Mae’n hollbwysig eich bod yn paratoi cyllideb sy’n amlinellu costau i gyd-fynd â chynllun eich prosiect os ydych am gynllunio’n effeithiol.
Bydd cyllidebu yn eich helpu:
Bydd y gyllideb yn cynnwys:
Gwariant:eitemau i’w prynu, gorbenion gan gynnwys prydlesau/rhent, yswiriant, offer, cyflogau, costau hyrwyddo a marchnata. Dylid cynnwys costau swyddfa hefyd, megis ffôn, post, a chostau trafnidiaeth ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau. Dylid amcangyfrif unrhyw gostau anhysbys.
Cyfalaf neu Refeniw: Caiff eitemau gwariant eu penodi’n gyfalaf neu’n refeniw. Eitemau cyfalaf yw offer sydd â gwerth ailwerthu am hyd at 2 flynedd. Eitemau refeniw yw’r costau dyddiol neu gostau rhedeg megis rhent, gweinyddu, costau gwirfoddolwyr, yn ogystal â chostau cudd megis yswiriant a chredyd ffôn.
Incwm: Incwm o grantiau sydd eisoes wedi’u derbyn fyddai hwn ar y cychwyn, yn ogystal â symiau yr ydych yn rhagweld y byddwch yn ei dderbyn gan grantiau, tanysgrifiadau aelodaeth, ffioedd a rhoddion.
Ymddangosiad eich cyllideb
Cynllunio Busnes
Rheoli Arian
www.wcva.org.uk/managing-money
www.resourcecentre.org.uk/budgets-for-community-groups