Presenoldeb Ysgolion a Lles Disgyblion
Amddiffyn Plant
Diogelu
Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu ac os oes gennych chi neu eraill bryderon am ddiogelwch neu les plentyn, person ifanc neu oedolyn, rhaid i chi weithredu ar y pryderon.
Cofnodwch y pryderon yn ysgrifenedig a’u rhannu â’r Tîm Asesu Gofal Plant NEU’r Tîm Diogelu Oedolion heb oedi.
Cofnodwch:
- Enw’r plentyn neu oedolyn
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Eich pryderon
- Enw a manylion cyswllt y cyfeirydd
Os oes gennych unrhyw amheuon, gallwch gysylltu â’r Tîm Asesu Gofal Plant neu’r Tîm Diogelu Oedolion i gael cyngor.
Peidiwch â thybio y bydd rhywun arall yn adrodd eich pryderon. Gweithredwch ac adroddwch eich pryderon ar unwaith. Ni ddylid disgwyl i blant ac oedolion sy’n agored i niwed fod yn gyfrifol am eu hunain nac eraill.
- Os yw’r unigolyn wedi cael anaf corfforol, galwch am gymorth meddygol.
- Gwrandewch arnynt.
- Peidiwch â chwestiynu.
- Peidiwch â beirniadu’r hyn rydych chi’n ei glywed.
- Peidiwch byth ag addo cyfrinachedd.
- Esboniwch beth rydych yn ei wneud a gweithredwch ar unwaith.
- Cysylltwch â’r Tîm Asesu Gofal Plant neu’r Tîm Diogelu Oedolion.
- Nodwch gynnwys eich sgwrs cyn gynted ag y bo modd.
Canllaw cyflym yw hwn ac nid yw’n disodli’r Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r polisïau sy’n berthnasol i chi.
Cysylltu â ni:
Tîm Asesu Gofal Plant: 01437 776444
Tîm Diogelu Oedolion: 01437 776056
Gwasanaethau Cymdeithasol tu allan i oriau gwaith: 0300 333 2222
Heddlu:
Ffoniwch 999 mewn argyfwng
Fel arall, ffoniwch 101
Rhifau ffôn defnyddiol eraill:
NSPCC: 0808 8005000
Childline: 0800 1111
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig: 0808 8010800
Arolygiaeth Gofal Cymru: 0300 7900126