Prentisiaethau a Hyfforddiant

Gwaith yn yr Arfaeth yng Nghyngor Sir Penfro

Mae Gwaith yn yr Arfaeth yn arbenigo mewn gwasanaethau cyflogaeth a sgiliau, gan fynd i'r afael â bod heb waith a hyrwyddo symudedd cymdeithasol.

Mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi bod yn trosglwyddo rhaglenni cyflogaeth a sgiliau yn llwyddiannus ers dros 30 mlynedd er mwyn cefnogi pobl ddi-waith ac anactif yn economaidd i ennill sgiliau ac i gael eu cyflogi. 

Rydym yn deall yr amgylchedd gwaith lleol a thrwy adeiladu perthnasau cryf â chyflogwyr, partneriaid a chymunedau lleol, rydym wedi gallu cyflenwi canlyniadau arbennig hyd yn hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Mae ein cwsmeriaid yn cael cymorth sydd wedi'i bersonoli'n unigryw ar eu cyfer, sy'n cynnig rhagolwg swyddi gwell iddynt.

I gael rhagor o wybodaeth am ein hanes, ein datganiad cenhadaeth a'n gwerthoedd craidd, dilynwch y ddolen isod:

Rydym yn gweithio gyda'r bobl ganlynol -

  • Ceiswyr Gwaith
  • Cyflogwyr
  • Partneriaid
ID: 2461, adolygwyd 23/02/2023

Amdanom ni

Datganiad cenhadaeth Gwaith yn yr Arfaeth yw:

"Darparu hyfforddiant a gwasanaeth cymorth o safon uchel i wella sylfaen sgiliau unigolion ac i ychwanegu gwerth i fusnesau yn Sir Benfro."

Ein gwerthoedd craidd yw:

  • Bod gennym agwedd bositif a chadarnhaol
  • Rydym yn ymfalchïo mewn rhagori ar y disgwyliadau
  • Rydym yn helpu i godi ac i wireddu dyheadau
  • Rydym yn cael hwyl wrth ddarparu gwasanaeth proffesiynol a chyfeillgar
  • Rydym yn dangos parch mawr at bob cwsmer unigol
  • Rydym yn darparu amgylchedd saff a diogel i'n cwsmeriaid

Mae Gwaith yn yr arfaeth yn rhan o Adran Dysgu a Datblygu Cyngor Sir Penfro. Mae gennym dros 20 mlynedd o brofiad o gefnogi busnesau, gan helpu pobl yn ôl i'r gwaith a rhoi sgiliau i bobl ar gyfer y gweithle.

Os ydych yn chwilio am bobl newydd, gallwn gynnig gwasanaeth recriwtio am ddim.  Fe wnawn ni ddod i'ch adnabod chi a'ch busnes er mwyn i ni allu teilwra ein gwasanaethau i weddu i chi. 

Rydym wedi gweithio â chwmnïau ledled Gorllewin Cymru a thu hwnt i ddod o hyd i bobl sy'n frwdfrydig ac yn barod am waith.  Pan fyddwch yn recriwtio gyda ni fe gewch chi wasanaeth proffesiynol, effeithlon na fydd yn costio ceiniog i chi!

Byddwch yn cael:   

  • tîm o ymgynghorwyr cyflogaeth uchel eu cymhelliant s'yn chwilio am y bobl orau i lenwi'ch swyddi gwag
  • Ymgynghorydd Cyflogwr ymroddedig fel yr unig bwynt cyswllt  
  • gofod ystafell gyfarfod am ddim i gynnal cyfweliadau
  • y gallu i weithio prawf ymgeiswyr "mewn rôl" am hyd at 2 wythnos heb gost 

Byddwn yn:   

  • hysbysebu eich swydd wag o fewn ein systemau mewnol ar yr un diwrnod ag byddwch yn ei rhoi i ni  
  • byddwn yn gweithio gyda chi i baru ymgeiswyr addas â'ch manyleb bersonol er mwyn chi weld y bobl sy'n gymwys ar gyfer y swydd yn unig
  • rhoi diweddariadau cyson ynglŷn â hynt eich swydd wag
  • paratoi ein hymgeiswyr fel eu bod yn deall eich busnes

