Presenoldeb Ysgolion a Lles Disgyblion
Grant Cymorth Addysg Sir Benfro
(y Grant Datblygu Disgyblion a Mwy gynt)
Grant penodol i Sir Benfro yw hwn ac mae ar wahân i Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru.
Grant Cymorth Addysg Sir Benfro yn gynllun gan Gyngor Sir Penfro i gynorthwyo rhieni mewn amgylchiadau anodd gyda gwisg ysgol.
O Ebrill 2019, bydd Cyngor Sir Penfro yn cynnig grant o hyd at £125 y pen i ddisgyblion oedran ysgol statudol ar gyfer:
- Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau.
- Dillad chwaraeon ysgol, gan gynnwys esgidiau
- Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r Sgowtiaid, y Geidiaid, y cadetiaid, crefft ymladd, chwaraeon, y celfyddydau perfformio neu ddawns.
- Offer, e.e. bagiau ysgol a deunyddiau ysgrifennu.
- Offer arbenigol pan fydd gweithgareddau newydd yn y cwricwlwm yn dechrau, fel dylunio a thechnoleg.
- Offer ar gyfer teithio y tu allan i oriau ysgol, fel dysgu yn yr awyr agored, e.e. cotiau glaw.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ac mae ychydig o ddewis ynghylch yr hyn y gellid ei ariannu – ond mae'n rhaid iddo fod yn rhywbeth a fydd yn cefnogi cyflawniad y plentyn. Bydd penderfyniadau ar geisiadau yn cael eu gwneud gan y Gwasanaeth Lles Addysg ar gyfer eich ysgol.
Gall esiamplau o amgylchiadau anodd gynnwys:
- Teuluoedd yn profi cyfnod o bontio i Gredyd Cynhwysol ac yn profi oedi sylweddol mewn cael eu taliadau budd-dal.
- Colli eiddo yn sgil digwyddiad y tu hwnt i'ch rheolaeth, fel tân neu lifogydd.
- Plentyn sy’n gorfod symud ysgol ar fyr rybudd ar gyngor yr awdurdod lleol.
Cymorth arall i aelwydydd incwm isel
Mae ffynonellau cyfyngedig posib eraill ar gyfer cymorth ariannol:
Efallai y bydd rhieni sy’n cael
- Cymhorthdal Incwm Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn
neu daliad oherwydd un o'r budd-daliadau neu hawliau hyn am o leiaf 26 wythnos yn gallu ceisio am fenthyciad cyllidebu cronfa gymdeithasol o dan y categori dillad ac esgidiau gan y Ganolfan Byd Gwaith. Gall hawlwyr sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd geisio am Flaendal Cyllidebu.
Efallai y bydd cymorth ar gael oddi wrth gyrff llywodraethu neu gymdeithasau rhieni ysgolion. Gall hwn fod yn gymorth ariannol o gronfa galedi, cynllun cynilo, neu drwy ddarparu dillad ail-law.
I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â’r Swyddog Cymorth Disgyblion yn eich ysgol chi neu gofynnwch am ffurflen gais gan SUGS@pembrokeshire.gov.uk