Polisïau a Gweithdrefnau

Polisi Chwythu'r Chwiban

Trosolwg

  • Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r hyn y dylech ei wneud os byddwch yn amau bod rhywbeth sy'n digwydd yn y gwaith yn eich rhoi chi neu bobl eraill mewn perygl, neu'n anghyfreithlon neu'n anfoesegol.
  • Nod y polisi yw rhoi sicrwydd i gyflogeion y gallant godi pryderon am ymddygiad anfoesegol heb ofni erledigaeth, gwahaniaethu nac anfantais o ganlyniad i hynny.
  • Mae'n berthnasol i bob cyflogai, contractwr, ymgynghorydd, swyddog, gweithiwr dros dro a gweithiwr asiantaeth.

Beth yw Chwythu'r Chwiban?

  • Ein nod yw cynnal y safonau uchaf o uniondeb ym mhopeth a wnawn ond gall ymddygiad sy'n beryglus, yn anghyfreithlon neu sy'n torri codau moesegol neu broffesiynol effeithio ar bob sefydliad o bryd i'w gilydd. Os bydd gennych bryderon o'r fath, fe'ch anogir i roi gwybod amdanynt yn ddi-oed - gelwir hyn yn 'chwythu'r chwiban'. Gallwch fod yn sicr y byddwn yn cymryd eich pryderon oddifrif. Ymchwilir yn drylwyr iddynt ac ni fydd unrhyw ddial.
  • Ymhlith y mathau o bryderon y gallech fod am eu codi gyda ni drwy chwythu'r chwiban mae'r canlynol:
    • unrhyw weithgaredd rydych yn amau ei fod yn drosedd
    • unrhyw weithgaredd rydych yn amau ei fod yn peryglu iechyd a diogelwch
    • unrhyw weithgaredd rydych yn amau a allai niweidio'r amgylchedd
    • unrhyw weithgaredd rydych yn amau ei fod yn gamwedd
    • unrhyw weithgaredd rydych yn amau ei fod yn mynd yn groes i'n polisi ar lwgrwobrwyaeth a llygredigaeth
    • unrhyw fethiant i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol neu reoliadol
    • unrhyw fethiant i fodloni gofynion proffesiynol
    • unrhyw ymgais i gelu un neu fwy o'r gweithgareddau hyn.

Nid oes angen i chi brofi bod yr hyn a honnir gennych wedi digwydd neu'n debygol o ddigwydd; bydd amheuaeth resymol yn ddigonol. Siaradwch ag un o'r bobl benodedig a restrir os nad ydych yn siŵr  p'un a gaiff rhywbeth rydych wedi dod yn ymwybodol ohono ei gwmpasu gan y polisi hwn.

Dylid nodi nad yw'r polisi hwn yn cwmpasu unrhyw beth sy'n ymwneud â chi'n bersonol - sut mae pobl eraill yn eich trin, er enghraifft. Yn yr achos hwn, dylech gyfeirio at ein polisïau ar Aflonyddu a Bwlio ac yna ein gweithdrefn gwyno am ganllawiau ar ba gamau i'w cymryd. Llawlyfr i cyflogai. Mae'r weithdrefn chwythu'r chwiban hon yn bennaf ar gyfer pryderon lle mae buddiannau pobl eraill neu fuddiannau'r Awdurdod hwn mewn perygl.

Sut i godi pryder drwy chwythu'r chwiban

Er mwyn sicrhau bod eich pryder yn cael ei ddiogelu, dylech ei godi yn y ffordd gywir.

  • Fel cam cyntaf, dylech godi pryderon fel arfer gyda'ch rheolwr neu'ch Pennaeth Gwasanaeth. Os ydych yn gweithio mewn ysgol, gallwch gysylltu â'r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr, neu'r Llywodraethwr sydd wedi'i enwebu i ddelio ag achosion o Chwythu'r Chwiban. Dylai cynghorwyr godi pryderon gyda'r Swyddog Monitro. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar ba mor ddifrifol a sensitif yw'r materion dan sylw, a'r sawl yr amheuir eu bod wedi camymddwyn.
  • Os na allwch siarad â'ch rheolwr llinell neu Bennaeth Gwasanaeth, dylech nodi'r pryder ar bapur, ei godi dros y ffôn neu drefnu i gwrdd ag un o'r unigolion canlynol a elwir yn 'bersonau penodedig' at ddibenion Chwythu'r Chwiban, a fydd yn gallu derbyn eich pryder a rhoi cyngor ac arweiniad ar y weithdrefn i'w dilyn:

