na all y swyddog ddod i gytundeb ad-dalu rhesymol neu os oes diffygdaliad yn y cynllun talu, bydd y mater yn mynd ymlaen i’r broses adennill dyledion.
- Os na cheir ymateb yn dilyn yr anfoneb, bydd y mater yn mynd ymlaen trwy’r broses adennill dyledion, fel a ganlyn:
- Llythyr: Nodyn atgoffa un – 14 diwrnod i ymateb neu wneud taliad
- Llythyr: Nodyn atgoffa dau – 14 diwrnod i ymateb neu wneud taliad
- Ceisio cysylltu ar ôl 38 diwrnod dros y ffôn neu drwy neges e-bost
- Adolygu’r mater i’w uwchgyfeirio ar ôl 45 diwrnod ar gyfer adennill dyledion cyfreithiol
- Yn ystod galwadau ffôn, bydd staff, lle mae’r cwsmer yn dioddef caledi ariannol, yn ei gyfeirio at yr asiantaethau priodol.
- Rhaid i bob gwasanaeth ddilyn gweithdrefnau mewnol cyn atgyfeirio at y gyfraith, gan gynnwys darparu crynodeb o’r camau a gymerwyd cyn gofyn am atgyfeirio dyled.
- Bydd cyfeirio hawliadau at y gyfraith yn cael ei wneud fel dewis olaf. (Os oes risg o gost bosibl i’r awdurdod pe bai’n methu ag adennill y costau/dyled, dylid cyfeirio hyn at y Prif Swyddog Cyllid cyn gynted â phosibl.)
Achosion llys
- Os yw’r anfoneb yn parhau i fod heb ei thalu yn dilyn y cam cychwynnol o adennill y ddyled, caiff cyfarwyddiadau eu huwchgyfeirio i’r adran gyfreithiol a bydd Llythyr Cyn Gweithredu yn cael ei gyhoeddi yn amlinellu natur yr hawliad ac yn darparu dyddiad cau i ymateb.
- Os bydd ymateb o fewn yr amserlen a chynllun talu rhesymol wedi’i drefnu, cyfeirir y mater yn ôl i’r adran mân ddyledion i fonitro taliadau.
- Os na cheir ymateb i’r Llythyr Cyn Hawlio, cyhoeddir hawliad llys sirol am y swm sydd heb ei dalu. Ychwanegir costau llys ynghyd â llog at y swm sy’n ddyledus ar y cam hwn, gan gynyddu atebolrwydd y cwsmer.
- Bydd methu ag ymateb i’r hawliad llys yn arwain at ddyfarniad llys sirol, gan gynyddu’r costau a’r llog sy’n daladwy gan y cwsmer.
- Gellir rhoi cynnig taliad ar unrhyw adeg yn ystod yr achos ac, os caiff ei dderbyn, bydd y gorchymyn llys yn adlewyrchu hynny.
Ar ôl yr achos llys
Ar ôl derbyn y dyfarniad, cyhoeddir llythyr dyfarniad yn amlinellu’r bwriad i orfodi’r dyfarniad os na wneir taliad o fewn amser penodedig.
Os na fydd y dyfarniad yn cael ei dalu, cymerir un neu fwy o’r camau gorfodi canlynol, a fydd yn arwain at gostau llys ychwanegol a fydd yn cael eu trosglwyddo i’r cwsmer:
- Gorchymyn i fynychu’r llys
- Atafaelu enillion
- Asiantaeth orfodi’r llys sirol
- Gorfodi gan yr Uchel Lys
- Arwystl cyfreithiol dros eiddo
- Gorchymyn dyled trydydd parti
Nid rhestr gynhwysfawr yw hon a bydd y dewis o gamau gorfodi yn cael ei bennu fesul achos.
Dyledwyr gwasanaethau cymdeithasol (preswyl a dibreswyl)
Mae adran 70 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi darpariaethau cyffredinol ar gyfer adennill dyledion gwasanaethau cymdeithasol. Mae Rhan 4 a 5 o’r Cod Ymarfer (Codi Tâl ac Asesiad Ariannol) a rheoliadau perthnasol yn darparu gofynionpenodol ar gyfer adennill dyledion.
