Porth Pecyn Cymorth Gwybodaeth a Arweinir gan y Gymuned (CLIP)
Mae’r pecyn cymorth hwn yn darparu arweiniad sy’n ymwneud â gweithdrefnau a phrosesau gofynnol ar gyfer datblygiad prosiectau cymunedol a busnes. Bydd y cynnwys yn gymorth i unrhyw un sy’n datblygu syniadau prosiect newydd yn ogystal â grwpiau sefydledig sydd am wybodaeth benodol neu sydd am rwydweithio.
Bydd yn darparu enghreifftiau cenedlaethol a lleol o brosiectau sy’n arddangos syniadau gwych ar gyfer ysbrydoliaeth ac ‘ymarfer da.’ Mae’n rhestru cymorth defnyddiol ar-lein a chyngor sy’n cael ei gynhyrchu gan sefydliadau arbenigol gan gyfeirio’r ffordd at y cysylltiadau gorau am gyngor.
Mae’r deunydd hwn wedi cael ei ymchwilio ac yn cael ei ystyried i fod yn ddefnyddiol. Dylech, fodd bynnag sicrhau ymchwil trwyadl cyn i chi ddechrau ar eich prosiect. Nid yw Cyngor Sir Penfro yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am wybodaeth a ddarperir ar wefannau allanol.
Mae yma gyfeiriadaeth hefyd ar wybodaeth a chyfleoedd busnes. Os oes gwybodaeth yr hoffech nad yw, hyd yn hyn wedi cael ei gynnwys yma, cysylltwch â kevin.shales@pembrokeshire.gov.uk