Os yw'r pryder yn ymwneud â mater amddiffyn plant, rhaid i chi gysylltu â Thîm Asesu Gofal Plant yr Awdurdod ar 01437  776444 neu 03003 332222 (y Tu Allan i Oriau) a gofyn am y Rheolwr ar Ddyletswydd ( os bydd y tu allan i oriau gwaith arferol ebost- CCAT@pembrokeshire.gov.uk 

  • Ar gyfer unrhyw bryder, os ydych yn aelod o Undeb Llafur, gallwch gysylltu â Chynrychiolydd eich Cangen neu'ch Swyddfa Ranbarthol i ofyn iddynt godi mater ar eich rhan.
  • Gallwch gysylltu â’r tîm Cyngor AD yn uniongyrchol.
  • Dylai eich llythyr nodi eich bod yn codi eich pryderon o dan y polisi hwn a dylech gynnwys y canlynol:
    • cefndir a hanes y pryder (gan roi ffeithiau allweddol perthnasol, enwau'r bobl dan sylw, dyddiadau a lleoliadau);
    • y rheswm pam eich bod yn pryderu'n arbennig am y sefyllfa.

Sut bydd yr Awdurdod yn ymateb

  • Bydd aelod o’r tîm Cyngor AD, sydd wedi derbyn hyfforddiant Gweithdrefnau Chwythu’r Chwiban, yn ogystal â’r rheolwr priodol, yn eich gwahodd i fynychu cyfarfod i drafod eich pryderon, a gallwch ddod â chydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda chi i'r cyfarfod hwn ac unrhyw gyfarfodydd dilynol. Os byddwch yn dod â chydymaith gyda chi, rhaid i'r ddau ohonoch gytuno i gadw'r hyn y byddwch yn ei ddatgelu yn gyfrinachol cyn ac ar ôl y cyfarfod ac yn ystod unrhyw ymchwiliad dilynol posibl. Ni ddylai fod unrhyw oedi o ran cyhoeddi’r gwahoddiad i gyfarfod o fewn saith diwrnod calendr o dderbyn eich mater o bryder
  • Ar ôl y cyfarfod cychwynnol, byddwn yn mynd ati i ymchwilio i'ch pryderon ac efallai y gofynnir i chi fynychu cyfarfodydd pellach. Er mwyn ymchwilio i'ch pryderon yn briodol, efallai y byddwn yn galw ar arbenigwyr â gwybodaeth neu brofiad penodol o'r materion a godwyd gennych. Fel rhan o’r broses, bydd ‘Cylch Gorchwyl’ yn cael ei lunio a chytunir ar amserlen.
  • Cewch eich hysbysu am hynt ein hymchwiliadau a pha mor hir y  maent yn debygol o gymryd, bydd sut a phryd y byddwn yn eich diweddaru yn cael ei gytuno yn y cyfarfod cychwynnol.Fodd bynnag, weithiau, efallai na fyddwn yn gallu rhoi manylion yr ymchwiliad i chi (neu unrhyw gamau y bydd yr ymchwiliad yn arwain atynt) gan fod angen i ni ddiogelu cyfrinachedd. Deallwn y gall hyn achosi rhwystredigaeth a phryder ynghylch p'un a ydym wedi gwneud unrhyw beth o gwbl. Os bydd hyn yn digwydd, gwnawn ein gorau i egluro pam ein bod yn ymddwyn yn y ffordd hon.
  • Byddwn yn ymdrin â'ch pryderon mewn ffordd deg, ond ni allwn warantu y byddwch yn fodlon ar ganlyniad ein hymchwiliad. Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym wedi cynnal yr ymchwiliadau, gallwch gyfeirio'r mater at un o'n cyfarwyddwyr i'w ystyried ymhellach.
  • Yn achos honiad yn erbyn aelod etholedig, caiff y mater ei ystyried, yn y lle cyntaf, gan y Swyddog Monitro neu'r Prif Weithredwr, a all gyfeirio'r mater at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (os yw'n briodol).
  • Fel arfer, caiff pryderon neu honiadau sy'n disgyn o fewn cwmpas gweithdrefnau penodol (er enghraifft, materion amddiffyn plant neu wahaniaethu) eu cyfeirio i'w hystyried o dan y gweithdrefnau hynny.
  • Ni fydd yr Awdurdod yn goddef unrhyw achosion o erlid nac aflonyddu ar "chwythwyr chwiban" gan gynnwys pwysau anffurfiol, a bydd yn trin hyn fel achos disgyblu difrifol yr ymdrinnir ag ef o dan y rheolau a'r gweithdrefnau disgyblu perthnasol. Os byddwch yn destun unrhyw driniaeth niweidiol o ganlyniad i'r ffaith eich bod wedi "chwythu'r chwiban", dylech godi'r mater yn syth gyda'r rheolwr llinell fel bod modd ymchwilio i'r mater yn drylwyr ac yn ddi-oed.

