Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol
Mae Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol (Community Land Trusts – CLTs) yn fath o gynllun tai dan arweiniad y gymuned. Menter a sefydlir ac a redir gan aelodau’r gymuned leol yw CLT er mwyn datblygu a rheoli cartrefi gan greu cyfleoedd newydd i gartrefu pobl Sir Benfro. Mae CLTs yn gweithredu fel ceidwaid hirdymor dros dai, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod mewn cyflwr da ac yn wirioneddol fforddiadwy i’r dyfodol, yn seiliedig ar yr hyn y bydd pobl yn ei ennill go iawn y eu hardal.
Mae Swyddog Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro’n gweithio gyda phartneriaeth yr amgylchedd adeiledig ar gyfer datblygiadau a rheoli ar sail partneriaeth, ynghyd â chymunedau, i sicrhau fod CLTs yn cael eu cyflenwi yn Sir Benfro ac er mwyn sicrhau gwytnwch hirdymor tai fforddiadwy.
Mae’r sector hon wedi tyfu’n gyflym dros y chwe blynedd ddiwethaf, ac erbyn hyn ceir dros 225 Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol yng Nghymru a Lloegr. Mae Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol wedi datblygu dros 700 o gartrefi fforddiadwy parhaol eisoes a’u bwriad yw datblygu 3000 o gartrefi pellach erbyn 2020. Mae gan yr Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol mwyaf dros 1000 o aelodau’r un.
Mae Rhwydwaith Cenedlaethol Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol yn ymwneud â sefydliadau sy’n hybu’r dull hwn, sy’n seiliedig ar arweiniad cymunedol. Fel y dyfynnir yng nghynlluniau’r Rhwydwaith Cenedlaethol Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, mae pob un yn rhannu’r egwyddorion canlynol:
- Mae’r gymuned yn chwarae rhan hanfodol drwy gydol y broses mewn penderfyniadau allweddol fel beth a ddarperir, ble ac ar gyfer pwy. Does dim rhaid iddyn nhw ddechrau’r sgwrs o reidrwydd, nac adeiladu’r cartrefi eu hunain.
- Ceir tybiaeth y bydd y grŵp cymunedol yn cymryd rôl ffurfiol hirdymor ym mherchnogaeth, stiwardiaeth a rheoli’r cartrefi.
- Diffinnir yn glir fanteision y cynllun i’r ardal leol a / neu grŵp cymunedol penodedig, ac fe’i gwarchodir yn gyfreithiol am byth.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddog Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro