Yswiriant Prosiect
Mae’n bwysig eich bod yn trefnu yswiriant addas ar gyfer eich sefydliad a’ch prosiectau unigol. Trwy restru gweithgareddau eich grŵp a sicrhau eich bod yn cynllunio i leihau’r peryglon, cysidrwch pa fath o yswiriant fyddwch chi ei angen.
Opsiynau wrth Gymharu Yswiriant
- Gofynnwch pwy sy’n yswirio grwpiau cymunedol eraill
- Gall ymaelodi â sefydliadau sector wirfoddol alluogi i chi gael gostyngiadau ar yswiriant
- Defnyddiwch frocer i ganfod yswiriant, mae rhai broceriaid yn arbenigo mewn yswiriant ar gyfer elusennau a sefydliadau gwirfoddol
- Cysylltwch â darparwyr yswiriant yn uniongyrchol
- Defnyddiwch wefannau cymharu
- Edrychwch pa eitemau/gweithgareddau sydd yn cael eu hyswirio pan fyddwch yn cymharu, yn ogystal â’r lefelau gormodedd
Rhai Gwahanol Fathau o Yswiriant
Yswiriant atebolrwydd cyflogwyr
Mae hwn yn ofynnol os ydych yn cyflogi staff neu wirfoddolwyr er mwyn eich diogelu rhag hawliadau am anafiadau, colled, neu niwed i staff o ganlyniad i esgeulustod gan eich sefydliad. Gweler
Yswiriant atebolrwydd Cyhoeddus/Cynnyrch
Argymhellir i chi gael yr yswiriant yma os ydych yn cynnal gweithgareddau neu’n gynnig gwasanaethau er mwyn eich gwarchod rhag hawliadau am anafiadau, colled, neu niwed i staff o ganlyniad i esgeulustod gan eich sefydliad.
Yswiriant iawndal proffesiynol
Mae hwn yn gwarchod eich sefydliad rhag hawliadau am esgeulustod o ganlyniad i gyngor neu wybodaeth a roddwyd gennych.
Yswiriant costau cyfreithiol
Bydd hwn yn eich gwarchod rhag costau cyfreithiol y gallech wynebu wrth amddiffyn neu gyflawni gweithredoedd penodol.
Yswiriant eiddo (adeiladau a’u cynnwys)
Bydd hwn yn gwarchod eich sefydliad rhag niwed neu golled o’ch eiddo a'i gynnwys.
Yswiriant moduron
Mae hwn yn ofynnol os ydy’ch sefydliad yn berchen ar, neu’n defnyddio, cerbydau modur (rhaid cael yswiriant trydydd parti o leiaf)
Yswiriant digwyddiad
Bydd hwn yn gwarchod eich sefydliad rhag y costau a ddaw yn sgil canslo digwyddiad.