Yr awdurdod lleol:
- Bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau yn seiliedig ar anghenion a nodweddion yr unigolyn, gan gynnwys unrhyw bosibilrwydd ei fod yn agored i niwed.
- Bydd yn sicrhau bod yr unigolyn dan sylw yn deall natur y ddyled sydd wedi digwydd a chanlyniadau hyn.
- Bydd yn cymryd pob cam rhesymol i ganfod y rheswm dros y ddyled yn cronni a dim ond lle mae’n amlwg ei fod o ganlyniad i ddiffyg taliad bwriadol gan unigolyn y bydd y broses adfer dyledion yn cael ei gweithredu.
- Bydd yn mynd ar drywydd pob opsiwn rhesymol arall i gasglu’r ddyled cyn defnyddio pwerau adennill dyledion.
- Bydd yn cydymffurfio ag amserlenni deddfwriaethol ar gyfer adennill dyledion cronedig.
Gweithdrefn cyn y llys
- Caiff anghenion gofal a chymorth eu nodi yn ystod ein proses asesu.
- Bydd cynllun gofal a chymorth yn cynnwys pa ofal a chymorth a ddarperir a chan bwy.
- Mae gweithwyr cymdeithasol yn darparu gwybodaeth i’r cwsmer[1] am daliadau gofal.
- Cyhoeddir anfoneb bob pedair wythnos am wasanaethau a dderbynnir o fewn y cyfnod hwnnw. Mae’r taliad yn ddyledus o fewn 14 diwrnod.
- Os nad yw’r cwsmer wedi talu o fewn 14 diwrnod i ddyddiad yr anfoneb, bydd hysbysiad atgoffa yn cael ei anfon.
- Gall y cwsmer gael cymorth drwy’r broses hon gan deulu, ffrind neu drydydd parti fel eiriolwr.Mae manylion cyswllt yr eiriolaeth am ddim sydd ar gael i bob cwsmer wedi’u cynnwys yn ein llythyrau a’r taflenni ffeithiau sydd ar gael gennym.
- Yn ystod trafodaethau wyneb yn wyneb, galwadau ffôn, ac mewn gohebiaeth, bydd y cwsmer yn cael ei gyfeirio at yr asiantaethau priodol os yw’n dioddef caledi ariannol.
- Byddwn yn gweithredu’r broses adennill dyledion gofal cymdeithasol a amlinellir isod mewn saith cam.
Unwaith y bydd y tâl wedi’i gadarnhau, ein proses ar gyfer adennill dyledion yw:
Cam 1 Anfon y llythyr atgoffa cyntaf am anfoneb 14 diwrnod ar ôl yr anfoneb gychwynnol.
Cam 2 Anfon y llythyr atgoffa awtomatig am ddyled 14 diwrnod ar ôl y llythyr atgoffa cyntaf (Cam 1). Mae’r llythyr hwn yn gwahodd cwsmeriaid i drefnu taliad neu i gysylltu â’r tîm adennill dyledion gofal cymdeithasol i gael unrhyw wybodaeth, cyngor neu arweiniad.
Rydym yn cynghori cwsmeriaid yn gryf i geisio cefnogaeth gan eiriolwyr neu gyngor cyfreithiol – 14 diwrnod ar ôl y llythyr atgoffa cyntaf.
Cam 3 Llythyr adennill dyled cyntaf – yn gwahodd cwsmeriaid i gyfarfod â’n tîm adennill dyledion i drafod trefniadau talu neu adolygu cyllid. Anfonir y llythyr hwn 28 diwrnod ar ôl y llythyr adennill dyled awtomatig (Cam 2).
Os yw cwsmeriaid yn cynorthwyo rhywun oherwydd nad oes ganddo’r gallu i reoli ei faterion ariannol, bydd y cyfarfod hwn yn ein galluogi i weithio gyda nhw tra byddant efallai’n mynd trwy faterion dirprwyaeth/ atwrneiaeth neu brofiant.
