Polisïau a Gweithdrefnau

Polisi Cyflogaeth Foesegol

Ar 27 Tachwedd 2017, llofnododd yr Awdurdod God Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi (yn agor mawn tab newydd) Llywodraeth Cymru i ddangos ein hymrwymiad i ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy moesegol wrth gyflawni ein contractau. Penodwyd Arweinydd y Cyngor, sef y Cynghorydd David Simpson, fel ein Hyrwyddwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol ym mis Ebrill 2018.

Mae’r Cod yn ymdrin â’r materion cyflogaeth canlynol:-

  • Caethwasiaeth fodern a thorri hawliau dynol
  • Cosbrestru
  • Hunangyflogaeth ffug
  • Defnydd annheg o gynlluniau mantell a chontractau dim oriau
  • Talu’r Cyflog Byw

Cyhoeddwyd ein Cynllun Gweithredu Ymrwymiad i’r Cod Ymarfer (yn agor mawn tab newydd) ym mis Ebrill 2018, sy’n amlinellu’r camau y byddwn yn eu cymryd i gydymffurfio â’r 12 ymrwymiad sydd â’r nod o ddileu caethwasiaeth fodern a chefnogi arferion cyflogaeth foesegol yn ein cadwyni cyflenwi. Byddwn yn disgwyl i’n cyflenwyr lofnodi’r Cod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu modiwl e-ddysgu sydd ar gael yn Llywodraeth Cymru/Pecyn Cymorth/Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol (yn agor mewn tab newydd) a chyfres o becynnau cymorth i helpu sefydliadau i gydymffurfio â’r Cod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu animeiddiad (yn agor mewn tab newydd) ynglŷn â’r Cod hefyd. Yn 2018, cynhaliodd y gwasanaeth Caffael ddwy Sesiwn Cynyddu Ymwybyddiaeth ar gyfer rheolwyr contractau, a bydd yn parhau i gynnal y sesiynau hyn fel y bo’r angen.

Caethwasiaeth Fodern a Thorri Hawliau Dynol

Ac yntau’n rhan o’r sector Llywodraeth Leol, mae’r Awdurdod yn cydnabod bod ganddo gyfrifoldeb i weithredu’n gadarn yn erbyn caethwasiaeth a masnachu mewn pobl. Cyflwynwyd Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 (yn agor mewn tab newydd) i wneud caethwasiaeth, caethwasanaeth dan orfod a masnachu pobl yn drosedd yn y Deyrnas Unedig, ac rydym yn disgwyl i’n cyflenwyr gydnabod eu cyfrifoldeb nhw, dilyn arfer gorau a pharhau i geisio gwelliannau ar draws eu cadwyni cyflenwi. Mae gennym brosesau ar waith i gynorthwyo pobl sydd wedi goroesi Caethwasiaeth Fodern.

Byddwn yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Gartref am ddioddefwyr posibl.

Arferion Cyflogaeth

Mae Cytundeb Tâl 2019 y Cyd-gyngor Cenedlaethol wedi codi cyflogau gweithwyr llywodraeth leol yn unol â’r Cyflog Byw Cenedlaethol, sef £9.00 yr awr. Byddwn yn annog ein contractwyr i anelu at y Cyflog Byw.

Byddwn yn sicrhau nad yw hunangyflogaeth ffug yn digwydd ac nad yw contractau dim oriau yn cael eu defnyddio’n annheg. Rydym wedi derbyn yr egwyddorion a amlinellir yn y canllawiau ar y defnydd priodol o drefniadau oriau heb eu gwarantu mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn agor mewn tab newydd) ac yn adolygu’r defnydd o drefniadau oriau heb eu gwarantu yn yr Awdurdod yn rheolaidd.

Byddwn yn lliniaru risg cyflogaeth anfoesegol trwy asesu cymhwysedd yr holl hawliadau hunangyflogaeth yn rheolaidd yn erbyn canllawiau HMRC, ac yn sicrhau bod cynlluniau ac asiantaethau mantell wedi’u cofrestru â chyrff rheoleiddio priodol.

Mae ein polisïau’n sicrhau bod staff yn rhydd i ymuno ag undebau llafur. Disgwyliwn i’n contractwyr sicrhau bod Cynrychiolwyr Undebau Llafur yn gallu cysylltu ag aelodau a gweithwyr dan gontract, a bod unrhyw gais am
gydnabyddiaeth undeb llafur yn cael ei barchu.

Mae gennym fesurau ar waith trwy ein timau sicrhau ansawdd contractau i wneud yn siŵr bod yr holl wasanaethau a ddarperir yn allanol yn cydymffurfio â Chod Ymarfer (Dwy Haen) 2014 (yn agor mewn tab newydd) ar Faterion y Gweithlu a bod hawliau cydnabod undeb llafur yn cael eu trosglwyddo fel mater o drefn o dan Reoliadau TUPE 2006 (yn agor mewn tab newydd). Rydym yn cydnabod y disgwyliwn i ni wneud datganiad blynyddol i Lywodraeth Cymru i’r perwyl hwnnw.

Lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn ymgysylltu’n uniongyrchol â gweithwyr ynein cadwyn gyflenwi i amlygu a mynd i’r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol, gan gynnwys defnyddio cosbrestru. Mae’r Awdurdod yn annog ei holl weithwyr, cwsmeriaid, contractwyr, ymgynghorwyr, gweithwyr achlysurol, gwirfoddolwyr a gweithwyr asiantaeth i roi gwybod am unrhyw bryderon ynglŷn â gweithgareddau uniongyrchol yr Awdurdod, neu ei gadwyni cyflenwi, trwy ein Polisi Chwythu’r Chwiban (yn agor mewn tab newydd). Mae hyn yn cynnwys unrhyw amgylchiadau a allai arwain at risg uwch o gaethwasiaeth, masnachu pobl neu arferion cyflogaeth anfoesegol.

Byddwn hefyd yn cyfeirio at ein Cod Ymddygiad (yn agor mewn tab newydd) mewn gwybodaeth gaffael ac yn annog ein holl gontractwyr neu sefydliadau partner i barchu’r Cod.

Bydd gwasanaeth Caffael yr Awdurdod yn cymryd camau pendant i geisio amlygu meysydd risg uchel mewn contractau presennol, a byddwn yn cynnwys copi o’r Datganiad Polisi hwn ym mhob tendr i roi gwybodaeth i’n cadwyn gyflenwi. Byddwn yn cynhyrchu a chyhoeddi datganiad ysgrifenedig blynyddol yn unol ag ymrwymiad 11 y Cod, sy’n cyflawni gofynion Adran 54 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

ID: 9534, adolygwyd 09/11/2023