Pont Cleddau

Amdan y Bont

Mae aber hir, llydan a dwfn Aberdaugleddau'n rhannu Sir Benfro yn ddwy ran. Mae 28 milltir o ffordd yn gwahanu Neyland ar y lan ogleddol a Doc Penfro yn y de. Cyn i'r bont gael ei chodi roedd y Cyngor Sir blaenorol yn gweithredu gwasanaeth fferi rhwng y ddwy lan. Roedd y fferi'n gallu cario hyd at 24 cerbyd a 250 o bobl bob taith.

Yng nghanol y 1960au, gydag Aberdaugleddau'n tyfu i fod yn borthladd olew mawr gyda'r gallu i drafod tanceri mwya'r byd, fe benderfynwyd cael gwared â'r gwasanaeth fferi ac adeiladu pont a ffordd newydd, a fyddai ar gael i'w defnyddio bob awr o'r dydd. 

Penodwyd Syr Alexander Gibb a'i Bartneriaid a Freeman Fox a'i Bartneriaid fel peirianwyr ymgynghorol i ddylunio Pont Cleddau a'r bont lai dros Westfield Pill. Darparodd y ffordd newydd a'r bont gysylltiad priffordd rhwng trefi deheuol a gogleddol Sir Benfro a'r purfeydd olew ar lannau'r Cleddau.

Ym mis Medi 1968, A.E. Farr Limited enillodd y cytundeb i adeiladu Pont Cleddau gyda Horsley Bridge a Thomas Piggott Limited fel is-gontractwyr y gwaith dur. Yn ôl y cytundeb gwerth £2.1m, roedd y bont i'w chwblhau erbyn mis Mawrth 1971. Ar 2 Mehefin 1970, rhyw 21 mis ers dechrau'r gwaith, cwympodd cantilifer 60 metr ar y lan ddeheuol gan ladd 4 o bobl. Ailddechreuodd y gwaith ar y bont yn 1972, gyda'r cyntaf o'r unedau bocs newydd i gymryd lle'r rhai a ddifrodwyd yn cael eu codi ym mis Hydref 1972, rhyw 28 mis ar ôl y ddamwain.   

Agorwyd y bont i draffig ym 1975. Yn ystod y flwyddyn gyntaf weithredol, defnyddiodd tua 885,900 o gerbydau'r bont.

Erbyn diwedd mis Mawrth 2009 cynyddodd y nifer i 4,600,407, sef y nifer uchaf a chofnodwyd erioed. 

4.4 miliwn cerbydau'r flwyddyn yw'r ffigur cyfredol.

 
ID: 2625, adolygwyd 22/09/2022