Prentisiaethau a Hyfforddiant
Cefndir
Mae gan Gyngor Sir Penfro dîm o arbenigwyr busnes ymroddedig mewn unedau o fewn ei adran Adfywio a'i enw yn gyfangorff yw Gwaith yn yr Arfaeth. Mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi bod yn trosglwyddo rhaglenni cyflogaeth a sgiliau yn llwyddiannus ers dros 30 mlynedd er mwyn cefnogi pobl ddi-waith ac anactif yn economaidd i ennill sgiliau ac i gael eu cyflogi.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi darparu'r rhaglenni canlynol yn llwyddiannus:
Y Fargen Newydd Hyblyg ar ran Working Links - gwasanaethau ar gyfer y di-waith hirdymor (dros 12 mis), gan ganolbwyntio ar wella cyflogadwyedd cwsmeriaid er mwyn iddynt gamu i mewn i'r byd gwaith. Mae'r gwasanaethau yn cynnwys cymorth mewn gwaith unwaith y bydd cwsmer wedi cael gwaith.
Cronfa Swyddi'r Dyfodol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau - 160 o leoedd i bobl ifanc (18-24 oed) sydd wedi bod yn ddi-waith er 6 mis neu ragor. Cafodd pobl ifanc y cyfle i ddatblygu sgiliau a chymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith ac i gael eu cyflogi am hyd at 6 mis wrth gael cyflog ar raddfa'r isafswm cyflog cenedlaethol.
Tasglu Cymunedol ar ran Groundwork UK - gwasanaethau i bobl ifanc (18-24 oed) sydd wedi bod yn ddi-waith er 9 mis neu ragor. Datblygodd pobl ifanc sgiliau sy'n berthnasol i waith drwy brosiectau cymunedol yn y trydydd sector neu'n fewnol. Mae Gwaith yn yr Arfaeth yn rheoli dau brosiect sy'n cael eu harwain gan oruchwylydd, gyda Llwybrau Beiciau Sustrans a Pharc Gwledig Maenor Scolton.
Dysgu Seiliedig ar Waith * ar ran Llywodraeth Cymru/AdAS - gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion di-waith drwy'r rhaglenni Adeiladu Sgiliau Pobl Ifanc ac Oedolion, Gwarant i Bobl Ifanc a Phrentisiaethau.
Mae'r Llwybrau Dysgu yn cynnwys: Peirianneg, Adeiladu, Gweinyddu Busnes a Hamdden Egnïol (Chwaraeon a Hamdden), Sgiliau Hanfodol, TGCh a chymwysterau Cyflogaeth. Mae Gwaith yn yr Arfaeth hefyd yn cynnig Prentisiaethau ac NVQ Lefel 2 a 3.
Prosiect PECS * ar ran Llywodraeth Cymru/AdAS - prosiect sgiliau peirianneg ac adeiladu ymarferol pwrpasol. Fe'i cynhaliwyd yn brosiect peilot yn rhan o'r Adolygiad Adeiladu Sgiliau. Ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion a oedd am wella eu sgiliau ymarferol ac i gael cyflwyniad i gyflogwyr sy'n recriwtio yn y sector ynni.
Mae Gwaith yn yr Arfaeth hefyd yn cynnal rhaglenni a gwasanaethau hyfforddi personol a sgiliau i Brosiect Engage Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Yn y gorffennol, mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi cynnal y rhaglenni cyflogaeth a sgiliau canlynol yn llwyddiannus:
- Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Ifanc a'r Fargen Newydd 25 oed a throsodd
- Canolfan Rhaglen
- Hyfforddiant cyn dechrau gweithio ar gyfer sectorau penodol - twristiaeth, manwerthu, canolfan alwadau
- Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl
- Dychwelyd i Gyflogaeth
Er 1993, cyn ad-drefnu'r llywodraeth leol yn 1996, Cyngor Sir Dyfed oedd yn meddu ar gontractau'r Ganolfan Byd Gwaith, gyda Gwaith yn yr Arfaeth yn cyflenwi elfennau Sir Benfro megis Clybiau Gwaith ym Mhenfro, Ceisio Gwaith, Ceisio Gwaith a Mwy, a chyrsiau Doethwaith ac Ailgychwyn.
* Ariannwyd y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop etc.