Mewn rhai achosion gallwn hefyd: 

  • gynnig hyfforddiant am ddim i "uwchsgilio" ymgeiswyr i ateb cylch gwaith eich swydd wag
  • cynnig rhaglenni prentisiaeth a rhoi cyngor ar y cyllid sydd ar gael i fusnesau

Yr hyn mae cyflogwyr yn ei ddweud

"Rydym yn falch iawn o'ch cynghori bod eich cymorth wrth ddod o hyd i staff dibynadwy o fantais fawr yn yr hinsawdd gyflogaeth bresennol. Roedd cael mis i sicrhau bod y dyn yn ymgyfarwyddo â'r swydd (a'r swydd â'r dyn), o fantais enfawr i ni gyd. Heb unrhyw amheuaeth, pan fydd arnom angen fwy o bersonél, byddwn yn cysylltu â chi unwaith eto. 

Cofion cynhesaf Geoff"

Capten Geoff White, Hutton & Co (Ships Chandlers) Ltd

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'n Tim Ymgysylltu â Chyflorgwyr 

Gwaith yn yr arfaeth, Adeilad y Farchnad, Stryd Melville, Doc Penfro, SA72 6XS. Ffôn: 01437  776437

Gwaith yn yr arfaeth, Unit 17, Cedar Court, Aberdaugleddau, SA73 3LS

Gwaith yn yr arfaeth, 19 Old Bridge Street, Hwlffordd, SA61 2AL.

Gwaith yn yr arfaeth, 3&4 St Mary Street, Aberteifi, SA43 1HA.

E-bost: futureworks@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2462, adolygwyd 23/02/2023

Cefndir

Mae gan Gyngor Sir Penfro dîm o arbenigwyr busnes ymroddedig mewn unedau o fewn ei adran Adfywio a'i enw yn gyfangorff yw Gwaith yn yr Arfaeth. Mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi bod yn trosglwyddo rhaglenni cyflogaeth a sgiliau yn llwyddiannus ers dros 30 mlynedd er mwyn cefnogi pobl ddi-waith ac anactif yn economaidd i ennill sgiliau ac i gael eu cyflogi.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi darparu'r rhaglenni canlynol yn llwyddiannus:

Y Fargen Newydd Hyblyg ar ran Working Links - gwasanaethau ar gyfer y di-waith hirdymor (dros 12 mis), gan ganolbwyntio ar wella cyflogadwyedd cwsmeriaid er mwyn iddynt gamu i mewn i'r byd gwaith. Mae'r gwasanaethau yn cynnwys cymorth mewn gwaith unwaith y bydd cwsmer wedi cael gwaith.

Cronfa Swyddi'r Dyfodol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau - 160 o leoedd i bobl ifanc (18-24 oed) sydd wedi bod yn ddi-waith er 6 mis neu ragor. Cafodd pobl ifanc y cyfle i ddatblygu sgiliau a chymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith ac i gael eu cyflogi am hyd at 6 mis wrth gael cyflog ar raddfa'r isafswm cyflog cenedlaethol.

Tasglu Cymunedol ar ran Groundwork UK - gwasanaethau i bobl ifanc (18-24 oed) sydd wedi bod yn ddi-waith er 9 mis neu ragor. Datblygodd pobl ifanc sgiliau sy'n berthnasol i waith drwy brosiectau cymunedol yn y trydydd sector neu'n fewnol. Mae Gwaith yn yr Arfaeth yn rheoli dau brosiect sy'n cael eu harwain gan oruchwylydd, gyda Llwybrau Beiciau Sustrans a Pharc Gwledig Maenor Scolton.