Cyfrinachedd ac anhysbysrwydd

  • Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng eisiau cadw eich pryderon yn gyfrinachol a gwneud datgeliad yn ddi-enw. Nid ydym yn annog achosion o chwythu'r chwiban yn ddi-enw.
  • Cewch eich annog bob amser i godi eich pryderon yn agored ac, os byddai'n well gennych wneud hynny'n gyfrinachol, gwnawn ein gorau glas i sicrhau y caiff eich manylion eu cadw'n gyfrinachol.
  • Efallai y byddwn am ddatgelu eich manylion i'r bobl sy'n gysylltiedig  â'r ymchwiliad, ond byddwn bob amser yn trafod hyn gyda chi yn gyntaf.
  • Cewch eich diogelu rhag achosion o ddial o dan y polisi hwn (gweler paragraff 4.7) ond, os ydych yn pryderu o hyd, fe'ch anogir i drafod hyn gyda ni a byddwn yn ystyried pa mor bell y gallwn fynd er mwyn cadw eich pryderon yn gyfrinachol.
  • Os ydych yn ystyried mynegi eich pryder yn ddienw, gofynnir i chi ailystyried, gan fod pryderon o’r fath yn llawer llai pwerus ac yn anodd eu cadarnhau yn gyffredinol. Hefyd, os nad oes unrhyw un yn gwybod pwy ddarparodd y wybodaeth, ni ellir rhoi sicrwydd i chi neu eich diogelu. Os byddwch, ar ôl derbyn y cyngor angenrheidiol (gweler Adran 8), yn parhau’n amharod i roi eich enw i’r datgeliad, yn absenoldeb unrhyw ddewis amgen, dylech wneud hynny’n ddienw. Lle mae tystiolaeth ar gael i gadarnhau honiad, bydd pryder o’r fath yn cael ei archwilio.

Sut y gellir mynd â'r mater y tu allan i'r Awdurdod

Nod y polisi hwn yw rhoi cyfrwng i chi godi pryderon o fewn yr Awdurdod. Os byddwch yn teimlo ei bod hi'n briodol mynd â'r mater y tu allan i'r Awdurdod, mae llwybrau penodedig ar gael. Mae'r canlynol yn bwyntiau cyswllt priodol:

  • I wneud datgeliad i’r Archwilydd Cyffredinol Cymru ,dan y Public Interest Disclosure Act 1998 cysylltwch a’r swyddog PIDA drwy
  • ebost: whistleblowing@audit.wales
  • Ffôn:029 20 320 522
  • Chwythu'r Chwiban (yn agor mewn tab newydd)
  • Yr Heddlu.
  • Personau a Chyrff Penodedig Allanol: Mae'r ddolen atodedig yn rhoi rhestr o'r bobl a'r cyrff penodedig y gallwch wneud datgeliad iddynt. Os byddwch yn penderfynu chwythu'r chwiban a dweud wrth berson penodedig ar wahân i'ch cyflogwr, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi dewis y person neu'r corff cywir ar gyfer y mater rydych yn ei godi. Gellir gweld y rhestr o bersonau penodedig drwy fynd Blowing the whistle to a prescribed person (yn agor mewn tab newydd)

Honiadau Anwir/Camddefnyddio Gweithdrefn

Caiff y rhan fwyaf o bryderon eu codi gyda ni yn ddidwyll ond, weithiau, bydd rhywun yn gwneud honiad anwir o ran malais neu am ei fod yn credu y bydd ar ei ennill. Bydd unrhyw un y canfyddir ei fod yn gwneud hyn yn wynebu camau gweithredu o dan ein polisi disgyblu, a gall gael ei ddisgyblu am gamymddwyn neu hyd yn oed ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol.

