Cadwraeth a Gwelliant Bywyd Gwyllt a Natur

Mae gan Sir Benfro gyfoeth o fywyd gwyllt sy’n cyfrannu at hynodrwydd lleol; ymdeimlad o le sy’n darparu ansawdd bywyd ar gyfer nifer o drigolion lleol. Dyma sylfaen ein heconomi twristiaeth, mae’n cefnogi cynhyrchiant amaethyddol (trwy beilliadau, ailgylchu maethynnau a rheoli plâu) ac yn darparu rheolaeth llifogydd naturiol. 

Mae nifer o’n nodweddion naturiol mewn perygl yn sgil gweithgaredd dyn a dyma le y gallwch chi helpu! Gall unrhyw brosiect gael effaith ar ein bywyd gwyllt ond gyda’r wybodaeth a’r cynllunio cywir gallwch sicrhau ei fod yn effaith gadarnhaol! Gall hyn fod drwy reolaeth ymarferol o dir, ddŵr neu adeiladau neu trwy ddigwyddiadau cymunedol sy’n codi ymwybyddiaeth o’r problemau. Naill ffordd neu'r llall, mae deall pa nodweddion sy'n bwysig yn lleol yn gam cyntaf hanfodol tuag at gynllunio prosiect a fydd o fudd i fywyd gwyllt.

Mae Partneriaeth Natur Sir Benfro yn cydgysylltu ac yn hybu gweithredoedd newydd a chyfredol er mwyn diogelu a gwella bioamrywiaeth yn Sir Benfro ac sy’n hybu gwydnwch systemau eco.

Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth y Bartneriaeth yw’r pwynt cyswllt cyntaf er mwyn derbyn cyngor a gwybodaeth bellach ar nodweddion pwysig lleol a sut y dylid eu rheoli’n gadarnhaol.

E-bostiwch biodiversity@pembrokeshire.gov.uk neu ewch i gwefan bioamrywiaeth 

 

ID: 4141, adolygwyd 18/04/2023