Prentisiaethau a Hyfforddiant
Profiad Gwaith
Rydym yn falch o gynnig y Lleoliadau Profiad Gwaith canlynol ledled yr Awdurdod:
- Pensaernïaeth
- Ailgylchu
- Canolfan Ddydd/SAC
- Canolfan Hamdden
- Garej
- Cyfleusterau
- Archifwyr
- Cynllunio
- Cynnal a Chadw Adeiladau
Fel un o brif gyflogwyr Sir Benfro, rydym am ddarparu lleoliadau profiad gwaith ystyrlon trwy roi cyfleoedd i unigolion feithrin dealltwriaeth o ofynion y maes y cânt eu lleoli ynddo.
Gan fod angen goruchwyliaeth agos yn rhan o brofiad gwaith, rhaid cydbwyso'r cyfrifoldeb hwn â'n gofynion gweithredol.
Rydym yn gwybod bod yna nifer o gyfleoedd am brofiad gwaith gwahanol ar gael gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Ceisiadau am brofiad gwaith gorfodol ac anorfodol Ysgolion
- Ceisiadau am brofiad gwaith gorfodol ac anorfodol Colegau/Prifysgolion
- Ceisiadau am brofiad gwaith Ceiswyr gwaith
- Ceisiadau am brofiad gwaith yn rhan o raglen y Llywodraeth/adsefydlu
Mae ceisiadau am brofiad gwaith yn cael eu cyflwyno mewn sawl ffurf, a bydd adrannau'n gwneud eu gorau i ddarparu lleoliadau priodol ar gyfer pob unigolyn, lle bo hynny'n bosibl.
Y Broses Ymgeisio
Os hoffech wneud cais am leoliad profiad gwaith, gellwch gysylltu â ni yn uniongyrchol i gofrestru eich diddordeb, a hynny trwy anfon neges e-bost i: Recruit@pembrokeshire.gov.uk
Rhaid i chi amlinellu'r math o leoliad y mae gennych ddiddordeb ynddo a hyd y lleoliad yr hoffech ei gael. Bydd pob cais yn cael ei anfon wedi hynny at y rheolwr perthnasol er mwyn ystyried a fyddai'n briodol darparu profiad gwaith.