Cyngor Annibynnol ar wneud datgeliad

Os ydych yn ystyried gwneud datgeliad ac nad ydych yn siŵr o'ch hawliau cyfreithiol, dylech ystyried gofyn am gyngor annibynnol. Mae nifer o asiantaethau allanol gwahanol y gallwch eu defnyddio:

  • Undeb Llafur: ni waeth pa Undeb Llafur rydych yn aelod ohono, fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch cangen leol a'ch swyddfa ranbarthol a cheisio cyngor ganddynt cyn gwneud unrhyw ddatgeliad. Unison guidance on whistleblowing (yn agor mewn tab newydd)
  • Protect: elusen chwythu'r chwiban sy'n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i bobl nad ydynt yn siŵr pa un a ddylent godi mater sy'n golygu chwythu'r chwiban yn y gwaith neu nad ydynt yn gwybod sut i wneud hynny. ( A elwid o’r blaen Public Concern at Work) Mae nifer o astudiaethau achos chwythu'r chwiban ar y wefan hon sy'n dangos y mathau o gamweddau sy'n achos pryder i chwythwyr chwiban ynhlyn â Protect. Caiff ei Llinell Gyngor Chwythu'r Chwiban (020 3117 2520) ei rheoli gan gyfreithwyr.
  • Mae llinell gymorth chwythu'r chwiban y GIG ar gael i staff gofal cymdeithasol. Mae’r llinell gymorth speakup.direct ar gael rhwng 08.00 a 18.00 yn ystod yr wythnos 08000 724 725 . Gallwch gysylltu â'r llinell gymorth os oes gennych bryderon ac nad ydych yn siŵr sut i'w codi neu os hoffech gael cyngor ar arferion gorau ym maes diogelu.

Hyrwyddwyr Chwythu’r Chwiban

Mae’r Awdurdod wedi penodi dau hyrwyddwr chwythu’r chwiban i godi proffil y Polisi, hyrwyddo ymwybyddiaeth ohono a sicrhau llywodraethu priodol ar ei gyfer.
Cllr Aaron Carey, cllr.aaron.carey@pembrokeshire.gov.uk
Cathryn Davies Cathryn.Davies@pembrokeshire.gov.uk
Os oes gennych safbwyntiau ynghylch sut y gellir gwella’r Polisi, croesawir eich adborth

Nodyn Atgoffa Terfynol – "Pethau i'w Gwneud ac i Beidio â'u Gwneud"

Gwnewch y canlynol

  • Gwneud nodyn o'ch pryderon yn syth (h.y. amseroedd, dyddiadau, tystion).
  • Mynegi eich amheuon wrth rywun ag awdurdod a phrofiad priodol.
  • Delio â'r mater yn brydlon.
  • Gofyn am gyngor gan reolwyr a/neu undeb llafur cydnabyddedig.

Peidiwch â gwneud y canlynol

  • Gwneud dim.
  • Bod ofn codi eich pryderon.
  • Mynd at unrhyw unigolion yn uniongyrchol neu eu cyhuddo.
  • Ceisio ymchwilio i'r mater eich hun.
  • Mynegi eich amheuon wrth unrhyw un ar wahân i'r sawl ag awdurdod priodol

Dylid darllen y Cod ar y cyd â'r Datganiad a Strategaeth Polisi Gwrth-dwyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo 2022-25 a'r Cod Ymddygiad ar Lawlyfr y Gweithwyr.

Mae pecyn e-ddysgu chwythu'r chwiban ar gael ar bwll dysgu Sir Benfro sydd ar gael i weithwyr fel rhan o sefydlu. Dylid darllen y Cod ar y cyd â'r Datganiad a Strategaeth Polisi Gwrth-dwyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo 2022-25 a'r Cod Ymddygiad ar Lawlyfr y Gweithwyr.

Mae pecyn e-ddysgu chwythu'r chwiban ar gael ar bwll dysgu Sir Benfro sydd ar gael i weithwyr fel rhan o sefydlu. 

ID: 9538, adolygwyd 01/12/2023