Pont Cleddau
Pont Cleddau
Agor i bob cerbyd
Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd
Beth sy’n cael ei ddosbarthu fel Cerbyd Uchel?
Cerbydau Uchel yw unrhyw gerbydau sydd â phrif gorff neu gaban uwch nag 1.9m. Mae modd diystyried unrhyw allwthiadau bach uwchlaw’r lefel hon h.y. goleuadau, erialau neu reseli bach gwag ar y to neu fariau ac ati.
- Caiff lorïau
- faniau Transit
- bysiau mini
- Land Rovers
- carafanau
- ôl-gerbydau a llwythi ar reseli pen to a allai deimlo effaith y gwynt, neu debyg
eu dosbarthu fel cerbydau uchel ac ni chânt groesi’r bont. Caiff beiciau a beiciau modur hefyd eu dosbarthu fel 'mewn perygl' a’r cyngor yw peidio â chroesi’r bont pan fydd ar gau i gerbydau uchel.
Cael gwybod am statws y bont
Oeddech chi'n gwybod y gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am statws y bont drwy'r e-bost.
I dderbyn e-bost, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:-
- Creu cyfrif ar-lein
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif a dewis 'Fy manylion' (mae'r gwymplen wrth eich enw defnyddiwr)
- Yna dewiswch, ‘Fy hysbysiadau'
Amdan y Bont
Mae aber hir, llydan a dwfn Aberdaugleddau'n rhannu Sir Benfro yn ddwy ran. Mae 28 milltir o ffordd yn gwahanu Neyland ar y lan ogleddol a Doc Penfro yn y de. Cyn i'r bont gael ei chodi roedd y Cyngor Sir blaenorol yn gweithredu gwasanaeth fferi rhwng y ddwy lan. Roedd y fferi'n gallu cario hyd at 24 cerbyd a 250 o bobl bob taith.
Yng nghanol y 1960au, gydag Aberdaugleddau'n tyfu i fod yn borthladd olew mawr gyda'r gallu i drafod tanceri mwya'r byd, fe benderfynwyd cael gwared â'r gwasanaeth fferi ac adeiladu pont a ffordd newydd, a fyddai ar gael i'w defnyddio bob awr o'r dydd.
Penodwyd Syr Alexander Gibb a'i Bartneriaid a Freeman Fox a'i Bartneriaid fel peirianwyr ymgynghorol i ddylunio Pont Cleddau a'r bont lai dros Westfield Pill. Darparodd y ffordd newydd a'r bont gysylltiad priffordd rhwng trefi deheuol a gogleddol Sir Benfro a'r purfeydd olew ar lannau'r Cleddau.
Ym mis Medi 1968, A.E. Farr Limited enillodd y cytundeb i adeiladu Pont Cleddau gyda Horsley Bridge a Thomas Piggott Limited fel is-gontractwyr y gwaith dur. Yn ôl y cytundeb gwerth £2.1m, roedd y bont i'w chwblhau erbyn mis Mawrth 1971. Ar 2 Mehefin 1970, rhyw 21 mis ers dechrau'r gwaith, cwympodd cantilifer 60 metr ar y lan ddeheuol gan ladd 4 o bobl. Ailddechreuodd y gwaith ar y bont yn 1972, gyda'r cyntaf o'r unedau bocs newydd i gymryd lle'r rhai a ddifrodwyd yn cael eu codi ym mis Hydref 1972, rhyw 28 mis ar ôl y ddamwain.
Agorwyd y bont i draffig ym 1975. Yn ystod y flwyddyn gyntaf weithredol, defnyddiodd tua 885,900 o gerbydau'r bont.
Erbyn diwedd mis Mawrth 2009 cynyddodd y nifer i 4,600,407, sef y nifer uchaf a chofnodwyd erioed.
4.4 miliwn cerbydau'r flwyddyn yw'r ffigur cyfredol.