Bancio Amser
Mae Bancio amser yn cynnig system gyfnewid sy’n defnyddio amser yn lle arian. Mae’n creu strwythur ble gall pobl gyfnewid eu hamser a’u sgiliau ar sail fesul awr â’i gilydd er lles pawb. Mae un awr = un ‘credyd amser’ a rhoddir gwerth cyfartal ar sgiliau ac amser er mwyn galluogi pawb i gymryd rhan.
Gall cyfranogwyr ennill a gwario cynifer o gredydau ag y dymunant, ac am bob awr a roddir, derbynnir credyd amser yn eu cyfrif. Gellir defnyddio credydau wedyn i gael mynediad i gymorth gan eraill yn y banc amser, cael mynediad i weithgareddau neu ddigwyddiadau cymdeithasol y mae’r banc amser wedi’u negodi â sefydliadau lleol, Gellir rhoi Credydau Amser i rywun arall hefyd, a bydd pob awr a ddefnyddir yn y ffyrdd amrywiol hyn yn cael eu tynnu o gyfrif.
Mae bancio amser yn cydnabod pob cyfranogwr o unrhyw oedran a gallu fel ased sy’ gallu cynnig rhywbeth i rywun arall. Nid oes rhaid i’r sgiliau a gynigir fod yn gymhleth o reidrwydd – mae mynd â’r ci am dro, bod yn gwmpeini, DIY syml neu hyd yn oed fynychu dosbarth, cwrs neu ddigwyddiad cymdeithasol oll yn asedau gwerthfawr i fanc amser.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Bancio Amser yn PAVS
01437 769422,
Dolenni defnyddiol