Prentisiaethau a Hyfforddiant

Twf Swyddi Cymru +

Mae Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sy’n eu cefnogi i ennill y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Mae Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i chynnwys yn y Warant i Bobl Ifanc. Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Twf Swyddi Cymru + yn seiliedig ar anghenion pob dysgwr unigol, a’i nod yw cefnogi pob dysgwr unigol drwy ddarparu lwfans a chymorth gyda chostau teithio. Mae dysgwyr yn derbyn lwfans o £75* yr wythnos am bresenoldeb llawn yn un o'n pedair canolfan (Doc Penfro, Aberdaugleddau, Hwlffordd ac Aberteifi).

*mae hyn yn cynnwys lwfans pryd o £3.90 y dydd

 

Sut y gall Twf Swyddi Cymru + eich cefnogi chi?

Mae tri llinyn o gymorth yn gysylltiedig â Thwf Swyddi Cymru + ac mae'r un rydych chi’n ymgysylltu ag ef yn dibynnu ar ble rydych chi ar eich taith:

  • Llinyn Ymgysylltu: Mae'r cymorth hwn yn addas ar gyfer unigolion sy'n ansicr pa lwybr gyrfa y maent am ei ddilyn. Gall y cymorth a gynigir roi rhagflas o swyddi y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt a hefyd eich paratoi ar gyfer symud i gyflogaeth.
  • Llinyn Cynnydd: Mae'r cymorth hwn yn addas ar gyfer unigolion sydd â swydd neu yrfa benodol mewn golwg. Gall y cymorth a gynigir ddarparu hyfforddiant a sgiliau yn eich pwnc dewisol i’ch helpu i symud ymlaen i lefel uwch. Gallwch hefyd gael profiad gwaith gyda chyflogwyr.
  • Llinyn Cyflogaeth: Mae’r cymorth hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n barod i ddechrau gweithio ac sy’n gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud. Gall y cymorth a gynigir ddarparu cyfleoedd gwaith gyda chyflogwyr lleol. Mae cyflogwyr yn derbyn cymhorthdal cyflog gan Lywodraeth Cymru i fynd tuag at dalu eich cyflog am y chwe mis cyntaf y byddwch yn gweithio yno. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am raglen Twf Swyddi Cymru + Gwaith yn yr Arfaeth, cysylltwch â ni ar:

01437 776437

futureworks@pembrokeshire.gov.uk

Mae gwybodaeth am Dwf Swyddi Cymru + (yn agor mewn tab newydd)

 

ID: 2465, adolygwyd 01/08/2023