Fel rhan o’r adolygiad cyllid hwn, os codir unrhyw bryderon ynghylch rheoli arian y defnyddiwr gwasanaeth, bydd y tîm yn ceisio cyngor gan y tîm diogelu oedolion.
Os amheuir bod asedau wedi’u colli neu os bydd ymholiadau eraill ynghylch cyfalaf yn codi yn ystod y broses adennill dyledion, ceisir cyngor gan ein tîm cyfreithiol.
Os yw eiddo o dan enw’r defnyddiwr gwasanaeth yn hysbys, i sicrhau’r ddyled bydd yr awdurdod lleol yn gosod tâl adran 71 yn unol â Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru), Rheolau Cofrestru Tir 2003 a Rheoliadau Rheolau Cofrestru Tir (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
Cam 4 Ail lythyr adennill dyledion – yn annog cwsmeriaid i gysylltu i ddatrys y sefyllfa gyda’i gilydd cyn gynted â phosibl. Anfonir y llythyr hwn 28 diwrnod ar ôl y llythyr adennill dyledion cyntaf (Cam 3).
Os oes angen, gall cwsmeriaid ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Os nad ydyn nhw’n cytuno â’r pecyn gofal, gallant wneud cwyn swyddogol ac, os ydyn nhw’n credu bod eu tâl wedi’i gyfrifo’n anghywir, mae ganddyn nhw’r hawl i apelio.
Yn ystod y cyfnod apelio neu gwyno, bydd y broses adennill dyledion yn cael ei gohirio ond bydd anfonebau ar gyfer y cyfraniad gofal yn dal i gael eu codi hyd nes y bydd y sefyllfa wedi’i setlo. Bryd hynny, efallai y bydd y cyfraniad gofal yn cael ei ddiwygio, a gall yr anfonebau blaenorol gael eu canslo a bydd anfonebau newydd gyda’r cyfraniad diwygiedig newydd yn cael eu codi.
Cam 5 Llythyr adennill dyled terfynol – anfonir y llythyr hwn 28 diwrnod ar ôl yr ail lythyr adennill dyled (Cam 4).
Os yw’r anfonebau’n parhau heb eu talu ac nad yw cwsmeriaid wedi ymgysylltu â’r tîm dyledion, bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at ein tîm cyfreithiol. Rydym yn annog cwsmeriaid i gyfarfod yn bersonol cyn gynted â phosibl i ddod o hyd i ateb i’r ddyled trwy gyfryngu pellach gyda’r timau cyllid a gwaith cymdeithasol.
Bydd y tîm cyfreithiol yn adolygu’r holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r ddyled. Bydd ein tîm cyfreithiol yn ysgrifennu i hysbysu cwsmeriaid bod yr achos wedi’i gyfeirio atynt.
Cam 6 Bydd ein tîm cyfreithiol yn adolygu’r achos ac yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ag achos llys i adennill y ddyled. Bydd y tîm cyfreithiol yn hysbysu cwsmeriaid am unrhyw gostau ychwanegol, megis ffioedd llys a thaliadau llog, sy’n ymwneud â’r ddyled. Dyma’r cyfle olaf i setlo’r ddyled neu drefnu cynllun talu.
Cam 7 Clywed yr achos yn y llys.
Mae achos llys yn ddewis olaf i’r tîm. Rydym yn cynghori cwsmeriaid i siarad â ni cyn gynted â phosibl fel y gellir gwneud trefniadau talu. Ym mhob cam yn y broses, gwahoddir cwsmeriaid i drafod y sefyllfa gydag eiriolwr, ceisio cyngor cyfreithiol, neu gael sgwrs gyda gweithiwr cymdeithasol neu unrhyw unigolyn arall sy’n gallu eu cefnogi.
Proses adennill dyledion gwasanaethau cymdeithasol - siart llif