Prentisiaethau a Hyfforddiant
Ein Rhaglenni
Cymorth hyfforddi arbenigol Gwaith yn yr Arfaeth ar gyfer cyflogaeth a sgiliau
Dros 30 mlynedd o brofiad yn helpu pobl i ddod o hyd i swyddi a symud ymlaen yn eu bywydau
Mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi helpu mwy na 3000 o bobl yn Sir Benfro i newid eu bywydau er gwell drwy ddechrau ar gyflogaeth barhaol.
Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bethau sy'n achosi i’r farchnad swyddi fod yn anodd i rai pobl.
- Efallai nad ydych chi wedi bod yn gyflogedig ers peth amser a bod angen help arnoch chi gyda hyder neu sgiliau i allu chwilio am waith eto.
- Efallai bod gennych gyflwr iechyd neu anabledd.
- Efallai eich bod wedi bod allan o waith yn gofalu am blentyn neu berthynas.
- Efallai eich bod chi am ennill sgiliau neu gymwysterau i helpu i symud tuag at waith.
Beth bynnag yw eich amgylchiadau, gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffordd o wneud i gyflogaeth weithio i chi.
Cynllun Gweithredu Personol
Ydych chi wedi bod yn chwilio am swydd? Mae ein gwasanaethau ni’n rhoi'r cymorth sydd ei angen ar bobl i ddechrau gweithio.
Gyda'n gilydd, byddwn yn creu cynllun gweithredu personol sy'n gweddu i'ch anghenion fel unigolyn a'ch uchelgeisiau o ran gwaith. Mae hyn yn cynnwys:
- Arweiniad un i un gan fentor arbenigol
- Help gyda CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
- Cymorth ariannol gyda dillad gwaith a theithio
- Hyfforddiant sgiliau safon uchel
- Paratoi ar gyfer gwaith drwy leoliadau gwaith a threialon gwaith
- Mynediad i swyddi gwag na fyddech chi’n eu gweld fel arall
- Cymorth iechyd a lles
- Cyfeirio at sefydliadau arbenigol i gael cymorth parhaus
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Gwaith yn yr Arfaeth ar 01437 776437
neu e-bostiwch: futureworks@pembrokeshire.gov.uk