Gall Safleoedd Segur (tir nad yw’n cael ei ddefnyddio neu adeiladau dros dro neu wag) ddarparu adnodd gwerthfawr i helpu i adfywio tir ac adeiladau ledled Sir Benfro. Gall troi problem yn gyfle gael effaith gadarnhaol ar ymddangosiad ardal Gall cynnwys a denu pobl leol wneud gwahaniaeth go iawn mewn cymunedau. Gallai hyn gynnwys hwyluso defnyddio gofod gwyrdd dros dro, safleoedd datblygu sydd wedi’u gadael yn segur neu eiddo gwag neu ddiddefnydd. Gweler y dudalen Syniadau ac Ysbrydoliaeth i gael enghreifftiau o brosiectau Safleoedd Segur.
Fe all hyn fod yn dir ble mae’r hinsawdd economaidd bresennol wedi peri i gynigion datblygu ddod i stop dros dro, ardal nad yw’n cael ei defnyddio a heb bwrpas clir, neu ardal wag neu segur sydd wedi cael ei gadael.
Fe all hyn fod yn ardal a arferai fod yn lleoliad adeiladau neu strwythurau, ble mae’r awdurdod cynllunio lleol bellach yn ei hybu fel tir addas ac ar gael i’w ailddatblygu
Yn gyffredinol, dyma dir neu ofod agored heb ddim pwrpas iddo, ble y gall fod angen dymchwel adeiladau neu efallai fod y tir wedi’i lygru gan ddefnydd blaenorol o’r safle.
Fe all fod yn
Fe all tir neu eiddo fod yn eiddo i Gyngor Sir Penfro, datblygwr neu unigolyn lleol, ble nad yw’r gwaith datblygu wedi dechrau eto. Fe all fod yn bosib cysylltu â’r tirfeddiannwr i gynnig defnydd dros dro i’r safle.
Mae’r tudalennau a’r dolenni o fewn i’r pecyn gwybodaeth hwn yn darparu mynediad llawn i arweiniad i weithdrefnau a phrosesau sydd angen eu dilyn ar gyfer datblygu busnes a phrosiectau cymunedol.