Wedi adnabod y manteision diwylliannol, cymunedol ac economaidd sy’n cael eu cynnig gan ddigwyddiadau.
Mae Cyngor Sir Penfro yn awyddus i annog digwyddiadau lleol ac atynnu digwyddiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol i’r Sir. Bydd angen caniatâd ar gyfer trefnu unrhyw ddigwyddiad ar dir sydd berchen i Gyngor Sir Penfro. Cysylltwch â’r adran eiddo ar
Mae’r Cyngor wedi creu Canllaw Diogelwch Digwyddiad, sy’n cynnig cymorth i drefnwyr digwyddiadau. Mae’n gyngor gweithredol ynglŷn â sut i drefnu/paratoi ar gyfer digwyddiad a phopeth sydd ynghlwm â gwneud hynny. Mae wedi’i ddylunio er mwyn helpu trefnwyr i gynnal digwyddiadau diogel sy’n cydymffurfio gyda’r gyfraith ac yn diogelu'r rheiny sy’n mynychu ac yn gweithio mewn digwyddiad.
Mae cynllunio da, paratoi a rheoli yn allweddol ar gyfer cael digwyddiad llwyddiannus a gellir defnyddio’r is-benawdau o fewn y canllaw fel rhestr wirio ar gyfer trefnu unrhyw beth a fyddai ei angen; bydd y canllaw hefyd yn nodi’r prif bwyntiau sydd angen eu hystyried mewn asesiad risg.
Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth ar y canlynol:
Bydd Strategaeth Digwyddiadau Mawr Cyngor Sir Penfro yn adnodd defnyddiol ar gyfer trefnu digwyddiadau bach, canolig neu fawr, a gellir dod o hyd iddo yma:
www.sir-benfro.gov.uk/hysbysiadau-digwyddiad-dros-dro