Dysgu Seiliedig ar Waith * ar ran Llywodraeth Cymru/AdAS - gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion di-waith drwy'r rhaglenni Adeiladu Sgiliau Pobl Ifanc ac Oedolion, Gwarant i Bobl Ifanc a Phrentisiaethau. 
Mae'r Llwybrau Dysgu yn cynnwys: Peirianneg, Adeiladu, Gweinyddu Busnes a Hamdden Egnïol (Chwaraeon a Hamdden), Sgiliau Hanfodol, TGCh a chymwysterau Cyflogaeth. Mae Gwaith yn yr Arfaeth hefyd yn cynnig Prentisiaethau ac NVQ Lefel 2 a 3.

Prosiect PECS * ar ran Llywodraeth Cymru/AdAS - prosiect sgiliau peirianneg ac adeiladu ymarferol pwrpasol. Fe'i cynhaliwyd yn brosiect peilot  yn rhan o'r Adolygiad Adeiladu Sgiliau. Ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion a oedd am wella eu sgiliau ymarferol ac i gael cyflwyniad i gyflogwyr sy'n recriwtio yn y sector ynni. 

Mae Gwaith yn yr Arfaeth hefyd yn cynnal rhaglenni a gwasanaethau hyfforddi personol a sgiliau i Brosiect Engage Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn y gorffennol, mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi cynnal y rhaglenni cyflogaeth a sgiliau canlynol yn llwyddiannus:

  • Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Ifanc a'r Fargen Newydd 25 oed a throsodd
  • Canolfan Rhaglen
  • Hyfforddiant cyn dechrau gweithio ar gyfer sectorau penodol - twristiaeth, manwerthu, canolfan alwadau
  • Y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl
  • Dychwelyd i Gyflogaeth

Er 1993, cyn ad-drefnu'r llywodraeth leol yn 1996, Cyngor Sir Dyfed oedd yn meddu ar gontractau'r Ganolfan Byd Gwaith, gyda Gwaith yn yr Arfaeth yn cyflenwi elfennau Sir Benfro megis Clybiau Gwaith ym Mhenfro, Ceisio Gwaith, Ceisio Gwaith a Mwy, a chyrsiau Doethwaith ac Ailgychwyn.

Ariannwyd y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop etc.

  

ID: 2467, adolygwyd 23/02/2023

Ein Rhaglenni

Cymorth hyfforddi arbenigol Gwaith yn yr Arfaeth ar gyfer cyflogaeth a sgiliau

Dros 30 mlynedd o brofiad yn helpu pobl i ddod o hyd i swyddi a symud ymlaen yn eu bywydau

Mae Gwaith yn yr Arfaeth wedi helpu mwy na 3000 o bobl yn Sir Benfro i newid eu bywydau er gwell drwy ddechrau ar gyflogaeth barhaol.

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bethau sy'n achosi i’r farchnad swyddi fod yn anodd i rai pobl.

  • Efallai nad ydych chi wedi bod yn gyflogedig ers peth amser a bod angen help arnoch chi gyda hyder neu sgiliau i allu chwilio am waith eto.
  • Efallai bod gennych gyflwr iechyd neu anabledd.
  • Efallai eich bod wedi bod allan o waith yn gofalu am blentyn neu berthynas.
  • Efallai eich bod chi am ennill sgiliau neu gymwysterau i helpu i symud tuag at waith.

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffordd o wneud i gyflogaeth weithio i chi.

Cynllun Gweithredu Personol

Ydych chi wedi bod yn chwilio am swydd? Mae ein gwasanaethau ni’n rhoi'r cymorth sydd ei angen ar bobl i ddechrau gweithio.

