Hyrwyddo Prosiect
Mae hyrwyddo prosiect yn helpu i gysylltu â phobl ac adeiladu cefnogaeth a brwdfrydedd lleol. Mae diweddariadau cyson wrth i brosiect dyfu yn sicrhau llif cyson o wybodaeth ac yn cynnal diddordeb. Mae digwyddiad dathlu lansiad yn cynnig cyfle arall i gysylltu â phobl a rhannu’r neges.
Dyma rai syniadau.
- Cael tîm ymroddedig neu rywun o fewn eich prosiect yn gyfrifol am gydlynu marchnata a hyrwyddo.
- Mae cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn ddull effeithiol iawn o hyrwyddo prosiect, dull sydd hefyd yn rhad ac am ddim. Gellir targedu cynulleidfaoedd eang iawn gyda’r wybodaeth.
- Cysylltu â sefydliadau a busnesau lleol i hyrwyddo’ch prosiect trwy’u rhwydweithiau, gan arddangos posteri a hysbysiadau am ddim.
- Mae cael erthygl olygyddol a lluniau am ddim mewn papur lleol, gyda stori ddiddorol yn ffordd effeithiol iawn o hyrwyddo.
- Cofiwch wirio’r cynnwys/gwybodaeth bob tro.