Gyda'n gilydd, byddwn yn creu cynllun gweithredu personol sy'n gweddu i'ch anghenion fel unigolyn a'ch uchelgeisiau o ran gwaith. Mae hyn yn cynnwys:

  • Arweiniad un i un gan fentor arbenigol
  • Help gyda CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • Cymorth ariannol gyda dillad gwaith a theithio
  • Hyfforddiant sgiliau safon uchel
  • Paratoi ar gyfer gwaith drwy leoliadau gwaith a threialon gwaith
  • Mynediad i swyddi gwag na fyddech chi’n eu gweld fel arall
  • Cymorth iechyd a lles
  • Cyfeirio at sefydliadau arbenigol i gael cymorth parhaus

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Gwaith yn yr Arfaeth ar 01437 776437

neu e-bostiwch: futureworks@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2463, adolygwyd 23/02/2023

Twf Swyddi Cymru +

Mae Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sy’n eu cefnogi i ennill y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Mae Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i chynnwys yn y Warant i Bobl Ifanc. Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Twf Swyddi Cymru + yn seiliedig ar anghenion pob dysgwr unigol, a’i nod yw cefnogi pob dysgwr unigol drwy ddarparu lwfans a chymorth gyda chostau teithio. Mae dysgwyr yn derbyn lwfans o £75* yr wythnos am bresenoldeb llawn yn un o'n pedair canolfan (Doc Penfro, Aberdaugleddau, Hwlffordd ac Aberteifi).

*mae hyn yn cynnwys lwfans pryd o £3.90 y dydd

 

Sut y gall Twf Swyddi Cymru + eich cefnogi chi?

Mae tri llinyn o gymorth yn gysylltiedig â Thwf Swyddi Cymru + ac mae'r un rydych chi’n ymgysylltu ag ef yn dibynnu ar ble rydych chi ar eich taith:

  • Llinyn Ymgysylltu: Mae'r cymorth hwn yn addas ar gyfer unigolion sy'n ansicr pa lwybr gyrfa y maent am ei ddilyn. Gall y cymorth a gynigir roi rhagflas o swyddi y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt a hefyd eich paratoi ar gyfer symud i gyflogaeth.
  • Llinyn Cynnydd: Mae'r cymorth hwn yn addas ar gyfer unigolion sydd â swydd neu yrfa benodol mewn golwg. Gall y cymorth a gynigir ddarparu hyfforddiant a sgiliau yn eich pwnc dewisol i’ch helpu i symud ymlaen i lefel uwch. Gallwch hefyd gael profiad gwaith gyda chyflogwyr.
  • Llinyn Cyflogaeth: Mae’r cymorth hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n barod i ddechrau gweithio ac sy’n gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud. Gall y cymorth a gynigir ddarparu cyfleoedd gwaith gyda chyflogwyr lleol. Mae cyflogwyr yn derbyn cymhorthdal cyflog gan Lywodraeth Cymru i fynd tuag at dalu eich cyflog am y chwe mis cyntaf y byddwch yn gweithio yno. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am raglen Twf Swyddi Cymru + Gwaith yn yr Arfaeth, cysylltwch â ni ar:

01437 776437

futureworks@pembrokeshire.gov.uk

Mae gwybodaeth am Dwf Swyddi Cymru + (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 2465, adolygwyd 01/08/2023

Lleoliadau a Chysylltiadau

Mae gan Gwaith yn yr Arfaeth ganolfannau gwasanaeth cwsmeriaid mewn lleoliadau hygyrch yng nghanol trefi Doc Penfro, Aberdaugleddau, Hwlffordd ac Aberteifi. Mae gennym gyfleusterau dysgu ym mhob un o'r lleoliadau hyn er mwyn cyflwyno ein rhaglenni sgiliau yn Noc Penfro.

Y Ganolfan Ddatblygu

Ffordd Llundain

Doc Penfro

Sir Benfro

SA72 6TT

Ffôn: 01437 776437

 

Unit 17

Cedar Court

Aberdaugleddau

Sir Benfro

SA73 3JP

Ffôn: 01437 776437

 

19 Old Bridge

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 2EZ

Ffôn: 01437 776437

 

Y Ganolfan Sgiliau

Stockwell Road

Doc Penfro

Sir Benfro

SA72 6TQ

01437 775663

Ffôn:  01437 775663

 

3&4 St Mary Street

Cardigan

SA43 1HA

 

 

 

ID: 2468, adolygwyd 23/02/2023